Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 1:56 pm
gan Dave Thomas
Cymro13 a ddywedodd:Un enghraifft fel oedd huw yn ei ddweud yw'r agwedd Cenedlaetholgar-Sosialaidd-Fro Gymraegaidd a hyd yn oed yn mynd mor bell ag awgrymu -os nad ydych yn genedlaetholwr nac yn sosialaidd dydych chi ddim yn Gymro go iawn
Adain Dde = Tory = Sais


Yn anffodus mae'r agweddau afresymol yma'n dal i fodoli.

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 3:00 pm
gan Dylan
erm

gwell gen i fagu barn ar sail y materion eu hunain yn hytrach nag ar ymddygiad eraill.

mae lot o'r "chwith" yn mynd ar fy nerfau innau hefyd, ond 'dw i ddim yn gadael i hynny ynddo'i hun fy ngwthio i ffwrdd oddi wrth y daliadau eu hunain. 'Dw i dal yn iawn, hyd yn oed os ydw i'n rhannu cwch efo lot o dwpsod.

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 3:20 pm
gan Daffyd
Dwi'n tueddu i gytun o tipyn bach efo Huw, fod yr elitists Cymry Cymraeg yn tueddu i fynd i'w grwp bach eu hyn a'u 'ego's a mynd ar

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 3:22 pm
gan Dylan
ble mae'r elitists 'ma? Mae gen i awydd dod yn un. Ydw i'n gorfod sefyll prawf?

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 3:27 pm
gan Daffyd
Dylan a ddywedodd:ble mae'r elitists 'ma? Mae gen i awydd dod yn un. Ydw i'n gorfod sefyll prawf?

Wyt, a fysw ni yn argymhell i ti wisgo dy siwt goch, gwyn a gwyrdd gorau a rhoi sgwd cyflym i dy fam i gael marciau ychwanegol.

:winc:

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 3:31 pm
gan Dylan
'dw i'n clywed parablu mlaen a mlaen am "elitists Cymraeg" byth a beunydd. Ond beth am yr "elitists di-Gymraeg" sydd yn, erm, 'dach chi'n gwybod, rheoli Cymru?

Mae pob system gymdeithasol am gael "el

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 3:31 pm
gan Mr Gasyth
Wyt ti wedi dod rownd i dynny dy ben allan o dy din di eto Huw?

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 3:39 pm
gan Daffyd
Dylan a ddywedodd:Mae pob system gymdeithasol am gael "el

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 10:20 pm
gan huwwaters
Tydw i methu ffindio'r dau edefyn dwi eisiau son, er dwi di chwilio am tua 20 munud rwan.

Trafodaeth "A oes angen plaid asgell-dde i Gymru?"

Mae o'n shocking meddwl fod cwestwin o'r fath yn cael ei ofyn, sy'n dangos fod cymaint o trendy-left yma. Mae'n ategu nad yw Plaid Cymru yn addas i Gymru, er ei fod yn cael ei wthio ar pob berson sydd 'i fod yn Gymro'.

Trafodaeth "Maes-e yn cael ei wahardd yn y gweithle."

Ymateb cyntaf nifer o bobl. "Mae'r bos yn erbyn y Gymraeg." Cyn ystyried eich bod yn mynd i'r gwaith er mwyn gweithio, nid i syrffio gwefannau trafodaethau.

Pathetig.

PostioPostiwyd: Llun 06 Chw 2006 10:52 pm
gan Hedd Gwynfor
huwwaters a ddywedodd:Tydw i methu ffindio'r dau edefyn dwi eisiau son, er dwi di chwilio am tua 20 munud rwan.

Trafodaeth "A oes angen plaid asgell-dde i Gymru?"

Mae o'n shocking meddwl fod cwestwin o'r fath yn cael ei ofyn, sy'n dangos fod cymaint o trendy-left yma. Mae'n ategu nad yw Plaid Cymru yn addas i Gymru, er ei fod yn cael ei wthio ar pob berson sydd 'i fod yn Gymro'.


Ti'n amlwg wedi cam-ddeall yr edefyn yna (a esblygodd yn naturiol allan o edefyn arall). Nid gofyn

"A oes angen plaid asgell-dde i Gymru?"

ond yn hytrach gofyn

"A oes angen plaid asgell-dde cenedlaetholgar i Gymru?"

Trafod y manteision a'r anfanteision. Nifer yn meddwl byddai hyn yn rhannu'r bleidlais cenedlaetholgar ac felly'n gwanhau'r mudiad cenedlaethol, eraill yn dadlai y bydde'n apelio at mwy o bobl, ac felly'n cryfhau'r mudiad cenedlaethol. 'Trafod', dyna ydy bwriad fforwm drafod ti'n gweld.

huwwaters a ddywedodd:Oherwydd y rantings Plaid Cymru, Cymdeithas ac yn gyffredinol anwybodusrwydd a di-synnwyr chi bobl 'isolated' yn y Fro Gymraeg, mi'r ydych wedi troi fi yn eich herbyn.


Beth yw'r busnes "'isolated' yn y Fro Gymraeg" 'ma? Nid yw hyn yn bosibl heddiw (hyd yn oed i rywyn sydd am dorri pob cysylltiad a gweddill y byd) Dwi ddim yn siwr iawn beth sydd wedi dy droi yn sydyn yn erbyn cefnogwyr Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith etc. Wyt ti'n flin gan dy fod wedi colli rhai dadleuon ar y Maes yn ddiweddar?