Arestio Dyn am Wadu'r Holocaust

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dili Minllyn » Mer 23 Tach 2005 9:29 pm

HBK25 a ddywedodd:Jyst pwynt bach i'w trafod, ydi o'n gyfreithlon i wahardd pleidiau Neo-Natsiaidd ym Mhrydain. Just wondering?

Dw i ddim yn meddwl. Mi ofynnais i blismon unwaith oedd e'n gallu symud ymlaen criw o hogiau'r BNP oedd yn dosbarthu taflenni ffiaidd yn ein tref. "Dim ond os ydyn nhw'n llenwi'r pafin a chadw pobl rhag pasio," meddai fe, "Dyn nhw ddim yn gorff anghyfreithlon."

Cath Ddu a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Ma na academwyr (sy ddim yn cefnogi Natsiaeth) wedi dadlau bod amgylchiadau rhyfel wedi gyrru y Natsiaid i wneud yr hyn wnaetho nhw. Ac pe bai rhyfel ddim yna byddai y 'final solution' ddim wedi dod i fod.

Dwi ddim yn cytuno, roedd bwriadau y natsiaid yn achos yr Iddewon yn amlwg o' cychwyn.

Rhaid cydweld efo'r Gath yn fan hyn. Er na chytunwyd yn ffurfiol ar yr Ateb Terfynnol tan 1942, roedd y llofruddio'n mynd ymlaen ers tro. Agorwyd y gwersyll marwolaeth cyntaf yn Dachau yn 1933, a phan aeth y Wehrmacht i mewn i Wlad Pŵyl yn 1939, roedd Einsatzgruppen yn dynn ar eu sodlau, yn unswydd er mwyn lladd Iddewon a phobl "beryglus" eraill (gan gynnwys Comiwynddion ac offeiriaid Pabyddol). Saethu oedd y prif ddull ar y cychwyn, ond gan fod saethu sifiliad trwy'r dydd i'w weld yn tanseilio mor
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Owain Llwyd » Mer 23 Tach 2005 10:22 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Nid deddfu yn erbyn ffolineb nac i garcharu'r twp yw bwriad deddfau Awstria a gwledydd eraill yn erbyn gwadu'r holocaust. Eu bwriad yw sicrhau na fydd Awstria byth eto yn cael ei hudo i'r llwybr erchyll yr hudwyd hi iddo yn y 30au a'r 40au.

Bwriad Irving a'i gefnogwyr, i'r gwrthwyneb, yw ceisio "glanhau" Hitler a'i syniadaeth gan eu bod nhw am weld Ewrop yn cael ei hudo at erchyllterau Nats
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Cath Ddu » Iau 24 Tach 2005 5:35 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:Mewn cyd-destun o'r fath, dw i ddim yn gweld sut mae cosbi gwadu'r Holocawst yn cyflawni dim o bwys. Dydi o ddim yn atal y Neonats
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Owain Llwyd » Iau 24 Tach 2005 7:54 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Fel dwi wedi nodi uchod - mae Irving wedi traddodi darlithoedd i gymdeithasau 'pan German' mewn prifysgolion yn Awstria yn y gorffennol felly mae yna farc cwestiwn am dy ddarlun ystradebol braidd o neo Nazi.


Ddim fy narlun ystrydebol inna ydi'r thug neo-Nats
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Cath Ddu » Iau 24 Tach 2005 9:00 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:Wrth gwrs, dw i'n derbyn dy bwynt am gynulleidfa Irving yn y prifysgolion yn Awstria, ond mi fysai'n ddiddorol gen i wybod maint y cynulleidfaoedd mae o wedi'u denu.


Byddai un yn ormod. :drwg:

Doeddwn i ddim yn bwriadu awgrymu mae dy stereotype di oedd y neonazi - cystrawen fler ar fy rhan.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dili Minllyn » Llun 20 Chw 2006 6:24 pm

Mae Irving newydd gael tair blynedd o garchar. Mae ei eiriau fe yn ystod y prawf yn werth eu darllen.

David Irving a ddywedodd:I made a mistake when I said there were no gas chambers at Auschwitz...In no way did I deny the killings of millions of people by the Nazis.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Macsen » Llun 20 Chw 2006 6:57 pm

Cosbedigaeth ynfyd. Cosbi rywun am farn roedd ganddo dau ddeg mlynedd yn
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 20 Chw 2006 7:52 pm

Mae'r ffaith ei fod wedi ei gosbi am ddweud hynny, er mor ffol o beth i'w ddweud, yn uffernol. Ond tair mlynedd o garchar? Ymylu ar ffasgaeth ddudwn i!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Huw Psych » Llun 20 Chw 2006 8:21 pm

Cytuno HoR.

Y ffordd dwi wedi dehongli yr hyn y mae o yn ei ddweud ydi fod y bwriad yna gan y Natsiaid i ladd yr Iddewon, ond nad oedd y mwyafrif wedi cael eu llofruddio, ond wedi marw drwy salwch a gafodd ei achosi gan amodau gwael y concentration camps. Cofier hefyd am y Pwyliaid a'r Sipsi a'u lladdwyd yn ogystal.

Mr Irving, 67, says he has never claimed that the Holocaust did not happen.


Bum yn Auschwitz, mae'n le erchyll, a dydw i ddim yn gwadu'r holocost ar unrhyw gyfrif, ond mae rhoi 3 mlynedd o garchar am leisio barn ar union yr hyn a ddigwyddodd yn croes neud yr union hyn y ddylid ei ddysgu o'r holocost.

A wyddo chi mae cyfieithiad Almaenig yw Auchwitz o dref cyfagos. Alla i ddim cofio'r enw Pwyleg am y pentref ond wbath tebyg i Auschwietchim (Oświęcimski) ydi o. Diddorol de'. O.N. Cywirwch fi os ydw i'n anghywir!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Garnet Bowen » Llun 20 Chw 2006 8:34 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Nid deddfu yn erbyn ffolineb nac i garcharu'r twp yw bwriad deddfau Awstria a gwledydd eraill yn erbyn gwadu'r holocaust. Eu bwriad yw sicrhau na fydd Awstria byth eto yn cael ei hudo i'r llwybr erchyll yr hudwyd hi iddo yn y 30au a'r 40au.


Mi fyddwn i'n awgrymu nad dyma eu bwriad, mewn difri. Fel 'da ni wedi gweld ym Mhrydain yn ddiweddar - efo'r ddeddf "glorification of terror" - mae rhai deddfau yn cael eu pasio i "yrru neges". Y ffordd mwyaf effeithiol o rwystro ffasgaeth rhag ail-gydio yn yr Almaen neu Awstria ydi drwy wneud hawliau dynol yn rhan o gyfansoddiad cyfreithiol y wlad. Deddf "gyrru neges" ydi'r un yn erbyn gwadu yr holocaust. Y broblem efo deddfau fel hyn ydi fod pob unigolyn yn dehongli y neges yn ei ffordd ei hun. A'r perygl, fel dwi 'di ddeud eisioes, ydi fod neo-natsiaid yn credu fod cyfreithiau fel hyn yn dangos fod dadleuon y mwyafrif wedi methu, a fod rhaid tawelu "y gwirionedd".
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron