Difrod pobl 'chwith' maes-e

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Re:

Postiogan Macsen » Sul 05 Hyd 2008 7:40 pm

SerenSiwenna a ddywedodd: :lol: :lol: , hee hee, 'arch-malu cachwr a'r arch-rantiwr o fri', dwi'm yn rhan o'r ddadl yma ond wnes i chwerthin gymaint o weld y ffordd o ti di eirio hwn roedd rhaid i fi butio mewn i dy londgyfarch.... 8)

Ew, roeddwn i'n flin yn mis Chwefror 2006. :wps:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6192
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sul 05 Hyd 2008 9:22 pm

Dio'm yn deg cwyno am y di-waith os nad os gwaith ar gael

Ateb: creu gwaith trwy gefnogi cwmnïau lleol newydd neu o leiaf gosod prosiectau gwaith llywodraethol. Pan ti'n rhoi arian i bobl yn uniongyrchol ti'n rhwymo'r sefyllfa, ond mae'r problem sylfaenol yno eto ac maen nhw'n dal ddibynnu ar y gyhoeddus. Yn rhy aml mae llywodraethau o'r chwith yn cefnogi pobl heb wella'r sefyllfa economeg sy'n eu dolurio nhw.

Dyna be sy'n digwydd yng Ngetoau Toronto, sy'n cynnwys lot uffernol o bobl ond sydd pell iawn o waith. Mae 80-90% o'r bobl yn byw oddi wrth arian cyhoeddus maen nhw'n cael o'r lywodraeth, ond di'r llywodraeth ddim eisiau rhoi grantiau i gwmnïau fuasai'n adeiladu gwaith annibynnol yn ar ardaloedd 'na (y fuasai'n rhoi iddyn ffordd annibynnol o neud arian, heblaw am y gyhoedd). Ac os ydy'r sector preifat yn amhosib i atynnu, o leiaf gallai prosiectau gwaith llywodraethol helpu'r bobl ychwanegu at yr economi, yn le bod yn twll enfawr ynddo fo.

Sori os ydy fy mhost ddim yn rhedeg yn rhy dda, mae fy Nghymraeg yn fy nghyfyngu tipyn!
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

Postiogan Blewyn » Llun 06 Hyd 2008 4:48 am

Gwenci Ddrwg a ddywedodd:
Dio'm yn deg cwyno am y di-waith os nad os gwaith ar gael

Ateb: creu gwaith trwy gefnogi cwmnïau lleol newydd neu o leiaf gosod prosiectau gwaith llywodraethol. Pan ti'n rhoi arian i bobl yn uniongyrchol ti'n rhwymo'r sefyllfa,

Weithiau dyna'r gorau fedri di cyflawni dros dymor byr-ganolig. Weithiau dyna'r cwbl sydd angen i seguro pleidleisiau ar gyfer yr etholiad nesaf. Weithiau mae gwlad yn hollol fwriadol eisiau magu llu o weithwyr rhad......
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:ond mae'r problem sylfaenol yno eto ac maen nhw'n dal ddibynnu ar y gyhoeddus. Yn rhy aml mae llywodraethau o'r chwith yn cefnogi pobl heb wella'r sefyllfa economeg sy'n eu dolurio nhw.

Ym Mhrydain y llywodraeth asgell dde o 1979 ymlaen achosodd y cynydd mwyaf (er y rhyfel) yn nifer y di-waith, a gwastraffon nhw elw olew mor y gogledd ar eu cadw ar y dol....
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:Dyna be sy'n digwydd yng Ngetoau Toronto, sy'n cynnwys lot uffernol o bobl ond sydd pell iawn o waith. Mae 80-90% o'r bobl yn byw oddi wrth arian cyhoeddus maen nhw'n cael o'r lywodraeth, ond di'r llywodraeth ddim eisiau rhoi grantiau i gwmnïau fuasai'n adeiladu gwaith annibynnol yn ar ardaloedd 'na (y fuasai'n rhoi iddyn ffordd annibynnol o neud arian, heblaw am y gyhoedd).

Debyg bod gweddill etholaeth Canada yn reit hapus efo hyn - cadw ghettos Toronto rhag magu eu busnesau cystadleuol eu hunain tra'n parhau i blanta a magu gweithlu rhad........
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:Ac os ydy'r sector preifat yn amhosib i atynnu, o leiaf gallai prosiectau gwaith llywodraethol helpu'r bobl ychwanegu at yr economi, yn le bod yn twll enfawr ynddo fo.

O be dwi wedi ddarllen am fywyd yn Canada a gweld o'u hymddygiad yn y gwaith yma yn y dwyrain canol, fyswn i ddim yn disgwyl iddynt ddatblygu ysbryd cymuned na synnwyr o chwarae teg yn y dyfodol agos......
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

Postiogan Gwenci Ddrwg » Maw 07 Hyd 2008 11:49 pm

Weithwyr rhad

= gwell na gweithiwr heb waith o gwbwl. Ac pan mae na cyflog lleiaf o $9/awr, di "rhad" ddim yn olygu gormod yn y lle cyntaf.

Ym Mhrydain y llywodraeth asgell dde o 1979 ymlaen achosodd y cynydd mwyaf (er y rhyfel) yn nifer y di-waith, a gwastraffon nhw elw olew mor y gogledd ar eu cadw ar y dol....

OK, un enghraifft efallai. Yn Nghanada ar y llaw arall, creodd y llywodraeth (chwith) dan Trudeau dyled cenedlaethol enfawr, 17 biliwn i 200 biliwn. Ar diwedd ei derm, 11.9% oedd nifer y di-waith (record cenedlaethol). Roedd arian yn mynd ym mhob man i rwymo popeth a dyna be sy'n digwydd. Ddigwyddodd run beth dan lywodraeth sosialaidd Bob Rae yn Ontario. Grêt.
Debyg bod gweddill etholaeth Canada yn reit hapus efo hyn - cadw ghettos Toronto rhag magu eu busnesau cystadleuol eu hunain tra'n parhau i blanta a magu gweithlu rhad

Ti'n dal meddwl bod yr atebion 'ma neud dim ond magu gwaith rhad, ond mae'r syniad 'na yn cyflawn o dyllau. Ar y lefel ymarferol, eto, be sy'n gwell, gwaith rhad neu dim gwaith? Ti eisiau iddynt dal fyw oddi wrth llaw y llywodraeth jest oherwydd dydy'r cwmniau ddim yn ddigon da iddynt? Beggar's can't be choosers, ac eto: cyflog lleiaf. Di'r cwmniau ddim yn gallu talu 2c/awr neu rhywbeth anghredadwy fel na. O leiaf yng Nghanada, mae gwaith (hyd yn oed y gwaith y fwyaf rhad) yn talu llawer mwy na chymorth cyhoeddus! Felly, gydag unrhyw fath o waith ar gael yn y sector cyhoeddus neu preifat, fasen nhw yn sefyllfa well.

Weithiau dyna'r cwbl sydd angen i seguro pleidleisiau ar gyfer yr etholiad nesaf

Felly pan mae llywodraeth sosialaidd yn taflu arian at y bobl yn uniongyrchol fel ateb tymor byr, maen nhw'n meddwl am fwy na'r etholiad nesaf? :rolio:
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

Postiogan Blewyn » Mer 08 Hyd 2008 6:26 am

Gwenci Ddrwg a ddywedodd:
Weithwyr rhad

= gwell na gweithiwr heb waith o gwbwl. Ac pan mae na cyflog lleiaf o $9/awr, di "rhad" ddim yn olygu gormod yn y lle cyntaf.

Cytuno - ond ddim efo'r ffigwr $9 yr awr. Beth bynnag ydy'r tal isafol, mi ddylia fod yn ddigon i dalu am fwyd, dillad, lle derbyniol i fyw ag egni.

Ym Mhrydain y llywodraeth asgell dde o 1979 ymlaen achosodd y cynydd mwyaf (er y rhyfel) yn nifer y di-waith, a gwastraffon nhw elw olew mor y gogledd ar eu cadw ar y dol....

OK, un enghraifft efallai. Yn Nghanada ar y llaw arall, creodd y llywodraeth (chwith) dan Trudeau dyled cenedlaethol enfawr, 17 biliwn i 200 biliwn. Ar diwedd ei derm, 11.9% oedd nifer y di-waith (record cenedlaethol). Roedd arian yn mynd ym mhob man i rwymo popeth a dyna be sy'n digwydd. Ddigwyddodd run beth dan lywodraeth sosialaidd Bob Rae yn Ontario. Grêt. [/quote]
Be mae hyn yn ddangos ydy fod llywodraethau o bob lliw yn gallu creu gwaith neu ei ddinistrio - mae'n dibynnu ar y sefyllfa sydd ar yr amser, a sut maent yn ei newid. Pethau i'w newid i siwtio sefyllfa ydy polisiau, nid rheolau pendant, parhaol.
Debyg bod gweddill etholaeth Canada yn reit hapus efo hyn - cadw ghettos Toronto rhag magu eu busnesau cystadleuol eu hunain tra'n parhau i blanta a magu gweithlu rhad

Ti'n dal meddwl bod yr atebion 'ma neud dim ond magu gwaith rhad, ond mae'r syniad 'na yn cyflawn o dyllau. Ar y lefel ymarferol, eto, be sy'n gwell, gwaith rhad neu dim gwaith?[/quote]
Mae hyn yn dibynnu ar dy safbwynt. Os ti allan o waith ag eisiau gwaith, gwaith rhad. Os ti'n berchen cwmni sydd angen gweithlu o gant ar $6 yr awr ond mae'r llywodraeth yn talu $8 yr awr o dol, eto gwaith rhad. Os ti'n llewygu, unrhyw arian dim ots lle doith o. Os ti'n berchen cwmni llwyddiannus sydd wedi cipio rhan helaeth y rhaniad marchnad yn Canada ond yn dibynnu ar weithlu sy'n ennill $10 yr awr, gwell i ti weld y llywodraeth yn cadw pobl y ghetto yno yn hytrach na'u gwthio i fewn i freichiau cystadleuwr.

Am bob sefyllfa mae'na rai sy'n sefyll i golli neu elwa ar y ddau ochr.
Ti eisiau iddynt dal fyw oddi wrth llaw y llywodraeth jest oherwydd dydy'r cwmniau ddim yn ddigon da iddynt? Beggar's can't be choosers, ac eto: cyflog lleiaf.

Mae angen cyflog lleiaf i rwystro cwmniau rhag gweithredu ar y cyd i wthio cyflogau i lawr i lefelau annerbynniol, a thagu cystadleuaeth yn y farchnad llafur. Yn syml, t'ydy $2 yr awr "ddim digon da"
Di'r cwmniau ddim yn gallu talu 2c/awr neu rhywbeth anghredadwy fel na.

Yn India (lle mae llawr mwy o bobl na gwaith) mae cyflog o $1 y dydd yn gwbl arferol. Pan mae'na diffyg balans mewn lefelau cystadleuaeth ar ochrau cyflenwad a gofyn marchnad, mae un ochr neu'r llall yn cael eu rhwymo.
O leiaf yng Nghanada, mae gwaith (hyd yn oed y gwaith y fwyaf rhad) yn talu llawer mwy na chymorth cyhoeddus! Felly, gydag unrhyw fath o waith ar gael yn y sector cyhoeddus neu preifat, fasen nhw yn sefyllfa well.

Felly dim ond y rhai na all ffendio gwaith sydd ar y cymorth cyhoeddus ?
Felly pan mae llywodraeth sosialaidd yn taflu arian at y bobl yn uniongyrchol fel ateb tymor byr, maen nhw'n meddwl am fwy na'r etholiad nesaf? :rolio:

Mae bob llywodraeth yn meddwl yn bennaf am yr etholiad nesaf, ag yn gweithredu i ddelio efo'r sefyllfa sydd ohoni mwy nag allan o ddogma, fel arfer. Mae hyn yn wir o'r dde a chwith. Yn anffodus, bob hyn a hyn mi welwn dogma yn cael ei roi o flaen yr ymarferol neu ddoeth, a mae pethau fel y credit crunch yn digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 09 Hyd 2008 1:22 am

Cytuno - ond ddim efo'r ffigwr $9 yr awr.

Ti'n cael llai na hynny fel athro newydd yn rhai prifysgolion fan hyn. Gofyn am fwy na 9$, ocê ond dim ond os oes 'na inflation...yn bersonol dwi heb ennill mwy na $9 yn fy mywyd.

Be mae hyn yn ddangos ydy fod llywodraethau o bob lliw yn gallu creu gwaith neu ei ddinistrio - mae'n dibynnu ar y sefyllfa sydd ar yr amser, a sut maent yn ei newid. Pethau i'w newid i siwtio sefyllfa ydy polisiau, nid rheolau pendant, parhaol.

Gytuno yn gyffredinol. Wadais i ddim be neith Thatcher, o'n i jest eisiau dangos na fydd y chwith yn hollol dieuog chwaith.

Os ti'n berchen cwmni llwyddiannus sydd wedi cipio rhan helaeth y rhaniad marchnad yn Canada ond yn dibynnu ar weithlu sy'n ennill $10 yr awr, gwell i ti weld y llywodraeth yn cadw pobl y ghetto yno yn hytrach na'u gwthio i fewn i freichiau cystadleuwr

Dyna pam mae rhaid i'r lywodraeth rhoi grantiau i gystadleuwr newydd. Dwi'm eisiau i'r gwmniau cyfredol ei neud o. Ac eniwe efo mwy o gystadleuaeth o'r sector preifat, mae 'na cynhyrchion a chyflogau gwell a dan ni'n cael manteision cyfalafiaeth. A rwan dan ni'n dol yn ôl i be ro'n i'n awgrymu...

Yn syml, t'ydy $2 yr awr "ddim digon da"

Sut bynnag, yn syml, mae $9 yn digon da. Ers pam mae nhw di talu $2/awr yn y gorllewin? Nid yn Nghanada yn amlwg. Dan ni di bod yn siarad am y sefyllfa yma, yng Nghanada ac ym Mhrydain (o leia', os dwi'm di methu rhywbeth pwysig iawn).

Mae bob llywodraeth yn meddwl yn bennaf am yr etholiad nesaf, ag yn gweithredu i ddelio efo'r sefyllfa sydd ohoni mwy nag allan o ddogma, fel arfer. Mae hyn yn wir o'r dde a chwith.

Dwi'n cytuno wrth gwrs, ond yn ôl be dwi di gweld yn ystod fy mhrofiad pan mae llywodraethau o'r chwith yn llwyddo i neud pethau ar y term hir (ydy hwn yn cywir? long term?) maen nhw'n tipyn llai effeithiol, neu o fwyaf mor effeithiol na'r dde. Ddioddefais i dan Mr. Rae. :lol:

Yn India (lle mae llawr mwy o bobl na gwaith) mae cyflog o $1 y dydd yn gwbl arferol.

Dyna rheswm arall pam mae rhaid i ti greu gwaith newydd yn rhyw ffordd...fel ddywedais i.

Felly dim ond y rhai na all ffendio gwaith sydd ar y cymorth cyhoeddus ?

A phobl sy'n cefnogi pobl arall neu plant, hyd yn oed os oes gynnon nhw waith. Ond yn amlwg mae rhyw fath o waith hefyd yn helpu, yn ogystal â chymorth cyhoeddus (neu wrth gwrs, yn LE cymorth cyhoeddus)! Eto, dwi'n methu deall pam ti'n deud bod angen i bobl gael gwaith, ond hefyd na fydd gwaith yn digon da.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

Postiogan Blewyn » Iau 16 Hyd 2008 1:11 pm

Gwenci Ddrwg a ddywedodd:
Cytuno - ond ddim efo'r ffigwr $9 yr awr.

Ti'n cael llai na hynny fel athro newydd yn rhai prifysgolion fan hyn. Gofyn am fwy na 9$, ocê ond dim ond os oes 'na inflation...yn bersonol dwi heb ennill mwy na $9 yn fy mywyd.
Tawaeth, mi ddylia'r tal fod yn ddigon i dalu am fwyd, dillad, lle i fyw ag egni. Mae'n rhaid for Toronto eitha rhad i'w gymharu a Phrydain..
Be mae hyn yn ddangos ydy fod llywodraethau o bob lliw yn gallu creu gwaith neu ei ddinistrio - mae'n dibynnu ar y sefyllfa sydd ar yr amser, a sut maent yn ei newid. Pethau i'w newid i siwtio sefyllfa ydy polisiau, nid rheolau pendant, parhaol.

Gytuno yn gyffredinol. Wadais i ddim be neith Thatcher, o'n i jest eisiau dangos na fydd y chwith yn hollol dieuog chwaith.
Dwi'n meddwl mai'r gwahaniaeth pennaf rhygddynt yw mai ar y cyfan, pobl clen sydd ar y chwith - eisiau'r gorau neu tecaf i bawb - a phobl milain, hunanol sydd ar y dde.
Os ti'n berchen cwmni llwyddiannus sydd wedi cipio rhan helaeth y rhaniad marchnad yn Canada ond yn dibynnu ar weithlu sy'n ennill $10 yr awr, gwell i ti weld y llywodraeth yn cadw pobl y ghetto yno yn hytrach na'u gwthio i fewn i freichiau cystadleuwr

Dyna pam mae rhaid i'r lywodraeth rhoi grantiau i gystadleuwr newydd. Dwi'm eisiau i'r gwmniau cyfredol ei neud o. Ac eniwe efo mwy o gystadleuaeth o'r sector preifat, mae 'na cynhyrchion a chyflogau gwell a dan ni'n cael manteision cyfalafiaeth. A rwan dan ni'n dol yn ôl i be ro'n i'n awgrymu...


Gwneud y pwynt oeddwn fod cwmniau yn gweld mantais mawr mewn cadw rhan o'r gweithlu allan o waith, er mwyn cadw cryfder ar eu ochr nhw yn y farchnad llafur. Ti'n iawn wrth gwrs mi ddylia llywodraeth orfodi cystadleuaeth lle gall, gan gynnwys defnyddio grantiau neu drwy dorri cwmniau yn ddarnau llai fel yn achos Standard Oil.
Yn syml, t'ydy $2 yr awr "ddim digon da"

Sut bynnag, yn syml, mae $9 yn digon da. Ers pam mae nhw di talu $2/awr yn y gorllewin? Nid yn Nghanada yn amlwg. Dan ni di bod yn siarad am y sefyllfa yma, yng Nghanada ac ym Mhrydain (o leia', os dwi'm di methu rhywbeth pwysig iawn).

Mae llawer o'r de eithafol (yn enwedig 'libertarians' - mwncwn bob un) yn dadlau yn wastad y gwneith y farchnad edrych ar ein hol. Y gwir yw na wneith - os ydy'r llywodraeth yn methu creu digon o gystadleuaeth, mae cwmniau yn datblygu ffyrdd o ymddwyn fel cartel yn y farchnad llafur, ag yn gweithredu fel un i gadw cyflogau i lawr, a thelerau gwaith yn wael. Busnes llywodraeth yw rheoli hyn, a gwneud yn siwr fod cyflogau 'digon da' a fod y perchennogion barus yn helpu i ddatblygu ein bywydau heb dagu'r economi.

Mae bob llywodraeth yn meddwl yn bennaf am yr etholiad nesaf, ag yn gweithredu i ddelio efo'r sefyllfa sydd ohoni mwy nag allan o ddogma, fel arfer. Mae hyn yn wir o'r dde a chwith.

Dwi'n cytuno wrth gwrs, ond yn ôl be dwi di gweld yn ystod fy mhrofiad pan mae llywodraethau o'r chwith yn llwyddo i neud pethau ar y term hir (ydy hwn yn cywir? long term?) maen nhw'n tipyn llai effeithiol, neu o fwyaf mor effeithiol na'r dde. Ddioddefais i dan Mr. Rae. :lol: [/quote]
Mae'n ddrwg gen i dwi ddim yn gwybod digon i siarad am Mr Rae ond dwi'n gaddo ei wikipedio fo fory (mae gen i barti heno :-)

Pethau cymunedol ydy cyrrhaeddiadau mwyaf Prydain yn fy marn i - y Gwasanaeth Iechyd, y sustem addysg, y gwasanaeth tan, yr heddlu, y rheilffyrdd (a fu). Mae pobl adref yn cwyno amdanynt wrth gwrs ond mae llawer iawn o bobl y byd yn sbio i fyny ar Brydain achos y pethau yma - a creda fi ti'n gweld gwahaniaeth mawr mewn gwledydd sydd heb rhain !

Yn India (lle mae llawr mwy o bobl na gwaith) mae cyflog o $1 y dydd yn gwbl arferol.

Dyna rheswm arall pam mae rhaid i ti greu gwaith newydd yn rhyw ffordd...fel ddywedais i.[/quote]
Mae'na 1,000,000,000 o bobl yn India yn barod. Os wnei di greu gwaith, mi blantan nhw fwy eto, wedyn mi fydd raid i ti ffendio gwaith i 2,000,000,000 o bobl....ayyb ayyb ayyb

be sy'n digwydd pan mae'r byd yn llawn ?

Felly dim ond y rhai na all ffendio gwaith sydd ar y cymorth cyhoeddus ?

A phobl sy'n cefnogi pobl arall neu plant, hyd yn oed os oes gynnon nhw waith. Ond yn amlwg mae rhyw fath o waith hefyd yn helpu, yn ogystal â chymorth cyhoeddus (neu wrth gwrs, yn LE cymorth cyhoeddus)! Eto, dwi'n methu deall pam ti'n deud bod angen i bobl gael gwaith, ond hefyd na fydd gwaith yn digon da.[/quote]
Achos mae dyletswydd ar gymdeithas i wneud yn siwr fod gwaith ar gael i bawb - d'oes dim hawl gan bobl fynnu fod eu hawliau eiddo yn cael eu parchu os nad ydynt yn fodlon gwneud lle yn yr economi i'r rhai sydd heb eiddo (dim ond drwy gwaith y 'tlodion' all y bobl sy'n byw ar eu heiddo wneud hynny....dim pwrpas bod yn gyfoethog mewn gwlad o gyfoethogion, llwyth o bres yn banc ond methu ffendio neb i lnau dy gar neu gwcio dy ginio) - a mae dyletswydd arnynt i wneud yn siwr fod y gwaith yn talu digon (isafswm) i gyflenwi bwyd, dillad, lle i fyw ag egni.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sul 19 Hyd 2008 8:04 pm

Busnes llywodraeth yw rheoli hyn, a gwneud yn siwr fod cyflogau 'digon da' a fod y perchennogion barus yn helpu i ddatblygu ein bywydau heb dagu'r economi.

Pan ddywedes i mai anarcho-capitalist oeddwn i? Yn amlwg mae rhaid i'r lywodraeth gymryd rhan yn y broses hefyd. Ond pan mae'r llywodraeth yn mynd rhy bell -hawdd go iawn i neud- neu eisiau rheoli a chefnogi popeth...wel mae gen ti hefyd problemau economeg sy'n dod yn ôl i frathu'r bobl maen nhw'n ceisio helpu, a monopoli llywodraethol yn le monopoli corfforedig. Grêt.

Dwi'n meddwl mai'r gwahaniaeth pennaf rhygddynt yw mai ar y cyfan, pobl clen sydd ar y chwith - eisiau'r gorau neu tecaf i bawb - a phobl milain, hunanol sydd ar y dde.

Wel dyna hen rhagfarn y dde, yn syml. Swnio'n reit dda ac allgarol ar bapur os ti'n ffaelu meddwl amdani gormod. Trwy galw'r dde yn "hunanol" mae pobl yn arfer anghofio am bobl ar y dde sy'n cefnogi cardod preifat, ac hefyd am bobl diog ar y chwith a sydd eisiau cipio arian -yn "gyfreithiol" wrth gwrs- yn le gweithio ato fo eu hun. Mae 'na mwy na un ffordd o chymorth, heblaw am y Llywodraeth, a mwy na un ffordd o fod yn "hunanol" heblaw am y dde.
Mae'na 1,000,000,000 o bobl yn India yn barod. Os wnei di greu gwaith, mi blantan nhw fwy eto, wedyn mi fydd raid i ti ffendio gwaith i 2,000,000,000 o bobl....ayyb ayyb ayyb

be sy'n digwydd pan mae'r byd yn llawn ?

Pwynt pwysig iawn: ymddeoliad, a marwolaeth. Mae'r gwaith yn cael ei agor i'r blant yn naturiol pan mae'r hen gweithwyr yn darfod. Di neb yn byw am byth felly mae dy gynnydd "exponential" yn cyrraedd wal bric wedyn sbel. Hefyd mae economig syml yn deud nad oes rhaid i ti greu gwaith o bawb yn y wlad. Hyd yn oed os ti'n rhoi gwaith i hanner (neu llai) o'r bobl bydd gynnon nhw arian newydd i ddefnyddio ar wasanaethu eilaidd, sy'n agor hyd yn oed mwy o gyfle. Gair allweddol: "arian newydd."

Ar y llaw arall os ti eisiau gefnogi pob u'n ohonynt efo arian cyhoeddus, wedyn sbel baset ti'n rhoi arian cyhoeddus i 2 000 000 000 o bobl. Ac wedyn i 3 000 000 000 o bobl...ayyb ayyb ayyb. O le di'r arian i gyd yn DOD, oddi wrth yr awyr? Trwy wyrth Duw neu rhywbeth? Gair allweddol: "o le?"

a mae dyletswydd arnynt i wneud yn siwr fod y gwaith yn talu digon (isafswm) i gyflenwi bwyd, dillad, lle i fyw ag egni.

Ocê felly heb unrhyw gwaith o gwbl allen nhw dalu am bwyd ac ati yn lawer gwell.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

Postiogan celt86 » Mer 27 Mai 2009 5:34 pm

Gladus Goesgoch a ddywedodd:Mae pobl fel fi, yn "y Fro", ddim eisiau Facebook yn Gymraeg, ddim eisiau MySpace yn Gymraeg, ddim angen ffurflen tax yn gymraeg, ddim yn poeni am announcmets trens yn Gymraeg. Ond mae lot ohonom isiio tai, gwaith, dyfodol i'n cymunedau Cymraeg, ac annibyniaeth.


Cytuno 100%!!!!!!!!!!!!!!!!

Mae cymdeithas yr iaith 'Elite' ai antics yn rhoi enw drwg i siaradwyr Cymraeg eraill. Protestio am y pethau mwyaf tila a gwnued ffwl oi hunain yn hand-cuffio i railings a wedyn cael ei arestio. Dwim yn meindio Cymuned. Ond dwin casau Cymdeithas yr Iaith. Meddwl bod nhw'n rhywun a edrych lawr ar siaradwyr Cymraeg eraill sydd ddim yn rhan oi clique elitaidd nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

Postiogan ffwrchamotobeics » Iau 28 Mai 2009 12:01 am

Pwy yw Cath Ddu a Dave Thomas? Swnio fel penod hynod erchyll o'r Pris, neu rwbeth.
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron