Tudalen 7 o 8

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 11:30 am
gan nicdafis
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae 'na un aelod o Maes-e wedi cael ei wahardd yn barod yr wythnos yma am bostio sylwadau hiliol, gwrth-iddewig. A rwan mae 'na rywun arall wrthi. Paid a siarad mor wirion, Huw.


Dw i'n gobeithio taw anwybyddiaeth yn hytrach na chasineb sydd tu

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 1:56 pm
gan Huw Psych
Na, ni fyddai'r hyn sydd wedi ei roi yn uchod yn iawn gan ei fod yn osodiad anghywir. Ymddiheuraf am ynrhyw atgasedd a achoswyd, doedd gen i ddim bwriad o fod yn hiliol na gwrth-iddewig, does gen i ddim rheswm i fod!

Er hynny, allw chi ddim rhoi Cristnogion yn y frawddeg, gan nad ydi'r gosodiad yn ffitio! Dydi Cristnogion erioed wedi cael ei herlyn, mae'r Iddewon a pobl ddu America wedi. Yn wir, nid yw'n iawn i neb gael ei erlyn am liw ei groen neu ei grefydd ond dydi'r Iddewon ddim yn neud yr un peth drwy ymladd y Palestiniaid? Ymddiheuriadau pellach os ydw i'n bod yn anwybodus.

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 2:37 pm
gan HBK25
Huw Psych a ddywedodd:Dydi Cristnogion erioed wedi cael ei herlyn


Wel, mi gafon nhw eu herlyn yn hallt iawn yn Rhufain am dipyn. Ydi hynna'n cyfri? :winc: 'Doedd Lenin ddim yn rhy hoff ohonyn nhw, 'chwaith.

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 2:44 pm
gan nicdafis
Beth sy'n poeni fi Huw, yw dy fod di ddim yn deall bod 'na wahaniaeth rhwng "yr Iddewon" ac "llwyodraeth a byddin Israel".

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 2:50 pm
gan Huw Psych
:wps: Ymddiheuriadau, fy anwybodaeth. :wps:
<strike>Onid ydy nhw'n dilyn y grefydd Iddewig?</strike>

[gol. bellach wedi ymchwilio a gneud chydig o ddarllen,ac wedi cael ateb i fy nghwestiwn. Sori am ddod ar edefyn i stop.]

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 1:37 am
gan Huw Psych
Ar ol darllen ymhellach gweler fod David Irving wedi gwadu'r Holocost. Dwi ddim o blaid yr hyn ddywedodd o, ond dwi ddim yn siwr y gellid cyfiawnhau carchar am ddweud hyn. Dwi'n cytuno fod gwadu marwolaeth miloedd o eneidau yn beth cas/drwg i'w wneud, ond dwi ddim yn gallu ddallt pam fod gwadu'r Holocost wedi ei wneud yn anghyfreithlon mewn cymaint o wledydd? Alla i ddallt am y pryder o gael digwyddiadau tebyg i'r rhai a fu yn 30au a'r 40au, ond dydi o ddim yn mynd yn rhy bell?

Mi oeddwn i dan yr argraff fod y glwedydd yma, fel ein gwlad ni yn wlad rhydd (free country), felly pam fod ymwadiad yr Holocost yn anghyfreithlon? Petae o'n gyfreithlon, efallai y byddai ysgolheigion yn fwy parod i drafod y mater ac i ddod i gasgliad terfynol, fydda ddim anghydfod wedyn a bydda pawb yn gallu cyd-fyw yn hapus!

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 12:35 pm
gan nicdafis
Fel ti, dw i'n cytuno na ddylai gwledydd carcharu pobl am y pethau maent yn meddwl, ond nid dyna beth sy wedi digwydd yma. Mae Irvine wedi mynd i Awstria <b>er mwyn</b> torri'r cyfraith, i fod yn ferthyr, i ennill cefnogwyr i'w achos, sef Natsiaeth newydd (<i>neo-Nazism</i>). Mae rhaid bod yn glir am hyn: mae'n bosibl anghytuno

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 1:52 pm
gan Huw Psych
Dwi ddim am eiliad yn cytuno efo Natsiaeth newydd, dydw i chwaith ddim yn gwadu'r Holocost, a dydw i ddim o blaid yr hyn mae Irvining wedi bod yn ei wneud a'i ddweud, ond efallai, sylwer...efallai, fod chydig o wirionedd rhai o'i safbwyntia am yr Holocost. Petae ddim deddfwriaeth fyddai pobl yn fwy parod i drafod y mater a mi fydda ni'n cael y gwir am yr hyn ddigwyddodd.

Onid ydi agweddau'r BNP yn debyg i rai Natsiaeth newydd, felly, oni ddylid carcharu'r rheiny sy'n ei anog?

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 8:57 pm
gan ceribethlem
Huw Psych a ddywedodd:Onid ydi agweddau'r BNP yn debyg i rai Natsiaeth newydd, felly, oni ddylid carcharu'r rheiny sy'n ei anog?
Dyna paham y bu achos llys yn ddiweddar yn erbyn Nick Griffin a Mark Collett o'r BNP. Gweler hwn a hwn

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 9:14 pm
gan Blewyn
Huw Psych a ddywedodd:...efallai, fod chydig o wirionedd rhai o'i safbwyntia am yr Holocost. Petae ddim deddfwriaeth fyddai pobl yn fwy parod i drafod y mater a mi fydda ni'n cael y gwir am yr hyn ddigwyddodd.

Digon gwir - da bysa cael cloi y mater. Wedi deud hynna, mae pethau yn dra wahanol yn Awstria a'r Almaen o ran diwylliant a gwleidyddiaeth, a mae nhw wedi dangos - o fewn cof byw - fod ganddynt y potensial i droi yn eithafol ac ymosod ar leiafrifoedd. Os ydy'r sefydliad yn y gwledydd hyn o'r farn bod angen y gyfraith i wahardd Natsiaeth drwy wneud gwadu'r holocost yn drosedd, eu busnes nhw yw hynna.
Onid ydi agweddau'r BNP yn debyg i rai Natsiaeth newydd, felly, oni ddylid carcharu'r rheiny sy'n ei anog?

Dim ond os ydy nhw'n torri'r gyfraith.....