Arestio Dyn am Wadu'r Holocaust

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Hen Rech Flin » Mer 23 Tach 2005 12:48 pm

Dydy David Irving ddim yn ddyn gwirion, mae o'n ddyn hynod o alluog a darbwyllol. Dydy syniadau Irving a'i gefnogwyr ddim yn wirion, maen nhw'n beryglus.

Nid deddfu yn erbyn ffolineb nac i garcharu'r twp yw bwriad deddfau Awstria a gwledydd eraill yn erbyn gwadu'r holocaust. Eu bwriad yw sicrhau na fydd Awstria byth eto yn cael ei hudo i'r llwybr erchyll yr hudwyd hi iddo yn y 30au a'r 40au.

Bwriad Irving a'i gefnogwyr, i'r gwrthwyneb, yw ceisio "glanhau" Hitler a'i syniadaeth gan eu bod nhw am weld Ewrop yn cael ei hudo at erchyllterau Nats
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan HBK25 » Mer 23 Tach 2005 12:53 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
HBK25 a ddywedodd:Mae'r hawl i gawl unrhyw farn - sdim ots pa mor wirion neu ddrwg - yn rhan bwysig o unrhyw gymdeithas rydd.


Cytuno, ond nid Barn yw gwadu difa'r Iddewon yn Ewrop.

Serch hynny, dwi'n cytuno. Tydi'r mater ddim yn hawdd.


Ie, barn ydi o os mai dyna beth mae'r dyn yn wirioneddol ei gredu.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Cath Ddu » Mer 23 Tach 2005 1:35 pm

HBK25 a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:
HBK25 a ddywedodd:Mae'r hawl i gawl unrhyw farn - sdim ots pa mor wirion neu ddrwg - yn rhan bwysig o unrhyw gymdeithas rydd.


Cytuno, ond nid Barn yw gwadu difa'r Iddewon yn Ewrop.

Serch hynny, dwi'n cytuno. Tydi'r mater ddim yn hawdd.


Ie, barn ydi o os mai dyna beth mae'r dyn yn wirioneddol ei gredu.


:ofn:

Diffiniad diddorol o farn.

HRF - pleser cael cytuno.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan HBK25 » Mer 23 Tach 2005 1:45 pm

Barn = beth yw ti'n feddwl o rywbeth; dy safbwynt. Ffaith = rhywbeth hollol wahanol. Os mai dyna beth mae'r dyn yma'n choelio, dyna beth yw ei farn. Dydi rhywbeth ddim yn gelwydd os wyt ti'n feddwl ei bod yn wir. Mae'n anghywir, ond nid yn gelwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Cath Ddu » Mer 23 Tach 2005 1:48 pm

HBK25 a ddywedodd:Barn = beth yw ti'n feddwl o rywbeth; dy safbwynt. Ffaith = rhywbeth hollol wahanol. Os mai dyna beth mae'r dyn yma'n choelio, dyna beth yw ei farn. Dydi rhywbeth ddim yn gelwydd os wyt ti'n feddwl ei bod yn wir. Mae'n anghywir, ond nid yn gelwydd.


Sori, ond mae datgan nad oedd hil laddiad bwriadol o'r Iddewon yn gelwydd. Mae datgan fod Hitler wedi amddiffyn Iddewon rhag elfennau mwy eithafol y gyfundrefn Natsiaidd yn gelwydd.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan HBK25 » Mer 23 Tach 2005 1:55 pm

Sori, ond os yw'r Irving 'ma yn ddweud rhywbeth ar ol edrych ar y ffeithiau, dyna beth yw ei farn o. Barn ydi barn, hyd yn oed os ydi o'n anghywir.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Cath Ddu » Mer 23 Tach 2005 2:07 pm

HBK25 a ddywedodd:Sori, ond os yw'r Irving 'ma yn ddweud rhywbeth ar ol edrych ar y ffeithiau, dyna beth yw ei farn o. Barn ydi barn, hyd yn oed os ydi o'n anghywir.


Na, ti'n anghywir.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Macsen » Mer 23 Tach 2005 2:27 pm

Dwi'n meddwl mai pwynt Cath Ddu, HBK25, yw fod Daid Irving yn gwybod ei fod yn dweud celwydd ond yn mynd ati i wneud hynny beth bynnag yn y gobaith o wyngalchu hanes y Natsiaid.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan HBK25 » Mer 23 Tach 2005 2:38 pm

O, ok felly. Digon teg. Dwi ddim yn ffan o'r dyn - yn enwedig ar ol darllen y darn yn Wikipedia (er fod y gair "biased" yn "understatement").

Jyst pwynt bach i'w trafod, ydi o'n gyfreithlon i wahardd pleidiau Neo-Natsiaidd ym Mhrydain. Just wondering?
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan ceribethlem » Mer 23 Tach 2005 5:22 pm

Wedi darllen y ddau dudalen diwethaf, rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno bron iawn 100% gyda Cath Ddu. Mae Irving yn hanesydd o fry, ac felly yn gwbod ei ffeithiau, ond yn penderfynnu dweud celwydd i gefnogi ei wleidyddiaeth ffiaidd.
HBK25 a ddywedodd:Jyst pwynt bach i'w trafod, ydi o'n gyfreithlon i wahardd pleidiau Neo-Natsiaidd ym Mhrydain. Just wondering?
Fi ddim yn siwr am hyn. Gath Nick Griffin ei arestio am gynllwynio casineb hiliol (incitement for racial hatred), felly fi'n cymryd ei fod yn ddamcaniaethol bosib i arestio pob un o'r Neo-Nazis ym Mhrydain. Dyw hyn ddim cweit 'run peth a'u gwahardd yn gyfreithlon wrth gwrs.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai