Tudalen 6 o 8

PostioPostiwyd: Maw 21 Chw 2006 1:59 am
gan Tegwared ap Seion
Huw Psych a ddywedodd:A wyddo chi mae cyfieithiad Almaenig yw Auchwitz o dref cyfagos. Alla i ddim cofio'r enw Pwyleg am y pentref ond wbath tebyg i Auschwietchim (Oświęcimski) ydi o. Diddorol de'. O.N. Cywirwch fi os ydw i'n anghywir!


Oświęcim

PostioPostiwyd: Maw 21 Chw 2006 3:33 am
gan Hen Rech Flin
Garnet Bowen a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Nid deddfu yn erbyn ffolineb nac i garcharu'r twp yw bwriad deddfau Awstria a gwledydd eraill yn erbyn gwadu'r holocaust. Eu bwriad yw sicrhau na fydd Awstria byth eto yn cael ei hudo i'r llwybr erchyll yr hudwyd hi iddo yn y 30au a'r 40au.


Mi fyddwn i'n awgrymu nad dyma eu bwriad, mewn difri. Fel 'da ni wedi gweld ym Mhrydain yn ddiweddar - efo'r ddeddf "glorification of terror" - mae rhai deddfau yn cael eu pasio i "yrru neges". Y ffordd mwyaf effeithiol o rwystro ffasgaeth rhag ail-gydio yn yr Almaen neu Awstria ydi drwy wneud hawliau dynol yn rhan o gyfansoddiad cyfreithiol y wlad. Deddf "gyrru neges" ydi'r un yn erbyn gwadu yr holocaust. Y broblem efo deddfau fel hyn ydi fod pob unigolyn yn dehongli y neges yn ei ffordd ei hun. A'r perygl, fel dwi 'di ddeud eisioes, ydi fod neo-natsiaid yn credu fod cyfreithiau fel hyn yn dangos fod dadleuon y mwyafrif wedi methu, a fod rhaid tawelu "y gwirionedd".


Llongyfarchiadau i David Irving.

Dechreuodd yr edefyn yma gyda chondemniad llwyr gan fwyafrif y cyfranwyr o honno fo a'i ffieidd-dra.

Mae o'n cael carchar - ac yn sydyn iawn mae'r edefyn yn troi o'i blaid.

Bellach mae Irving, o bawb, yn arwr llamedryddion "rhyddid barn" y Maes. Mae o'n "ferthyr" a "dyn sy' di cael cam".

Mae'n ddrwg iawn gennyf. Yr wyf wedi credu ers blynyddoedd mae dyn peryglus yw Irvine, dyn drwg ydyw. A'r unig beth sy'n rhwystro fy llawenydd o'i weld o dan glo yw'r ffaith bod y ddedfryd mor ysgafn.

Arwydd o ryddfrydiaeth barn Awstria yw mai cyn lleied

PostioPostiwyd: Maw 21 Chw 2006 9:56 am
gan HBK25
Hen Rech Flin a ddywedodd:A phaham na chafodd Irvine ei gollfarnu ym Mhrydain, blynyddoedd yn

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 12:25 am
gan Huw Psych
Rhyddid barn yn bwysig, ond yr hyn dwi'n ddadlau ydi nad ydi o erioed wedi deud na fu i'r Holocost (H prif lythyren??) ddigwydd!

Mr Irving, 67, says he has never claimed that the Holocaust did not happen.

But he has questioned the number of Jews who died and denied that they were systematically murdered. Mr Irving contends that most Jews who died at Auschwitz did so from diseases such as typhus, not gas poisoning.


Dyda chi ddim yn meddwl weithiau fod Iddewon yn mynd chydig dros ben llestri? Does fiw i chi ddeud dim byd yn eu herbyn neu yn carchar y byddw chi! Dwi'n credu yn yr Holocost, ond gall yr hyn sydd yn y dyfyniad uchod fod yn wir. Onid yw'r Iddewon yn rhoi eu hunain uwchben pawb arall...yr hil berffaith, ydi hwn yn canu cloch?? :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 4:12 am
gan Hen Rech Flin
HBK25 a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:A phaham na chafodd Irvine ei gollfarnu ym Mhrydain, blynyddoedd yn

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 9:53 am
gan Garnet Bowen
Hen Rech Flin a ddywedodd:
HBK25 a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:A phaham na chafodd Irvine ei gollfarnu ym Mhrydain, blynyddoedd yn

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 9:55 am
gan Garnet Bowen
Huw Psych a ddywedodd:Dyda chi ddim yn meddwl weithiau fod Iddewon yn mynd chydig dros ben llestri? Does fiw i chi ddeud dim byd yn eu herbyn neu yn carchar y byddw chi! Dwi'n credu yn yr Holocost, ond gall yr hyn sydd yn y dyfyniad uchod fod yn wir. Onid yw'r Iddewon yn rhoi eu hunain uwchben pawb arall...yr hil berffaith, ydi hwn yn canu cloch?? :rolio:


Mae 'na un aelod o Maes-e wedi cael ei wahardd yn barod yr wythnos yma am bostio sylwadau hiliol, gwrth-iddewig. A rwan mae 'na rywun arall wrthi. Paid a siarad mor wirion, Huw.

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 10:37 am
gan ceribethlem
Garnet Bowen a ddywedodd:
Huw Psych a ddywedodd:Dyda chi ddim yn meddwl weithiau fod Iddewon yn mynd chydig dros ben llestri? Does fiw i chi ddeud dim byd yn eu herbyn neu yn carchar y byddw chi! Dwi'n credu yn yr Holocost, ond gall yr hyn sydd yn y dyfyniad uchod fod yn wir. Onid yw'r Iddewon yn rhoi eu hunain uwchben pawb arall...yr hil berffaith, ydi hwn yn canu cloch?? :rolio:


Mae 'na un aelod o Maes-e wedi cael ei wahardd yn barod yr wythnos yma am bostio sylwadau hiliol, gwrth-iddewig. A rwan mae 'na rywun arall wrthi. Paid a siarad mor wirion, Huw.
Cytunaf a thi Garnet. o edrych ar y linell mewn bold, gellir dadlau fod hyn yn wir am bob crefydd, y ffordd Gristnogol/Islamaidd/Hinwaidd ayyb yw'r unig ffordd o gyrraedd y nefoedd, felly mae'n hollol naturiol fod hyn yn ran o grefydd yr Iddewon hefyd.

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 11:08 am
gan Dili Minllyn
Huw Psych a ddywedodd:Onid yw'r Iddewon yn rhoi eu hunain uwchben pawb arall...yr hil berffaith, ydi hwn yn canu cloch?? :rolio:

Gwell i ti ddarllen ychydig am Iddewaeth cyn dweud pethau mor ddwl. Yn y traddodiad Iddewig, cyfrifoldeb yw bod yn Ddewis Bobl Duw, nid braint nac arwydd o ryw rinwedd neu ddaioni arbennig. (Nid bod y rhan fwyaf o Iddewon yn credu erbyn hyn mai nhw yw Dewis Bobl Duw, beth bynnag).

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 11:27 am
gan HBK25
Garnet Bowen a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:
HBK25 a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:A phaham na chafodd Irvine ei gollfarnu ym Mhrydain, blynyddoedd yn