Arestio Dyn am Wadu'r Holocaust

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Llun 21 Tach 2005 4:32 pm

Mae cofnod diddorol iawn am y pwnc ar gael ar y blog yma, gyda llaw
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Iesu Nicky Grist » Llun 21 Tach 2005 5:19 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Nid datgan barn yw celwydd.


"Odi'n din 'i'n edrych yn fowr yn hon?"
"Naaaaaaaaaaaaadi" :rolio:


Ei, ti'n iawn 'fyd. :winc:
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Dili Minllyn » Llun 21 Tach 2005 8:23 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'n falch fod y cyfreithiau hyn yn bodoli. Nid datgan barn yw celwydd.

Ar un adeg, mi faswn i wedi cytuno'n ddigwestiwn. Erbyn hyn, dwi ddim mor sicr. Mi ges i fy magu mewn teulu Iddewig, ac atgofion am yr Holocaust o 'nghwmpas ymhob man. A dweud y gwir, alla i ddim meddwl yr un peth fuodd yn fwy o ddylanwad arna i na thynged Iddewon Ewrop o dan Nats
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Cath Ddu » Llun 21 Tach 2005 10:52 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Gan bwyll efo'ch gwaharddiadau, felly.


Cyfraniad ardderchog a phwynt cryf. Dwi'n cytuno fod fy marn ar y mater hwn yn groes i fy marn ar bron bob mater arall, ond mae gwadu difa Iddewon Ewrop yn fwy na barn fe dybiaf. Felly dyma dderbyn fy mod yn anghyson ond dwi'n dal at fy mhwynt.

Dwi hefyd yn cydymdeimlo'n llwyr efo cyfraniad Dylan.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 22 Tach 2005 12:02 am

Ma na academwyr (sy ddim yn cefnogi Natsiaeth) wedi dadlau bod amgylchiadau rhyfel wedi gyrru y Natsiaid i wneud yr hyn wnaetho nhw. Ac pe bai rhyfel ddim yna byddai y 'final solution' ddim wedi dod i fod.

Dwin gweld rhai rhinweddau i'r ddadl yna - dim ond dan amgylchiadau rhyfel y byddai'r Natsiaid wedi cal get-away gyda'r 'final solution'. Serch hynny roedd angen i'r casineb tuag at yr Iddewon fod yna yn y lle cyntaf - wnaeth y rhyfel ddim creu y casineb yna.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cath Ddu » Maw 22 Tach 2005 9:25 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ma na academwyr (sy ddim yn cefnogi Natsiaeth) wedi dadlau bod amgylchiadau rhyfel wedi gyrru y Natsiaid i wneud yr hyn wnaetho nhw. Ac pe bai rhyfel ddim yna byddai y 'final solution' ddim wedi dod i fod.

Dwin gweld rhai rhinweddau i'r ddadl yna - dim ond dan amgylchiadau rhyfel y byddai'r Natsiaid wedi cal get-away gyda'r 'final solution'. Serch hynny roedd angen i'r casineb tuag at yr Iddewon fod yna yn y lle cyntaf - wnaeth y rhyfel ddim creu y casineb yna.


Dwi ddim yn cytuno, roedd bwriadau y natsiaid yn achos yr Iddewon yn amlwg o' cychwyn. Fe gyfranaf ymhellach maes o law, ond fe fyddai y difa wedi digwydd rhyfel neu ddim rhyfel. Gellir dadlau y byddai y Natsiaid wedi llwyddo 100% pe na byddai rhyfel ac mae yna rinweddau i'r ddadl honno hefyd.

Yr hyn sy'n beryglus am y ddadl hon yw y syniad fod yna normaliaeth i Natsiaeth na fyddai wedi troi i eithafiaeth llofruddio ar sail hil - does dim tystiolaeth fod hyn yn wir. Dylid hefyd nodi fod rhyfel yn fwriad gan y Natsiaid o'r cychwyn cyntaf - dim ond amseru y peth oedd yn y fantol.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Garnet Bowen » Mer 23 Tach 2005 8:56 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ma na academwyr (sy ddim yn cefnogi Natsiaeth) wedi dadlau bod amgylchiadau rhyfel wedi gyrru y Natsiaid i wneud yr hyn wnaetho nhw. Ac pe bai rhyfel ddim yna byddai y 'final solution' ddim wedi dod i fod.


Pa academwyr? Dwi erioed wedi dod ar draws hanesydd difrif fyddai'n cefnogi'r fath safbwynt. Fedri di enwi un?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan HBK25 » Mer 23 Tach 2005 9:05 am

Dr Dave Bloggs o'r University of Stuff Someone Heard on the History Channel but can't quite remember all the Facts, Dudley.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan HBK25 » Mer 23 Tach 2005 11:21 am

Mae'r edefyn yma wedi gwneud i mo asesu fy safbwyntiau ar nifer o bynicau. Dw i'n meddwl fod pawb yn hiliol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd; ond ydi dweud fod y Holocaust byth wedi digwydd yn haeddu cosb fel hyn go iawn? Dwi ddim yn siwr.

Mae'r hawl i gawl unrhyw farn - sdim ots pa mor wirion neu ddrwg - yn rhan bwysig o unrhyw gymdeithas rydd. Dydi'r dyn ddim wedi dweud fod yn rhaid i bob adain dde llad Iddewon, neu ymddwyn yn dreisgar atyn nhw. Felly lle mae'r trosedd?

Mae gan yr achos yma parallels hefo straeon an gynghorau yn newid teitlau pantomimes, neu cael "festivals of light" amser 'Dolig i fod yn PC. Dwi'n meddwl fod dathlu genedigaeth rhywun 2000 mlynedd yn ol pan 'does dim tystiolaeth am ei "wyrthiau" yn wirion, ond 'sgen i ddim byd yn erbyn pobl rhag gwneud hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Cath Ddu » Mer 23 Tach 2005 12:19 pm

HBK25 a ddywedodd:Mae'r hawl i gawl unrhyw farn - sdim ots pa mor wirion neu ddrwg - yn rhan bwysig o unrhyw gymdeithas rydd.


Cytuno, ond nid Barn yw gwadu difa'r Iddewon yn Ewrop.

Serch hynny, dwi'n cytuno. Tydi'r mater ddim yn hawdd.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai