Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 10:16 pm
gan Dave Thomas
Chwadan a ddywedodd:... ma rhai yn meddwl fod magu plant yn bwysicach na gyrfa ac yn edrych lawr ar rai sy'n gweithio neu yn trio gweithio a magu plant run pryd.


Oes

PostioPostiwyd: Llun 09 Ion 2006 1:41 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Dave Thomas a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:... ma rhai yn meddwl fod magu plant yn bwysicach na gyrfa ac yn edrych lawr ar rai sy'n gweithio neu yn trio gweithio a magu plant run pryd.


Oes

oes yn wir ond ma na ochr arall i'r ddadl yma, ma na rei merched yn gorfod gweithio ac yn methu fforddio aros adra. ma rhaid i ferched (a dynion) ddewis pa aberthau ma nhw'n fodlon i gneud.
snam byd sy'n mynd ar fy nerfa i fwy na dyn sy'n dal drws i fi ayyb (swni'n flin sa na ddyn yn slamio drws yn fy ngwyneb i de!) ond ma dynion yn rhoi merched ar rhyw pedastl weithia a ma hyny'n pissio fi off. . . er yn anffodus ma lot o'n ffrindia i'n licio hynny :rolio: dwi'm yn disgwl i ddynion a merched drin ei gilydd yn gwbwl gyfartal, dio jyst ddim yn digwydd, ond ma na lefel o barch (heb fod yn ormodol) sydd yn gwrtais.

PostioPostiwyd: Llun 09 Ion 2006 7:56 pm
gan huwwaters
Ma Macsen ymlaen i rywbeth yma.

Dwi'n cytuno'n llwyr ei fod yn beth hollol annheg fod gwragedd yn derbyn llai o gyflog ar gyfartaledd am yr un gwaith maent yn ei wneud a dynion, a dyma beth yr oedd gwragedd yn y chwedegau yn brwydro am. Yr oedd fy mam i'n un ohonynt, felly dwi di dod o gefndir fel yma.

Ond rwan ma dynion a gwragedd efo'r un hawliau rhaid iddynt dderbyn cyfrifoldebau eu hunain. Dwi fy hun yn gwneud golchi a smwddio a choginio i aelodau eraill fy nheulu o bryd i'w gilydd. Ma'r ffaith fod gwragedd yn gweision i'w partneriaid, efo lot o bai arnyn nhw, am dderbyn y fath driniaeth. Fel y gwraig sydd heb y hyder i ddweud wrtho i goginio te ei hun. Rhaid iddynt fod yn firm efo nhw, ac i ddeutha nhw i gymeryd rhan hefyd mewn rhedeg y ty.

Er bod gwragedd wedi ymladd am yr hawliau ma, i wneud yr un swyddi a derbyn yr un tal a dynion, y nhw sydd lleiaf tebygol o wneud llawer o'r swyddi ma dynion yn ei wneud pob dydd. Yn ystadegol, dyle ne fod yr un faint o wragedd a dynion yn plymwyr, yn drydanwyr, yn builders. Tydyn nhw ddim. Ma nhw rhy 'delicate' i'r fath yna o waith? Well i chi feddwl eto.

Hefyd, os chi am gychwyn son am statws merched fel y rhai sydd efo gyrfa neu'r rhai sy'n edrych ar

PostioPostiwyd: Llun 09 Ion 2006 10:37 pm
gan Chwadan
huwwaters a ddywedodd:Ond rwan ma dynion a gwragedd efo'r un hawliau rhaid iddynt dderbyn cyfrifoldebau eu hunain. Dwi fy hun yn gwneud golchi a smwddio a choginio i aelodau eraill fy nheulu o bryd i'w gilydd. Ma'r ffaith fod gwragedd yn gweision i'w partneriaid, efo lot o bai arnyn nhw, am dderbyn y fath driniaeth. Fel y gwraig sydd heb y hyder i ddweud wrtho i goginio te ei hun. Rhaid iddynt fod yn firm efo nhw, ac i ddeutha nhw i gymeryd rhan hefyd mewn rhedeg y ty.

Iawn - pwynt dilys. Jyst gobeithio, ymhen 30 mlynedd, y byddi di'n fodlon deud wrth dy wraig/cariad "na, ma'n iawn, nai neud y golchi/hwfro/swper/llnau". Onid oes na le i ddynion gynnig helpu weithia? Ma cymdeithas a magwraeth yn dueddol o neud merched yn predisposed i fod fel eu mamau - ac er fod petha'n newid, ma na le i ddynion a merched gymryd camau i rannu'r baich.

huwwater a ddywedodd:Er bod gwragedd wedi ymladd am yr hawliau ma, i wneud yr un swyddi a derbyn yr un tal a dynion, y nhw sydd lleiaf tebygol o wneud llawer o'r swyddi ma dynion yn ei wneud pob dydd. Yn ystadegol, dyle ne fod yr un faint o wragedd a dynion yn plymwyr, yn drydanwyr, yn builders. Tydyn nhw ddim. Ma nhw rhy 'delicate' i'r fath yna o waith? Well i chi feddwl eto.

