Benyweidd-dra v Hawliau Cyfartal (edefyn i'r merched)

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Benyweidd-dra v Hawliau Cyfartal (edefyn i'r merched)

Postiogan Macsen » Mer 04 Ion 2006 12:32 pm

Mae disgwyl i ddynion drin merched gyda ryw fath o foesgarwch arbennig, yn wahanol i'r ffordd fydden nhw'n trin dynion eraill. Mae merched hefyd yn disgwyl cael eu trin gyda ryw foesgarwch arbennig gan ddynion, neu mae nhw'n mynd yn flin, dweud wrtha ti gysgu ar y soffa, ecetra... nid yw hyn yn wir mewn perthynas yn unig, ond yn y gwaith, gyda pobl ar hap ar y stryd, ayyb. Yn fyr, mae merched yn mynnu cael eu trin yn wahanol gan ddynion.

Mae merched hefyd yn mynnu hawliau cydradd gyda dynion ymhob agwedd o fywyd. Onid oes ryw broblem fan hyn?

Sut all merched dderbyn y driniaeth ffafriol yma yn fodlon ond eto siarad am hawliau cyfartal? Os ei bod nhw wir eisiau hawliau cyfartal, oni ddylsen nhw wrthod cal ei trin yn wahanol i ddynion? Mae'n ymddangos i mi bod merched eisiau'r gorau o'r ddau fyd, y holl glinfanteision sy'n dod gyda benyweidd-dra gostyngedig ond hefyd parhau i fod yn gydradd.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Sleepflower » Mer 04 Ion 2006 12:56 pm

Dyw meddwl fod e'n bosib trin dynion a menywod yn gydradd, ond cydnabod y gwahaniaethau rhwng y rhywiau.

Er enghraifft, fi'n credu dylsai menywod cael i dalu yr un faint a dynion, er, ar hyn o bryd, mae menywod ol-raddiedig yn ennill 15% y llai na dynion ol-raddiedig.

Fi hefyd yn credu, ar ochr arall y geiniog, dylsai menyw sy'n treisgar tuag at ei gwr gwynebu'r un gosb a dyn sydd yn dreisgar tuag at ei wraig.

Ta waith, mae'n bwysig cydnabod fod yn gwahaniaethau rhwng y rhywiau, ond ni ddylsai deuoliaeth dod allan ohono. Hynny yw, ni ddylsai'r pethau sydd yn gwneud menywod yn wahanol i ddynion cael eu gweld fel rhinweddau gwan.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Chwadan » Mer 04 Ion 2006 1:01 pm

"Mae disgwyl i ferched drin dynion gyda ryw fath o famoldeb arbennig, yn wahanol i'r ffordd fydden nhw'n trin merched eraill. Mae dynion hefyd yn disgwyl cael eu trin gyda ryw famoldeb arbennig gan ferched, neu mae nhw'n mynd yn flin, gneud jocs am glymu at y sinc, meddwl (ond ofn gofyn) pam nad yw swper yn barod, gweiddi "lle ma fy sanau", ecetra... nid yw hyn yn wir mewn perthynas yn unig, ond yn y gwaith, gyda pobl ar hap ar y stryd, ayyb. Yn fyr, mae dynion yn mynnu cael eu trin yn wahanol gan ferched."

Oce, dim yn barodi berffaith ond ti'n gweld fy mhwynt i? Jyst sbia arni o'r yr ochr arall ac mi weli pam bo merched ryw fymryn yn flin eu bo nhw'n cael eu talu 20% yn llai na dynion am wneud yr un swydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Macsen » Mer 04 Ion 2006 1:43 pm

Mae'r gwahaiaeth tal yn annheg, ond does gan hynny ddim byd i wneud a fy neges gwreiddiol.

Y gwahaniaeth mawr rhwng disgwyliadau dyn a disgwyliadau dynes o'i gilydd yw nad yw'r dyn yn cymryd arno bod yn yn wan fel bod merched yn ei drin gyda ffafr, ac yna honni ei fod o cyn gryfed pan ei fod o'n ei weddu o.

Mae merched yn gwbwl gydradd, ond mae nhw'n manipulate y hen gredoau ei bod nhw'n wanach pan ei fod o'n ei gweddu nhw, a mae hynny'n gwneud difrod i'r syniad ei bod nhw'n gydradd.

Chwadan a ddywedodd:gweiddi "lle ma fy sanau", ecetra... nid yw hyn yn wir mewn perthynas yn unig, ond yn y gwaith, gyda pobl ar hap ar y stryd, ayyb.


