Tudalen 1 o 8

Arestio Dyn am Wadu'r Holocaust

PostioPostiwyd: Gwe 18 Tach 2005 6:16 pm
gan Macsen
Arestio dyn am wadu fersiwn swyddogol hanes - onid yw'n swnio fel rywbeth y byddai'r Natsiaid yn ei wneud? Mae pawb yn gwybod fod y holocaust wedi digwydd, yw un lembo yn dweud fel arall am wneud gwahaniaeth?

Trafodwch.

Re: Arestio Dyn am Wadu'r Holocaust

PostioPostiwyd: Gwe 18 Tach 2005 6:19 pm
gan Mihangel Macintosh
Macsen a ddywedodd: Mae pawb yn gwybod fod y holocaust wedi digwydd, yw un lembo yn dweud fel arall am wneud gwahaniaeth?


Fydde ti'n synnu. Roedd 15% o boblogaeth Yr Eidal yn gwadu iddo ddigwydd yn ol un arolwg barn llynedd....

Re: Arestio Dyn am Wadu'r Holocaust

PostioPostiwyd: Gwe 18 Tach 2005 6:38 pm
gan huwwaters
Macsen a ddywedodd:Arestio dyn am wadu fersiwn swyddogol hanes - onid yw'n swnio fel rywbeth y byddai'r Natsiaid yn ei wneud? Mae pawb yn gwybod fod y holocaust wedi digwydd, yw un lembo yn dweud fel arall am wneud gwahaniaeth?

Trafodwch.


Ie peth gwirion.

Cyfraith ydyw yn Awstria; peth arall yw bod unrhyw gefnogaeth dros Natsiaeth yn anghyfreithlon.

Dadl asgell-dde yw dweud na ddigwyddodd yr holocaust. Dwi'm yn gwbad pam ei fod o fydd iddynt wadu'r peth.

PostioPostiwyd: Gwe 18 Tach 2005 7:30 pm
gan Cymro13
Fi yn meddwl bod yn warth fod y boi yn anghytuno bod yr holocost wedi digwydd ond ar y llaw arall sai'n meddwl dylse fe gael ei arestio am ddweud ei farn os rhywbeth ma hyn ond yn gwneud y sefyllfa yn waeth ac yn denu mwy o gefnogwyr iddo fe

PostioPostiwyd: Gwe 18 Tach 2005 8:12 pm
gan Dili Minllyn
Dyma'r stori lawn. David Irving yw'r dyn dan sylw, wrth gwrs, wedi'i arestio ar warant o 1989.

Galla i weld pam mae cyfreithiau yn erbyn gwadu'r Holocaust, yn enwedig yn yr Almaen ac Awstria, ond mae rhaid rhoi'r hawl i bawb leisio ei farn, 'waeth pa mor ffiaidd. :(

PostioPostiwyd: Gwe 18 Tach 2005 11:12 pm
gan Tegwared ap Seion
He has based his views largely on a 1988 report by an American, Fred Leuchter, who analysed bricks and concrete from Auschwitz and concluded that gas chambers had not existed.


Oes rhywun wedi clywed am yr ymchwiliad yma o'r blaen?

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2005 12:18 am
gan Cath Ddu
Dwi'n falch fod y cyfreithiau hyn yn bodoli. Nid datgan barn yw celwydd.

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2005 12:37 am
gan Hen Rech Flin
Tegwared ap Seion a ddywedodd:
He has based his views largely on a 1988 report by an American, Fred Leuchter, who analysed bricks and concrete from Auschwitz and concluded that gas chambers had not existed.


Oes rhywun wedi clywed am yr ymchwiliad yma o'r blaen?


Os rhywbeth mae Fred Leuchter yn fwy o goc oen na David Irving.

Dyma ei hanes ar Wikipedia:

http://en.wikipedia.org/wiki/Fred_A._Leuchter

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2005 12:43 am
gan Cath Ddu
Hen Rech Flin a ddywedodd:Os rhywbeth mae Fred Leuchter yn fwy o goc oen na David Irving.

Dyma ei hanes ar Wikipedia:

http://en.wikipedia.org/wiki/Fred_A._Leuchter


Dweud da HRF, dweud da

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2005 12:52 am
gan Macsen
Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'n falch fod y cyfreithiau hyn yn bodoli. Nid datgan barn yw celwydd.


Ond onid dylse hawl unigolyn i gael dweud rhydd gael ei amddiffyn, hyd yn oed pan mae beth sy'n dod o'i geg yn agosach i ddolur rhydd?