Merched a Gwleidyddiaeth y Maes

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Merched a Gwleidyddiaeth y Maes

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 29 Ion 2006 1:27 am

Mae rhywfaint o s
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan huwwaters » Sul 29 Ion 2006 1:52 am

Buaswn i'n deud na ffordd o feddlw y merched sy'n ateb hwn. Ar y cyfan ma dynion llawer mwy 'daring' a pethau fel hyn sydd wedi arwain at mwyafrif o ddarganfyddiadau gwyddoniaethol gan ddynion.

Yn
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Socsan » Sul 29 Ion 2006 1:33 pm

Fel merch sydd wedi bod yn aelod o'r maes am ddeufis rwan, tydw i ddim eto'n teimlo'n hyderus pan cyfrannu i'r edefynnau gwleidyddol. Dwi wedi gweld sut mae rhai pobl yn ymateb i farn pobl eraill, a dwi'n meddwl weithiau nad oes gen i ddigon o fynedd i ddwad nol i'r edefyn bob munud er mwyn amddiffyn fy hun... Peidiwch a meddwl "typical merch" rwan, oherwydd yn y byd go iawn does gen i ddim ots o gwbwl cyfrannu at unryw drafodaeth!

Mae gan bawb hawl i'w barn, a dwi'n meddwl ei bod yn berffaith iawn i bobl ymosod ar farn pobl eraill mewn ynrhyw ffordd (cyn belled nad ydi'r ymosodiad yn un bersonnol), ond wir does gen i ddim amynedd cael fy ngyhuddo o "beidio gwybod digon" am rywbeth i fedru ffurfio barn. Dwi wedi gweld hyn yn digwydd lot yn ddiweddar! Mae steil dadleuol sawl un yn weddol ymosodol, a digon teg - siawns os fyswn i'n dadlau wyneb yn wyneb am rywbeth fyswn in medru delio hefo hynna'n hawdd - ond ar wefan lle mae CARMA yn bod, mae'n medru bod reit ddychrynus mentro mewn i'r byd yma. Hefyd efallai fod y ffaith fy mod yn anhyderus o safon fy iath ysgrifennedig yn fy ngwneud yn llai bodlon i gyfrannu, pwy a wyr.


Tydw i ddim yn awgrymu am eiliad y dylai pobl newid eu ffordd o ddadlau, dwi'n hapus iddyn nhw gario mlaen fel ac y maent (fyddai'n mwynhau darllen yr edefynau yn rheolaidd), dim ond ymateb i gwestiwn HRF gyda fy rheswm i dros beidio a chyfrannu cymaint ac y byswn in medru ydw i. Siawns fod sawl merch ar y maes sydd a perspective gwahanol ar bethau!
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan sian » Sul 29 Ion 2006 4:24 pm

Dwi'n mwynhau darllen y trafodaethau gwleidyddol - yn enwedig y rhai lle mae personoliaethau'n dod drosodd yn gryf ac nad yw'r dadlau'n rhy gymhleth - ond fel rheol ddim yn cael fy nhemtio i gyfrannu.
Bosib bod hyn i'w wneud
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan 7ennyn » Sul 29 Ion 2006 4:58 pm

Dwi ddim yn meddwl bod diffyg cyfraniadau gan ferched yn y fforymau gwleidyddiaeth a dim i'w wneud a gwahaniaethau honedig rhwng dynion a merched. Y gwir amdani ydi mai grwp bychan o tua hanner dwsin o Faeswyr cegog sydd wedi hen arfer a'u gilydd sydd yn tra-arglwyddiaethu ar y fforymau hyn. Ni ellir dod i gasgliad ynglyn a gwahaniaeth rhwng dynion a merched yn yr achos hwn oherwydd nid yw'r sampl o 6 allan o dros 2000 o ddefnyddwyr Maes-e yn ddigonol. Nid yw'n 'arwyddocaol' - o ddefnyddio jargon yr ystadegwyr.

Dyn ydw i (yn honedig!) ond dwi'n dueddol o gadw allan o'r trafodaethau yn y fforymau gwleidyddol gan nad ydw i isio tarfu ar y clic, ac fel Socsan does gennai ddim amynedd amddiffyn fy hun hyd syrffed. Er hyn dwi'n hoff o ddarllen ambell i edefyn - yn enwedig pan mae yna spat ciaidd yn datblygu :crechwen: .
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Dave Thomas » Sul 29 Ion 2006 5:27 pm

sian a ddywedodd:Y ferch, ar y cyfan, yn ceisio cymod pan fydd ffrae


Difyr iawn, roeddwn i am wneud pwynt eitha tebyg sef mod i wedi sylwi fod merched yn gyffredinol yn fwy am geisio cymod, falle fod hwnna'n reddf neu rywbeth felna, dwn i ddim.

Ond wedyn, mae rhywun fel Thatcher yn gwrthbrofi'r syniad yma, a gellid dadlau fod hi wedi bod yn fwy penderfynol a chryf na llawer o ddynion.
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 29 Ion 2006 5:31 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Ond wedyn, mae rhywun fel Thatcher yn gwrthbrofi'r syniad yma, a gellid dadlau fod hi wedi bod yn fwy penderfynol a chryf na llawer o ddynion.


Merch oedd Thatcher? :ofn: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Dave Thomas » Sul 29 Ion 2006 5:32 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Merch oedd Thatcher? :ofn: :winc:


:lol:
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Chwadan » Sul 29 Ion 2006 6:04 pm

Dave Thomas a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Y ferch, ar y cyfan, yn ceisio cymod pan fydd ffrae


Difyr iawn, roeddwn i am wneud pwynt eitha tebyg sef mod i wedi sylwi fod merched yn gyffredinol yn fwy am geisio cymod, falle fod hwnna'n reddf neu rywbeth felna, dwn i ddim.

Ond wedyn, mae rhywun fel Thatcher yn gwrthbrofi'r syniad yma, a gellid dadlau fod hi wedi bod yn fwy penderfynol a chryf na llawer o ddynion.

Falle wir - a bod y seiadau gwleidyddol ddim yn rhoi llawer o gyfle i gymodi safbwyntiau? Yn achos MT - dydi un enghraifft ddim yn gwrthbrofi theori! :D

Fel aside - ma hyn yn fy atgoffa i o rywbeth nes i ddarllen diwrnod o'r blaen am wleidyddiaeth gwledydd Arabaidd - roedd yr awdur yn trio gweithio allan pam nad yw systemau gwleidyddol y gwledydd hyn yn cynnal democratiaeth yn dda iawn - ac roedd o'n meddwl mai un o'r rhesymau oedd fod y gymdeithas bartriarchaidd yno yn arwain at ddiffyg presenoldeb merched ym myd gwleidyddiaeth a chymdeithas sifil, a hyn yn ei dro yn creu gwleidyddiaeth ymosodol am bod 'na ddiffyg gallu i gymodi :!: Rhywbeth i gnoi cil arno beth bynnag...
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Merched a Gwleidyddiaeth y Maes

Postiogan Iesu Nicky Grist » Llun 30 Ion 2006 11:48 am

Martina McBride a ddywedodd:Os felly, sut mae modd inni newid ein hymddygiad Maesol er mwyn inni fod yn fwy cynhwysol?


Lovely pun love 8)
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron