Tudalen 1 o 5

Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 03 Chw 2006 7:22 pm
gan huwwaters
Rwan, pan ddois ar maes-e ac hyd at blwyddyn yn

PostioPostiwyd: Gwe 03 Chw 2006 8:43 pm
gan Hedd Gwynfor
Ti ishe rhoi unrhyw enghreifftiau, neu jest rant oedd hwna i fod?

PostioPostiwyd: Gwe 03 Chw 2006 9:03 pm
gan Dili Minllyn
Hei, Huw, mae croeso i ti newid dy syniadaeth, ond rheswm gwael dros ei wneud e yw dy fod ti ddim yn licio rhai o bobl y chwith: dwi 'di cwympo i'r un fagl fy hunan gwpl o weithiau. Onid yw'r Saeson yn dweud rhywbeth am fabanod a dŵr y bath? :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 03 Chw 2006 9:10 pm
gan Dave Thomas
Rhagwelaf bydd Karma huw yn dymchwel :lol:

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 03 Chw 2006 11:36 pm
gan Cath Ddu
huwwaters a ddywedodd:Da chi di gwthio fi i realms Cath Ddu a Dave Thomas.


Lle da i Rebel :P

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 03 Chw 2006 11:46 pm
gan GT
huwwaters a ddywedodd:Rwan, pan ddois ar maes-e ac hyd at blwyddyn yn

PostioPostiwyd: Sad 04 Chw 2006 12:35 am
gan Macsen
Oi na, huw, yr arch-malu cachwr a'r arch-rantiwr o fri, yn cael rant yn cwyno am bobl eraill yn cael rant.

Tynna dy ben allan o dy din, met. Mae modd newid dy farn heb ddechrau edefyn hunanbwysig am y peth.

PostioPostiwyd: Sad 04 Chw 2006 2:23 am
gan 7ennyn
Ydi casineb personol yn erbyn rhai o bennau bach maes-e yn ddigon i wneud i ti newid dy ddaliadau? Mae'n rhaid dy fod ti'n gymysglyd iawn 'rhen fet. Cymer fr

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 12:55 pm
gan Cymro13
Tueddol i gytuno gyda rhan fwyaf o beth mae huwwalters yn ei ddweud ma agweddau rhai o aelodau'r Blaid yn gallu creu gelynion o fewn pobl Cymru ac yn rhoi tannwydd i'r bobl gwrth-Gymraeg o fewn Cymru i ddefnyddio yn ein herbyn(mae yna enghreifftiau yn yr archifau)
Un enghraifft fel oedd huw yn ei ddweud yw'r agwedd Cenedlaetholgar-Sosialaidd-Fro Gymraegaidd a hyd yn oed yn mynd mor bell ag awgrymu -os nad ydych yn genedlaetholwr nac yn sosialaidd dydych chi ddim yn Gymro go iawn
Adain Dde = Tory = Sais
Ie ma hawl gan bobl eu barn a dwi'n parchu pobl sydd yn rhoi eu barn hyd yn oed os dwi'n anghytuno ond ma pobl yn dueddol o fynd yn rhy bell weithiau ac yn gallu dieithrio pobl sydd ddim yn sosialwyr ond yn Gymro neu yn Gymraes ac yn falch o hynny

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 1:48 pm
gan Sleepflower
Fi'n credu fi'n cwympo i mewn i'r grwp 'ma ti'n son Huw, ac mor bell a dwi'n gallu cofio, nid oes problem wedi erioed wedi bodoli rhyngddom ni'n dau.

Fi'n credu oherwydd fod rhyw un neu ddau o bobl sydd wedi mynd ar dy nerfau, ti 'di wedi pendrfynu taflu pawb i fewn i grwp hynod o eang. Mi rwyt ti wedi cyffredinoli'n llwyr, a phaentio darnlun hollol gamarweiniol.

huwwaters a ddywedodd:Chi'n gwbad yn iawn pwy ydych chi, y rhai sy'n swnian fod 'y Rhyddfrydwyr' yn defnyddio tactegau drwg;


Gwir. Mae tactegaeth drwg yn rhywbeth sydd rhaid i bob Plaid dysgu sut i wneud. Rhaid canmol y rhyddfrydwyr ar eu hymdrechion yng Nghredigion.

huwwaters a ddywedodd:dwi'n rebel achos dwi di bod mewn cell Heddlu oherwydd Cymdeithas - ie, rhywbeth i roi ar y CV;


Fel yr wyf wedi son slawer dro ar Maes E, wnes i erioed torri'r gyfraith er mwyn fod yn rhan o glique, neu er mwyn sicrhau swydd da i'r dyfodol. Trwy weithredu a chymdeithas, yr wyf wedi

i. Colli mwy o ffrindiau nag wyf wedi'u gwneud.
ii. Cyfyngu'n ddifrifol y swyddi fedra i eu gwneud yn y dyfodol.

huwwaters a ddywedodd:Cymysgwch gyda'r pobl sy'n siarad Cymraeg a phwy bynnag arall.


Fi'n dod o gartref hanner Cymraeg ac hanner Saesneg. Braidd yn anodd yw osgoi cymysgu a phobl ddi-Gymraeg wedyn, nag yw e?