Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 2:03 pm
gan tafod_bach
huw watersBuaswn i'n deud na ffordd o feddlw y merched sy'n ateb hwn. Ar y cyfan ma dynion llawer mwy 'daring' a pethau fel hyn sydd wedi arwain at mwyafrif o ddarganfyddiadau gwyddoniaethol gan ddynion.

Yn

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 3:12 pm
gan Dave Thomas
tafod_bach a ddywedodd:1. os ydwi am drafod gwleidyddiaeth, mae'n well gen i wneud hynny hefo pobl agored, well-informed.


Dwi'n meddwl mai'r brif broblem hefo'r seiatau gwleidyddol yw fod gormod o bobl uninformed yn mynnu cymylu trafodaethau, nifer ohonynt yn gwneud hyn yn fwriadol er mwyn 'amddiffyn' eu hoff wleidyddion. Yr oll mae nhw'n gyflawni yw gwneud eu hunain edrych braidd yn pathetig.

2. mae'n cymryd tua MIL AWR i fi sgrifennu post gwleidyddiaeth sy'n neud sens.


Pam?

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 4:19 pm
gan Dwlwen
Dave Thomas a ddywedodd:
tafod_bach a ddywedodd:2. mae'n cymryd tua MIL AWR i fi sgrifennu post gwleidyddiaeth sy'n neud sens.


Pam?

Nid ceisio ateb dros tafod_bach 'yf fi - jyst bod y pwynt yma'n ddifyr.

Mae'n cymryd achau i fi sgwennu ymatebion i bwyntiau gwleidyddol hefyd, a bron i 100% o'r troeon wy'n 'neud, byddai'n dileu'r cyfan heb anfon. Nid am fy mod i'n ofn lleisio barn, na'n ofn 'i amddiffyn - ond am fod yr hyn wy'n s

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 4:23 pm
gan khmer hun
Well da ni drafod yn pyb neu dros swper a gwin, diolch. Mae'n haws torri ar draws :winc:

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 4:27 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Dwlwen a ddywedodd:
Dave Thomas a ddywedodd:
tafod_bach a ddywedodd:2. mae'n cymryd tua MIL AWR i fi sgrifennu post gwleidyddiaeth sy'n neud sens.


Pam?

Nid ceisio ateb dros tafod_bach 'yf fi - jyst bod y pwynt yma'n ddifyr.

Mae'n cymryd achau i fi sgwennu ymatebion i bwyntiau gwleidyddol hefyd, a bron i 100% o'r troeon wy'n 'neud, byddai'n dileu'r cyfan heb anfon.
haleliwia! dwi'n cael trafferth mawr efo hyn hefyd! yn y byd "go iawn" dwi'n cael trafferth mynegi'n hun yn glir, a does na neb yn fy nallt i ac ar ol tro egluro am oria hanner yr amser wedyn dwi'n deud "o dim ots". ma geni farn am betha a dwi yn aml iawn yn dallyd am y petha ma, jysd ma'n anoddach egluro dros gyfrifiadur na wyneb yn wyneb. ac yn aml ma Huw Psych a Tegwareg ap Seion wedi deud be dwisho'i ddeud yn barod, ac mewn ffor well. (dwi'n defnyddio nhw fel enghraifft chos ma nhw'n perthyn i fi a gan amla ma nhw di ffurfio'i barn yn yr un ffor a fi).

ma hwn di cymryd fflipn oria i'w sgwennu wan :rolio: :winc:

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 4:32 pm
gan Chwadan
Dwlwen a ddywedodd:
Dave Thomas a ddywedodd:
tafod_bach a ddywedodd:2. mae'n cymryd tua MIL AWR i fi sgrifennu post gwleidyddiaeth sy'n neud sens.


Pam?

Nid ceisio ateb dros tafod_bach 'yf fi - jyst bod y pwynt yma'n ddifyr.

