gan Garnet Bowen » Sad 19 Tach 2005 12:15 pm
Er fod 'na ran ohona fi'n falch o weld David Irving o dan glo, mae'n rhaid i mi ddeud mod i'n anghysurus gyda'r syniad o garcharu pobl am leisio'u barn, hyd yn oed pan fo honno'n farn ffiaidd. Dwi'n derbyn dy bwynt di, Cath Ddu, sef bod achos llys wedi profi fod gwaith Irving heb unrhyw sail ffeithiol. Ond a ydi hi'n briodol gyrru pobol i'r carchar am ddeud celwydd? Oni fyddai'r rhan fwyaf ohonom ni yn y ddalfa petai deud celwydd yn drosedd?
Yn bersonol, mae'n well gen i fynd i'r afael a dadleuon y bobl yma'n gyhoeddus, yn hytrach na'u tawelu nhw trwy eu taflu i garchar. Ar ol ei achos llys diweddar, mae hi'n amhosib i Irving fedru dadlau ei safbwynt yn rhesymegol. Mae 'na archwiliad trwyadl, di-duedd o'i waith wedi ei wneud, ac mae'r gyfraith wedi dod i'r casgliad mai rwtsh ydi ei "ymchwil". Ond drwy ei roi mewn cell, mi wyt ti'n gwthio ei ddadleuon i'r ymylon, lle nad ydyn nhw'n cael eu trafod yn agored. A drwy wneud hyn, mi wyt ti'n rhoi credniedd iddyn nhw yn llygaid y rhai sy'n dueddol o'u credu yn barod.
Hynny yw, mi fydd 'na rai neo-natsiaid yn Awstria yn gweld carchariad Irving fel rhywbeth sy'n atgyfnerthu grym ei ddadl. Yn eu llygaid nhw, mae hi'n ddadl mor gryf, mor wir, nes fod rhaid iddi gael ei chelu rhag y cyhoedd, rhag ofn iddyn nhw ddeffro o'u trwmgwsg ac ymuno a rhengoedd y neo-natsiaid. Gwell fyddai mynd ati - fel y gwnaeth Deborah Lipstadt - i ddymchwel ei ddadl yn gyhoeddus, gan danseilio ei gredinedd.