Be di dy bwynt di? Faint o ddynion sy'n fudwragedd? Athrawon plant bach?

huwwaters a ddywedodd:Peth arall. Yn fy nganolfan hamdden lleol. Ma na 'Womens only session'. Tydi hwn ddim yn erbyn fy hawliau? Os buasai na 'Men's only session' buas na gwyno siwr. Dwi'n un sydd wedi sgwennu llythyr ynglyn a hwn.

Paid a bod yn wirion - ma na "women only session" achos fod yn well gan lot o ferched ymarfer corff lle does na'm dynion yn bresennol - o ran dangos eu wobli bits ac o ran ofn cael dynion yn oglo. A faint o ddynion wyt ti'n nabod sydd isio gneud ymarferion "bums and thighs" i gal gwared o cellulite? Dio mond run fath a chal sesiwn i ddynion gal pecs a biceps mwy neu wbath. Fel ma nifer wedi'i ddeud yn yr edefyn yma, di dynion a merched ddim run fath lly ma'n wirion trio ymddwyn fel eu bod nhw. Fflipin ec, tasa na "men only session" dwi'n siwr basa na ferched yn mynd yna i wylio yn lle cwyno bo nhw'm yn cael ymarfer eu pecs. Goleua fyny wir :winc:

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 4:29 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Chwadan a ddywedodd:Fflipin ec, tasa na "men only session" dwi'n siwr basa na ferched yn mynd yna i wylio yn lle cwyno bo nhw'm yn cael ymarfer eu pecs.
a ma siwr sa'n dynion yn fflipin joio'r sylw!

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 5:28 pm
gan Macsen
huwwaters a ddywedodd:Yr oedd fy mam i'n un ohonynt, felly dwi di dod o gefndir fel yma.

Dwi'n medru cydymdeimlo gyda merched, mae fy mam i'n un. :lol:

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 5:47 pm
gan Huw Psych
Dwi'n cytun efo rhai o'r petha sydd yn cael eu dweud yma. Ma hawlia merched yn gallu cael eu gwthio rhy bell weithiau...be am hawlia i ddynion? Dwi'n cytuno y dylid merched gael hawliau, ond gan fod y busnes hawliau i ferched yn cael ei wthio i'r eithaf mae hawlaiu dynion yn cael eu esgeuluso. Mae mudiadau hawliau i ferched ddim yn bod heddiw mi fydda hi'n sefyllfa iachach. Mae nw wedi gneud gwaith da yn y gorffenol, ond heddiw am eu bod nw yn rhygnu mlaen, does neb ddim isho gwbo ac mae'n cael ryw fath o effaith reverse psychology.

Yr hyn sy'n bwysig ydi efo hawlia i ferched ydi nad ydi hi'n iawn i edrych arny nw fel gwrthrychau rhyw ayyb. Dylent gal yr un faint o barch a sydd gan ddynion. Ella galwch fi'n hen ffasiwn ond lle'r fam ydi bod adref yn magu'r plant. Sylwer, nid yw hyn yn golygu ei bod hi'n neud bob dim dros y dyn, dylid hwnnw ysgwyddo hanner y baich yn ogystal. Ond edrychwch ar natur, y fenyw sydd wastad yn gofalu ac yn magu'r plant.

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 11:10 pm
gan Archalen
Huw Psych a ddywedodd: Ella galwch fi'n hen ffasiwn ond lle'r fam ydi bod adref yn magu'r plant. Sylwer, nid yw hyn yn golygu ei bod hi'n neud bob dim dros y dyn, dylid hwnnw ysgwyddo hanner y baich yn ogystal. Ond edrychwch ar natur, y fenyw sydd wastad yn gofalu ac yn magu'r plant.


Ond beth os mai'r fam sy'n ennill y cyflog mwyaf?

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 10:41 am
gan Socsan
Archalen a ddywedodd:Ond beth os mai'r fam sy'n ennill y cyflog mwyaf?


Yn hollol. Dwi

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 11:31 am
gan Huw Psych
Os mae'r fam sy'n ennill y cyflog mwyaf bydded i'r tad fagu'r plant! Falle fy mod wedi mynd chydig yn rhy bell wrth ddweud yr hyn a ddywedais. Mi yda chi wastad am gael eithriadau, ond gan amlaf mae cymeriad y fam wedi ei wneud iddi fagu'r plant.