Mae disgwyl i ddynion drin merched gyda ryw fath o foesgarwch arbennig, yn wahanol i'r ffordd fydden nhw'n trin dynion eraill. Mae merched hefyd yn disgwyl cael eu trin gyda ryw foesgarwch arbennig gan ddynion, neu mae nhw'n mynd yn flin, dweud wrtha ti gysgu ar y soffa, ecetra... nid yw hyn yn wir mewn perthynas yn unig, ond yn y gwaith, gyda pobl ar hap ar y stryd, ayyb. Yn fyr, mae merched yn mynnu cael eu trin yn wahanol gan ddynion.
Mae merched hefyd yn mynnu hawliau cydradd gyda dynion ymhob agwedd o fywyd. Onid oes ryw broblem fan hyn?
Sut all merched dderbyn y driniaeth ffafriol yma yn fodlon ond eto siarad am hawliau cyfartal? Os ei bod nhw wir eisiau hawliau cyfartal, oni ddylsen nhw wrthod cal ei trin yn wahanol i ddynion? Mae'n ymddangos i mi bod merched eisiau'r gorau o'r ddau fyd, y holl glinfanteision sy'n dod gyda benyweidd-dra gostyngedig ond hefyd parhau i fod yn gydradd.