Pryd oedd y tro dwytha i bobl ar y stryd neu yn y gwaith ofyn wrthat ti ble mae ei sanau? Tu allan i berthynas does dim gofyn i ddyn gael triniaeth arbennig gan ddynes. O fewn perthynas mae'r ddau yn trin ei gilydd yn arbennig yn naturiol.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan gronw » Mer 04 Ion 2006 1:54 pm

Macsen a ddywedodd:Pryd oedd y tro dwytha i bobl ar y stryd neu yn y gwaith ofyn wrthat ti ble mae ei sanau?

does dim merch yn gwaith (nac ar y stryd) wedi dweud wrtha i am gysgu ar y soffa yn ddiweddar... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Re: Benyweidd-dra v Hawliau Cyfartal (edefyn i'r merched)

Postiogan Archalen » Mer 04 Ion 2006 2:38 pm

Macsen a ddywedodd:Mae disgwyl i ddynion drin merched gyda ryw fath o foesgarwch arbennig, yn wahanol i'r ffordd fydden nhw'n trin dynion eraill. Mae merched hefyd yn disgwyl cael eu trin gyda ryw foesgarwch arbennig gan ddynion, neu mae nhw'n mynd yn flin, dweud wrtha ti gysgu ar y soffa, ecetra... nid yw hyn yn wir mewn perthynas yn unig, ond yn y gwaith, gyda pobl ar hap ar y stryd, ayyb. Yn fyr, mae merched yn mynnu cael eu trin yn wahanol gan ddynion.


Hy! Fel mae rhai dynion yn disgwyl cael eu trin gan ferched o hyd e.e. coginio, golchi ayb. (ydy, mae hyn dal i ddigwydd yn y Gymru fodern)

Macsen a ddywedodd:Mae merched hefyd yn mynnu hawliau cydradd gyda dynion ymhob agwedd o fywyd. Onid oes ryw broblem fan hyn?


Oes, y ffaith bod cymaint o bobl yn synnu at hyn.

Macsen a ddywedodd:Sut all merched dderbyn y driniaeth ffafriol yma yn fodlon ond eto siarad am hawliau cyfartal? Os ei bod nhw wir eisiau hawliau cyfartal, oni ddylsen nhw wrthod cal ei trin yn wahanol i ddynion? Mae'n ymddangos i mi bod merched eisiau'r gorau o'r ddau fyd, y holl glinfanteision sy'n dod gyda benyweidd-dra gostyngedig ond hefyd parhau i fod yn gydradd.


Elli di roi enghreifftiau o'r driniaeth wahanol y mae merched yn disgwyl cael? Ti'n bod braidd yn amwys uchod heblaw am yr enghraifft soffa!
If they'd've won her, we wouldn't have heard the end of her ar f'enaid i!
Rhithffurf defnyddiwr
Archalen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 381
Ymunwyd: Llun 06 Meh 2005 3:30 pm
Lleoliad: Rhwng dwy stol

Postiogan Dave Thomas » Mer 04 Ion 2006 3:45 pm

Mae gwir gydraddoldeb yn golygu rhoi gorau i'r manteision nid dim ond cael gwared a'r anfanteision. Hefo pensiynau mae dynion yn talu mwy i fewn ac yn byw yn llai hir.
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Beti » Mer 04 Ion 2006 3:59 pm

Wow! Symbodi's taiyrd.
Pa ferch sy di dwyn dy bwdin di (ac mae'n siwr mai hi gwciodd o - ho ho ho), Macsen? Be am i ni roi pawb mewn bocs?!
Mi fydda iiiiiiiiiiiii, yn trin pawb yn yr un ffordd de. Fi? Hunangyfiawn?! Pah!
Gad i mi ddeud hyn wrthot ti, mae'n mynd ar fy wic i pan mae merch neu fachgen ddim yn neud pethe fel rhoi y bins allan, newid bylb, y pethau syn cael eu gweld fel y pethau "dynol." Ond mae rhywun yn mynd i drio wanglo'i hun allan o'r pethau 'ma dydyn boed dyn neu ddynes. Fyse lot well gen i newid bylb na llnau y ffwcin bath a'r cor o biwbs sydd ynddo.
Mae merched yn cael eu trin yn wahanol gan ddynion a mae dynion yn cael eu trin yn wahanol gan ferched. Mae hyn yn digwydd o ran disgwyliadau pobl o'i gilydd dwi'n meddwl. Ffyc, cant bi arsd efo hyn.
Sori, gai regi ar hwn a minnau'n ferch?
Macseni (sori, mae merched yn neud hynna dydy - e? Rhoi ryw hen "i" tu ol i enwau!), dwisho enghreifftiau. :winc:
W, dwi newydd feddwl - taset ti'n ferch, 'swn i dadlau yn hollol wahanol a ti. Hmm...
I futa fo!
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mr Gasyth » Mer 04 Ion 2006 4:03 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Mae gwir gydraddoldeb yn golygu rhoi gorau i'r manteision nid dim ond cael gwared a'r anfanteision. Hefo pensiynau mae dynion yn talu mwy i fewn ac yn byw yn llai hir.


Ma nhw'n talu mwy fewn achos fod eu cyflogau yn uwch na rhai merched, a nid bai merched ydi eu bod yn naturiol yn byw yn hirach.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Benyweidd-dra v Hawliau Cyfartal (edefyn i'r merched)

Postiogan Dave Thomas » Mer 04 Ion 2006 4:04 pm

Macsen a ddywedodd: Mae'n ymddangos i mi bod merched eisiau'r gorau o'r ddau fyd, y holl glinfanteision sy'n dod gyda benyweidd-dra gostyngedig ond hefyd parhau i fod yn gydradd.


Ie mae hyn yn wir am lot o bobl sy'n cwyno am eu hawliau. Mae nhw'n gweiddi am fwy ond ddim yn barod i roi fewn y manteision mae nhw'n mwynhau.
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron