Arestio Dyn am Wadu'r Holocaust

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Sad 19 Tach 2005 1:00 am

Macsen a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'n falch fod y cyfreithiau hyn yn bodoli. Nid datgan barn yw celwydd.


Ond onid dylse hawl unigolyn i gael dweud rhydd gael ei amddiffyn, hyd yn oed pan mae beth sy'n dod o'i geg yn agosach i ddolur rhydd?


Mae gan bawb hawl i FARN ond nid barn yw gwadu difa'r Iddewon ond celwydd. Fel y gwyddost Macsen, a tithau'n gyw newyddiadurwr, cei ddatgan dy farn hyd syrffed ond dweud celwydd?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Garnet Bowen » Sad 19 Tach 2005 12:15 pm

Er fod 'na ran ohona fi'n falch o weld David Irving o dan glo, mae'n rhaid i mi ddeud mod i'n anghysurus gyda'r syniad o garcharu pobl am leisio'u barn, hyd yn oed pan fo honno'n farn ffiaidd. Dwi'n derbyn dy bwynt di, Cath Ddu, sef bod achos llys wedi profi fod gwaith Irving heb unrhyw sail ffeithiol. Ond a ydi hi'n briodol gyrru pobol i'r carchar am ddeud celwydd? Oni fyddai'r rhan fwyaf ohonom ni yn y ddalfa petai deud celwydd yn drosedd?

Yn bersonol, mae'n well gen i fynd i'r afael a dadleuon y bobl yma'n gyhoeddus, yn hytrach na'u tawelu nhw trwy eu taflu i garchar. Ar ol ei achos llys diweddar, mae hi'n amhosib i Irving fedru dadlau ei safbwynt yn rhesymegol. Mae 'na archwiliad trwyadl, di-duedd o'i waith wedi ei wneud, ac mae'r gyfraith wedi dod i'r casgliad mai rwtsh ydi ei "ymchwil". Ond drwy ei roi mewn cell, mi wyt ti'n gwthio ei ddadleuon i'r ymylon, lle nad ydyn nhw'n cael eu trafod yn agored. A drwy wneud hyn, mi wyt ti'n rhoi credniedd iddyn nhw yn llygaid y rhai sy'n dueddol o'u credu yn barod.

Hynny yw, mi fydd 'na rai neo-natsiaid yn Awstria yn gweld carchariad Irving fel rhywbeth sy'n atgyfnerthu grym ei ddadl. Yn eu llygaid nhw, mae hi'n ddadl mor gryf, mor wir, nes fod rhaid iddi gael ei chelu rhag y cyhoedd, rhag ofn iddyn nhw ddeffro o'u trwmgwsg ac ymuno a rhengoedd y neo-natsiaid. Gwell fyddai mynd ati - fel y gwnaeth Deborah Lipstadt - i ddymchwel ei ddadl yn gyhoeddus, gan danseilio ei gredinedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Mr Gasyth » Sad 19 Tach 2005 2:15 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Mae gan bawb hawl i FARN ond nid barn yw gwadu difa'r Iddewon ond celwydd. Fel y gwyddost Macsen, a tithau'n gyw newyddiadurwr, cei ddatgan dy farn hyd syrffed ond dweud celwydd?


Cytuno Cath, enllibio'r meirw mae pobl fel Irving yn ei wneud - gwadu na chawsant eu difa. Celwydd noeth, peryglus.

Ond wedyn, pa un sydd waethaf - dweud fod yr Iddewon yn haeddu cael eu difa (barn) ynteu gwadu iddo ddigwydd (celwydd)?

Trafodwch
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan HBK25 » Sad 19 Tach 2005 4:19 pm

Tasa'r dyn yn dweud : "It never happened but I think we should all go out, find the nearest Jew and do it again", yna mi fuasa'n wirion i wneud unrhywbeth ond ei garcharu.

Ond y peth yw: jyst dweud ei farn - pa bynnag mor ffiaidd oedd o - felly beth yw'r pwynt ei garcharu? Pe tasa i'n dweud rhywbeth fel: "slavery wasn't all that bad; at least they were fed", bydde hynna'n ddigon i mi gael fy ngarcharu?
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan HBK25 » Sad 19 Tach 2005 4:20 pm

Gyda llaw, dwi ddim o blaid caethwasiaeth. :crechwen: :(
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Cath Ddu » Sad 19 Tach 2005 9:20 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Gwell fyddai mynd ati - fel y gwnaeth Deborah Lipstadt - i ddymchwel ei ddadl yn gyhoeddus, gan danseilio ei gredinedd.


Dwi ddim y anghytuno'n chwyrn - ondf mae hygrededd Irving eisioes wedi'i chwalu ac eto mae'n fath o arwr i'r garfan fychan honno o neo-natsiaid sy'n parhau i bledio achos Hitler a'i waith.

Yn achos yr Almaen ac Awstria dwi'n credu fod atgoffa dyn yn ddyddiol o'r hyn ddigwyddodd a datgan fod gwadu gwir mor amlwg yn gyfystyr a pledio achos afiach yn rhesymol. Datgan y mae llywodraeth Awstria fod gwadu rhywbeth sydd mor amlwg wir yn gyfystyr a phledio achos Natsiaeth - a dyna'r drosedd.

Ni chredaf fod dangos gwendid dadl Irving yn llawer o gamp - mae ei holl safbwynt yn ddi-sail ac yn dangos agenda gwleidyddol. Dro ar ol tro mae haneswyr wedi dangos ei gangymeriadau ond parhau i deunu neges gelwyddog a wna Irving - onid yn Awstria i annerch cymdeithasau 'pan German' oedd Irving? Na, dwi ddim yn derbyn dy ddadl di (sy'n gyfystyr a dadl Simon Heffer yn y Telegraph heddiw). Does dim 'w ennill o drin safbwynt Irving fel barn sy'n haeddu trafodaeth - fe fyddai trafodaeth o'r fath yn rhoi ffug barch i'w gelwydd.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Sad 19 Tach 2005 9:22 pm

HBK25 a ddywedodd:Tasa'r dyn yn dweud : "It never happened but I think we should all go out, find the nearest Jew and do it again",


Dwi'n amheus pe byddai Irving yn dweud hynny :winc:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Mr Gasyth » Sul 20 Tach 2005 1:47 pm

HBK25 a ddywedodd:Pe tasa i'n dweud rhywbeth fel: "slavery wasn't all that bad; at least they were fed", bydde hynna'n ddigon i mi gael fy ngarcharu?


Barn yw hynne, er mae'n farn buaswn i'n anghytuno efo. Petaset ti'n dweud 'Ni ddigwyddodd caethwasiaeth, aeth yr Affricanwyr i Amerca o'u gwirfodd' buaset yn deud celwydd fel mae Irving yn wneud ac efallai buasai llywodraeth Liberia er enghraifft yn ei gweld yn deg i dy garcharu.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cath Ddu » Sul 20 Tach 2005 9:01 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Barn yw hynne, er mae'n farn buaswn i'n anghytuno efo. Petaset ti'n dweud 'Ni ddigwyddodd caethwasiaeth, aeth yr Affricanwyr i Amerca o'u gwirfodd' buaset yn deud celwydd fel mae Irving yn wneud ac efallai buasai llywodraeth Liberia er enghraifft yn ei gweld yn deg i dy garcharu.


Cymhariaeth dda.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dylan » Llun 21 Tach 2005 4:28 pm

Hmm. Fel Garnet 'dw i braidd yn anghyfforddus
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 51 gwestai