Mae'n cymryd achau i fi sgwennu ymatebion i bwyntiau gwleidyddol hefyd, a bron i 100% o'r troeon wy'n 'neud, byddai'n dileu'r cyfan heb anfon.

Mm, a fi. Os na di be dwi'n ddeud yn dal cymaint o ddwr a phosib, nai'm trafferthu'i anfon o achos ma na rywun yn siwr o ffeindio'r tylla a phigo ffeit, ac ma hynna jyst yn ormod o hasl :winc: :rolio:

tafod_bach a ddywedodd:ffordd fygythiol a di-glem rhai o'r cyfrannwyr o ddadlau a blatant pointlessness y peth sy'n fy stopio rhag postio, nid fy nhits.

O, a hynna.

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 5:58 pm
gan Huw Psych
Mae'r hyn ma sian wedi ei ddweud yn wir. Mae merched yn haws am gymodi/gweld dwy ochr i'r geiniog.

Mae testosterone mewn dyn yn ei wneud yn fwy cystadleuol a heriol, dwi'n meddwl mae dyma ydi un o'r prif resymau. Wnaethpwyd mohono ni ddynion a merched yr un fath, felly mae gwahaniaethau am fod yn ein ffordd o gyfathrebu ayyb. Mae'n rhaid i fi gyfadde, dwi wedi llunio ateb sawl gwaith ac yna ei ddinistrio gan nad ydi o'n neud llawar o synnwyr! :rolio:

Mae dynion a merched yn wahanol, ond ellw chi byth diffinio ar wahan gan fod ganddo chi wahanol raddau o ddyn a gwahanol raddau o ferched, h.y. dyn merchetaidd, neu ferch wrywaidd. Dyda ni ddim fod 'run fath, felly, dyda ni ddim am ymateb yr un fath i sefyllfaoedd gwahanol.

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 6:38 pm
gan sian
Dw i wedi bod mewn canghennau Plaid Cymru mewn tair gwahanol ardal, tri gwahanol gyfnod, merched yw mwyafrif mawr yr aelodau yn y tair cangen a does dim lot o drafod polisi wedi bod yn yr un ohonyn nhw.
Canu oedd prif/unig ddiddorddeb cangen Pencader!
Arwyddocaol? Nodweddiadol?

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 7:14 pm
gan Hedd Gwynfor
O ran Cymdeithas yr iaith, mae Merched wedi bod yn flaengar iawn yn y mudiad. Credu fod rhyw 28 swydd ar y Senedd ar hyn o bryd, a tua 11 yn ferched.

Yn ogystal cyn y dolig bu cyfnod o weithredu uniongyrchol yn erbyn adeilad Llywodraeth y Cynulliad, a roedd dros hanner y gweithredwyr yn ferched.

A'r person diwethaf i gael ei charcharu dros y Gymdeithas oedd Sioned Elin.

Pan on i yn y coleg yn Aberystwyth hefyd, roedd canran uwch o'r gell yn ferched nac yn fechgyn.

Efallai fod y Gymdeithas yn wahanol? Pam fod y Gymdeithas yn apelio mwy at ferched na phleidiau gwleidyddol a Fforwm Drafod gwleidyddiaeth y Maes?

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 10:49 pm
gan gronw
dwi'n meddwl falle, ar y cyfan, ein bod ni fechgyn (e.e. ar y Maes) efo ymdeimlad cryfach bod gennon ni rywbeth gwerth ei ddweud nag sydd gan ferched, a bod ein barn ni'n bwysig a bod angen i bobl ein clywed. dwi'n meddwl mewn cyd-destun fel hyn bod merched yn siarad llai ond yn dweud mwy (mae digon o eithriadau i hynny wrth gwrs).

i ateb cwestiwn hedd am ferched a chymdeithas yr iaith, falle bod bechgyn yn fwy parod i ddweud (trafod polisi, anghytuno etc), ond bod merched jyst yn gwneud..?