Tudalen 7 o 8
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 11:30 am
gan nicdafis
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae 'na un aelod o Maes-e wedi cael ei wahardd yn barod yr wythnos yma am bostio sylwadau hiliol, gwrth-iddewig. A rwan mae 'na rywun arall wrthi. Paid a siarad mor wirion, Huw.
Dw i'n gobeithio taw anwybyddiaeth yn hytrach na chasineb sydd tu
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 1:56 pm
gan Huw Psych
Na, ni fyddai'r hyn sydd wedi ei roi yn uchod yn iawn gan ei fod yn osodiad anghywir. Ymddiheuraf am ynrhyw atgasedd a achoswyd, doedd gen i ddim bwriad o fod yn hiliol na gwrth-iddewig, does gen i ddim rheswm i fod!
Er hynny, allw chi ddim rhoi Cristnogion yn y frawddeg, gan nad ydi'r gosodiad yn ffitio! Dydi Cristnogion erioed wedi cael ei herlyn, mae'r Iddewon a pobl ddu America wedi. Yn wir, nid yw'n iawn i neb gael ei erlyn am liw ei groen neu ei grefydd ond dydi'r Iddewon ddim yn neud yr un peth drwy ymladd y Palestiniaid? Ymddiheuriadau pellach os ydw i'n bod yn anwybodus.
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 2:37 pm
gan HBK25
Huw Psych a ddywedodd:Dydi Cristnogion erioed wedi cael ei herlyn
Wel, mi gafon nhw eu herlyn yn hallt iawn yn Rhufain am dipyn. Ydi hynna'n cyfri?
'Doedd Lenin ddim yn rhy hoff ohonyn nhw, 'chwaith.
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 2:44 pm
gan nicdafis
Beth sy'n poeni fi Huw, yw dy fod di ddim yn deall bod 'na wahaniaeth rhwng "yr Iddewon" ac "llwyodraeth a byddin Israel".
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 2:50 pm
gan Huw Psych
Ymddiheuriadau, fy anwybodaeth.
<strike>Onid ydy nhw'n dilyn y grefydd Iddewig?</strike>
[gol. bellach wedi ymchwilio a gneud chydig o ddarllen,ac wedi cael ateb i fy nghwestiwn. Sori am ddod ar edefyn i stop.]
Postiwyd:
Sul 26 Chw 2006 1:37 am
gan Huw Psych
Ar ol darllen ymhellach
gweler fod David Irving wedi gwadu'r Holocost. Dwi ddim o blaid yr hyn ddywedodd o, ond dwi ddim yn siwr y gellid cyfiawnhau carchar am ddweud hyn. Dwi'n cytuno fod gwadu marwolaeth miloedd o eneidau yn beth cas/drwg i'w wneud, ond dwi ddim yn gallu ddallt pam fod gwadu'r Holocost wedi ei wneud yn anghyfreithlon mewn cymaint o wledydd? Alla i ddallt am y pryder o gael digwyddiadau tebyg i'r rhai a fu yn 30au a'r 40au, ond dydi o ddim yn mynd yn rhy bell?
Mi oeddwn i dan yr argraff fod y glwedydd
yma, fel ein gwlad ni yn wlad rhydd (free country), felly pam fod ymwadiad yr Holocost yn anghyfreithlon? Petae o'n gyfreithlon, efallai y byddai ysgolheigion yn fwy parod i drafod y mater ac i ddod i gasgliad terfynol, fydda ddim anghydfod wedyn a bydda pawb yn gallu cyd-fyw yn hapus!
Postiwyd:
Sul 26 Chw 2006 12:35 pm
gan nicdafis
Fel ti, dw i'n cytuno na ddylai gwledydd carcharu pobl am y pethau maent yn meddwl, ond nid dyna beth sy wedi digwydd yma. Mae Irvine wedi mynd i Awstria <b>er mwyn</b> torri'r cyfraith, i fod yn ferthyr, i ennill cefnogwyr i'w achos, sef Natsiaeth newydd (<i>neo-Nazism</i>). Mae rhaid bod yn glir am hyn: mae'n bosibl anghytuno
Postiwyd:
Sul 26 Chw 2006 1:52 pm
gan Huw Psych
Dwi ddim am eiliad yn cytuno efo Natsiaeth newydd, dydw i chwaith ddim yn gwadu'r Holocost, a dydw i ddim o blaid yr hyn mae Irvining wedi bod yn ei wneud a'i ddweud, ond efallai, sylwer...efallai, fod chydig o wirionedd rhai o'i safbwyntia am yr Holocost. Petae ddim deddfwriaeth fyddai pobl yn fwy parod i drafod y mater a mi fydda ni'n cael y gwir am yr hyn ddigwyddodd.
Onid ydi agweddau'r BNP yn debyg i rai Natsiaeth newydd, felly, oni ddylid carcharu'r rheiny sy'n ei anog?
Postiwyd:
Sul 26 Chw 2006 8:57 pm
gan ceribethlem
Huw Psych a ddywedodd:Onid ydi agweddau'r BNP yn debyg i rai Natsiaeth newydd, felly, oni ddylid carcharu'r rheiny sy'n ei anog?
Dyna paham y bu achos llys yn ddiweddar yn erbyn Nick Griffin a Mark Collett o'r BNP. Gweler
hwn a
hwn
Postiwyd:
Sul 26 Chw 2006 9:14 pm
gan Blewyn
Huw Psych a ddywedodd:...efallai, fod chydig o wirionedd rhai o'i safbwyntia am yr Holocost. Petae ddim deddfwriaeth fyddai pobl yn fwy parod i drafod y mater a mi fydda ni'n cael y gwir am yr hyn ddigwyddodd.
Digon gwir - da bysa cael cloi y mater. Wedi deud hynna, mae pethau yn dra wahanol yn Awstria a'r Almaen o ran diwylliant a gwleidyddiaeth, a mae nhw wedi dangos - o fewn cof byw - fod ganddynt y potensial i droi yn eithafol ac ymosod ar leiafrifoedd. Os ydy'r sefydliad yn y gwledydd hyn o'r farn bod angen y gyfraith i wahardd Natsiaeth drwy wneud gwadu'r holocost yn drosedd, eu busnes nhw yw hynna.
Onid ydi agweddau'r BNP yn debyg i rai Natsiaeth newydd, felly, oni ddylid carcharu'r rheiny sy'n ei anog?
Dim ond os ydy nhw'n torri'r gyfraith.....