Garnet Bowen a ddywedodd:Hen Rech Flin a ddywedodd:Nid deddfu yn erbyn ffolineb nac i garcharu'r twp yw bwriad deddfau Awstria a gwledydd eraill yn erbyn gwadu'r holocaust. Eu bwriad yw sicrhau na fydd Awstria byth eto yn cael ei hudo i'r llwybr erchyll yr hudwyd hi iddo yn y 30au a'r 40au.
Mi fyddwn i'n awgrymu nad dyma eu bwriad, mewn difri. Fel 'da ni wedi gweld ym Mhrydain yn ddiweddar - efo'r ddeddf "
glorification of terror" - mae rhai deddfau yn cael eu pasio i "yrru neges". Y ffordd mwyaf effeithiol o rwystro ffasgaeth rhag ail-gydio yn yr Almaen neu Awstria ydi drwy wneud hawliau dynol yn rhan o gyfansoddiad cyfreithiol y wlad. Deddf "gyrru neges" ydi'r un yn erbyn gwadu yr
holocaust. Y broblem efo deddfau fel hyn ydi fod pob unigolyn yn dehongli y neges yn ei ffordd ei hun. A'r perygl, fel dwi 'di ddeud eisioes, ydi fod neo-natsiaid yn credu fod cyfreithiau fel hyn yn dangos fod dadleuon y mwyafrif wedi methu, a fod rhaid tawelu "y gwirionedd".
Llongyfarchiadau i David Irving.
Dechreuodd yr edefyn yma gyda chondemniad llwyr gan fwyafrif y cyfranwyr o honno fo a'i ffieidd-dra.
Mae o'n cael carchar - ac yn sydyn iawn mae'r edefyn yn troi o'i blaid.
Bellach mae Irving, o bawb, yn arwr llamedryddion "rhyddid barn" y Maes. Mae o'n "ferthyr" a "dyn sy' di cael cam".
Mae'n ddrwg iawn gennyf. Yr wyf wedi credu ers blynyddoedd mae dyn peryglus yw Irvine, dyn drwg ydyw. A'r unig beth sy'n rhwystro fy llawenydd o'i weld o dan glo yw'r ffaith bod y ddedfryd mor ysgafn.
Arwydd o ryddfrydiaeth barn Awstria yw mai cyn lleied