Dave Thomas a ddywedodd:yw'r merched 'gyrfaol' yn edrych lawr ar ferched sydd hefo sgiliau traddodiadol? Yw pwshio beiro mewn swyddfa hefo mwy o statws a parch na magu teulu a rhedeg cartref?
Ddim o gwbl, dwi'n gweithio mewn dinas o 9 tan 5.30 os dwi'n lwcus, ond fel arfer yn gorfod mynd a gwaith adre. Dwi ar fy ngwyliau ar hyn o bryd ac yn gorfod checio ebyst gwaith o hyd, a byddai 'on call' ar ol mynd nol i gwaith. Os dwi'n sal, dwi'n gorfod talu am yr amser i ffwrdd.
Dwi hefyd yn neud gwaith cyfieithu rhan amser ac yn neud gwaith hyrwyddo yn fy amser sbar.
Yna, dwi'n gorfod neud popeth arall ma unrhyw wraig ty yn gorfod neud pan gai funud sbar- coginio, glanhau ayb...
Dwi'n cyfri'r eiliadau nes y cai fod yn wraig ty a bod yn fam ayb!