Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 5:11 pm
gan Archalen
Al a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:gwd edefyn macsen, y gath ym mysg y piod. gwd show! :lol:


Hwre i Ray Diota! Man cymeryd dyn pervlyd i sylwi pam fod Macsen wedi dechrau'r edefyn difyr hon.


Sylwes i hyn ar ddechrau'r edefyn, a nes i nodi ei fod e wedi ei ddechrau er mwyn corddi...enghraifft arall o lais y ferch yn cael ei anwybyddu a'r bachgen yn cymryd y clod i gyd...

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 5:17 pm
gan tafod_bach
[save face]dyw fy ymateb cyntaf ddim yn *gwbwl* ddifrifol, chwaith. rhaid i fi gael fy sbort rywsut, does? (yr hyn sydd i gael heb ddefnyddio teclyn-angenrheidiol-pob-

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 5:18 pm
gan Macsen
tafod_bach a ddywedodd:am nad oes pwynt ceisio dal pen rheswm efo dyn os nad yw e'n gallu dy weld di! *gwenu'n bert*


Aha! Rwyt ti'n cyfadded dy fod ti'n defnyddio dy hud benywaidd i drin dynion. Dyma'r union beth oeddwn i'n cyfeirio ato.

Archalen a ddywedodd:Sylwes i hyn ar ddechrau'r edefyn, a nes i nodi ei fod e wedi ei ddechrau er mwyn corddi... enghraifft arall o lais y ferch yn cael ei anwybyddu a'r bachgen yn cymryd y clod i gyd...


Mi ddechreuais i'r edefyn hn i drafod y pwnc wrth law, sy'n un diddorol dros ben. Pa fachgen yn union sy'n cymryd y clod? A sut bo edefyn sy'n anelu at gynnwys merched yn y drafodaeth yn anwybyddu eu llais nhw?

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 5:20 pm
gan Al
tafod_bach a ddywedodd:[save face]dyw fy ymateb cyntaf ddim yn *gwbwl* ddifrifol, chwaith. rhaid i fi gael fy sbort rywsut, does? (yr hyn sydd i gael heb ddefnyddio teclyn-angenrheidiol-pob-

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 6:29 pm
gan tafod_bach
ble roedd y winc te? sort it out luv


sori, o'n i'n brysur 'da'n mascara. ooo, chi fois yn shwt gesys: 'cer i moyn te a cacs', 'duw, ble ma dy ffedog di' a 'eillia dy farf y ffr

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 7:07 pm
gan Dave Thomas
yw'r merched 'gyrfaol' yn edrych lawr ar ferched sydd hefo sgiliau traddodiadol? Yw pwshio beiro mewn swyddfa hefo mwy o statws a parch na magu teulu a rhedeg cartref?

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 7:12 pm
gan Archalen
Dave Thomas a ddywedodd:yw'r merched 'gyrfaol' yn edrych lawr ar ferched sydd hefo sgiliau traddodiadol? Yw pwshio beiro mewn swyddfa hefo mwy o statws a parch na magu teulu a rhedeg cartref?


Ddim o gwbl, dwi'n gweithio mewn dinas o 9 tan 5.30 os dwi'n lwcus, ond fel arfer yn gorfod mynd a gwaith adre. Dwi ar fy ngwyliau ar hyn o bryd ac yn gorfod checio ebyst gwaith o hyd, a byddai 'on call' ar ol mynd nol i gwaith. Os dwi'n sal, dwi'n gorfod talu am yr amser i ffwrdd.

Dwi hefyd yn neud gwaith cyfieithu rhan amser ac yn neud gwaith hyrwyddo yn fy amser sbar.

Yna, dwi'n gorfod neud popeth arall ma unrhyw wraig ty yn gorfod neud pan gai funud sbar- coginio, glanhau ayb...

Dwi'n cyfri'r eiliadau nes y cai fod yn wraig ty a bod yn fam ayb!

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 7:36 pm
gan Mr Gasyth
Dave Thomas a ddywedodd:yw'r merched 'gyrfaol' yn edrych lawr ar ferched sydd hefo sgiliau traddodiadol? Yw pwshio beiro mewn swyddfa hefo mwy o statws a parch na magu teulu a rhedeg cartref?


Wyt ti'n edrych i lwr ar ddyn sy'n aros adref ac yn magu plant?

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 7:46 pm
gan Dave Thomas
Na, dy bwynt?

Dwi wedi clywed rhai merched yn disgrifio rhedeg cartref fel rhywbeth eilradd, rhywbeth hefo statws is na cael gyrfa, yn eu golwg nhw.

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 9:08 pm
gan Chwadan
Dave Thomas a ddywedodd:Na, dy bwynt?

Dwi wedi clywed rhai merched yn disgrifio rhedeg cartref fel rhywbeth eilradd, rhywbeth hefo statws is na cael gyrfa, yn eu golwg nhw.

Falle wir, ond wedyn ma rhai yn meddwl fod magu plant yn bwysicach na gyrfa ac yn edrych lawr ar rai sy'n gweithio neu yn trio gweithio a magu plant run pryd.