Tudalen 1 o 3

Syniadau economaidd Saunders Lewis

PostioPostiwyd: Gwe 18 Tach 2005 1:19 pm
gan Dili Minllyn
Oes 'na rywrai hyd heddiw yn gweld gwerth yn syniadau economaidd Saunders Lewis?

Fe ddisgrifiodd SL gyfalafiaeth ddiwydiannol a'r farchnad rydd fel

PostioPostiwyd: Gwe 18 Tach 2005 1:25 pm
gan Cymro13
Gallwch weld dylanwad FFrenig yn amlwg yn ei syniadaeth Economiadd

PostioPostiwyd: Gwe 18 Tach 2005 1:35 pm
gan Rhys
Gwglais y Welsh Distributist Movement ac ymddengys bod/roedd eu cyfeiriad postio yn Llundain :lol:

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2005 12:17 am
gan Cath Ddu
Difyr Dili.

Yn amlwg mae gwraidd syniadaeth Saunders yn Ffrainc a'r drefn gatholig ac mae'r agweddau hyn, sef cyfalafiaeth yr unigolyn, yn weddol amlwg yn ei waith.

Yr hyn sy'n hollol amlwg yw'r pellter sylweddol mae PC wedi drafeilio ers syniadaeth Saunders a fy nhaid ymysg eraill. Mae cofnod fy nhaid o etholiad 1945 yn etholaeth Caernarfon yn dangos pa mor ganolog i syniadaeth PC oedd agweddau SL yn 1945.

Dwi'n edrych ymlae yn arw i ddarllen cofiant Rhys o Gwynfor Evans dros y Nadolig - efallai y cawn wybod ganddo pryd y datblygodd PC yn gysgod o'r chwith Brydeinig o ran ei syniadaeth economaidd.

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2005 2:54 am
gan Sioni Size
Pwy oedd taid y boi ma eniwe? Ma wastad yn son am ei daid fel fod o'n wybodaeth cyhoeddus megis pa fis sy'n dilyn ionawr.

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2005 8:56 am
gan Tegwared ap Seion
:lol:

Wel tydi hi ddim yn gyfrinach fawr...! Ambrose Bebb. Un o sylfaenwyr y Blaid os dwi'n iawn?

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2005 10:36 am
gan Sioni Size
Damia....
nes i ruthro lawr grisia yn cofio be o'n i di neud yn feddw hwyr neithiwr. Ond yn rhy hwyr.
Wyps.
Cariwch ymlaen.

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2005 10:53 am
gan Siliseibyn
subtle size! Melltith di'r ddiod ma sdi, dwi'n deud 'tha chdi!! :lol:

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2005 2:20 pm
gan Mr Gasyth
Cath Ddu a ddywedodd:Difyr Dili.
Dwi'n edrych ymlae yn arw i ddarllen cofiant Rhys o Gwynfor Evans dros y Nadolig - efallai y cawn wybod ganddo pryd y datblygodd PC yn gysgod o'r chwith Brydeinig o ran ei syniadaeth economaidd.


Dau gam fed dybiwn: 60/70au efo Cynllun Economaidd Wigley a Phil Williams wedyn madwysiadu'r 'label' sosialaidd ym 1981.

PostioPostiwyd: Maw 22 Tach 2005 9:27 pm
gan Cath Ddu
Mr Gasyth a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Difyr Dili.
Dwi'n edrych ymlae yn arw i ddarllen cofiant Rhys o Gwynfor Evans dros y Nadolig - efallai y cawn wybod ganddo pryd y datblygodd PC yn gysgod o'r chwith Brydeinig o ran ei syniadaeth economaidd.


Dau gam fed dybiwn: 60/70au efo Cynllun Economaidd Wigley a Phil Williams wedyn madwysiadu'r 'label' sosialaidd ym 1981.


Ti'n gywir fe dybiaf. Mae Wigley yn dal i gredu fod ei Gynllun Economaidd yn berthnasol :lol: