huwwaters a ddywedodd:Tydw i methu ffindio'r dau edefyn dwi eisiau son, er dwi di chwilio am tua 20 munud rwan.
Trafodaeth "
A oes angen plaid asgell-dde i Gymru?"
Mae o'n shocking meddwl fod cwestwin o'r fath yn cael ei ofyn, sy'n dangos fod cymaint o trendy-left yma. Mae'n ategu nad yw Plaid Cymru yn addas i Gymru, er ei fod yn cael ei wthio ar pob berson sydd 'i fod yn Gymro'.
Ti'n amlwg wedi cam-ddeall yr edefyn yna (a esblygodd yn naturiol allan o edefyn arall). Nid gofyn
"A oes angen plaid asgell-dde i Gymru?"
ond yn hytrach gofyn
"A oes angen plaid asgell-dde
cenedlaetholgar i Gymru?"
Trafod y manteision a'r anfanteision. Nifer yn meddwl byddai hyn yn rhannu'r bleidlais cenedlaetholgar ac felly'n gwanhau'r mudiad cenedlaethol, eraill yn dadlai y bydde'n apelio at mwy o bobl, ac felly'n cryfhau'r mudiad cenedlaethol. 'Trafod', dyna ydy bwriad fforwm drafod ti'n gweld.
huwwaters a ddywedodd:Oherwydd y rantings Plaid Cymru, Cymdeithas ac yn gyffredinol anwybodusrwydd a di-synnwyr chi bobl 'isolated' yn y Fro Gymraeg, mi'r ydych wedi troi fi yn eich herbyn.
Beth yw'r busnes "'isolated' yn y Fro Gymraeg" 'ma? Nid yw hyn yn bosibl heddiw (hyd yn oed i rywyn sydd am dorri pob cysylltiad a gweddill y byd) Dwi ddim yn siwr iawn beth sydd wedi dy droi yn sydyn yn erbyn cefnogwyr Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith etc. Wyt ti'n flin gan dy fod wedi colli rhai dadleuon ar y Maes yn ddiweddar?