Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Maw 07 Chw 2006 6:12 pm
gan Rhys Llwyd
Huw, ma na elfenau a phobol yn y mudiad chwith cenedlaethol sy'n mynd ar fy nerfau i - yn benaf y ffordd mae llawer o Blaid Cymru yn 'gyfforddus' er 1997.

Wedi dweud hynny dwi ddim am adael y symudiad oherwydd dwi ddim yn y symudiad oherwydd y cwmni da dwi yna allan o argyhoeddiad.

Os mae gadael oherwydd i ti newid yn syniadaethol wyt ti deigon teg OND os wyt ti'n newid dy syniadau oherwydd nad wyt ti'n licio pobol eraill sy'n arddel y syniadau yna prin gellid dadlau fod y syniadau yna wedi eu gwreiddio ynot o gwbl.

PostioPostiwyd: Llun 13 Chw 2006 11:53 pm
gan eusebio
Dave Thomas a ddywedodd:Rhagwelaf bydd Karma huw yn dymchwel :lol:


Ia, yn union fel un Cath Duu :rolio:

paranoia ... ti'm yn meddwl mai dy sylwadau yn hytrach na dy ddaliadau sy'n gyfrifol am dy ddiffyg poblogrwydd?

PostioPostiwyd: Maw 14 Chw 2006 8:59 am
gan HBK25
Son am Karma, mae fy Ngharma i wedi diflannu'n llwyr. Gwych! :D

PostioPostiwyd: Sad 04 Maw 2006 5:51 pm
gan caws_llyffant
Ka ka ka karma chameleon ?

PostioPostiwyd: Sul 05 Maw 2006 9:02 pm
gan ceribethlem
Ma'r edefyn hwn braidd yn sili yn fy marn i.

PostioPostiwyd: Llun 06 Maw 2006 1:12 am
gan Tegwared ap Seion
wel dwi'n meddwl bod y pwynt gwreiddiol yn un teg, mae o jesd yn edefyn arall sy' 'di mynd off y rels yn llwyr.

PostioPostiwyd: Llun 06 Maw 2006 4:56 pm
gan Dylan
Tegwared ap Seion a ddywedodd:wel dwi'n meddwl bod y pwynt gwreiddiol yn un teg


nadi

PostioPostiwyd: Llun 06 Maw 2006 11:29 pm
gan Tegwared ap Seion
yndi

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 7:43 pm
gan Gladus Goesgoch
Huw, tydi Maes-e ddim yn adlewyrchiad o gymdeithas gig a gwaed. Ti'n beirniadu Cymry Cymraeg "y Fro" i gyd mond oherwydd yr over-representation o "trendi-lefftis politicali corect ymgyrchwyr iaith Plaidies" ar y Maes. (a mae nw yma, a dw i yn frustrated efo nw hefyd)

Mae pobl fel fi, yn "y Fro", ddim eisiau Facebook yn Gymraeg, ddim eisiau MySpace yn Gymraeg, ddim angen ffurflen tax yn gymraeg, ddim yn poeni am announcmets trens yn Gymraeg. Ond mae lot ohonom isiio tai, gwaith, dyfodol i'n cymunedau Cymraeg, ac annibyniaeth.

Re:

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 8:12 pm
gan Manon
Rhys Llwyd a ddywedodd:Huw, ma na elfenau a phobol yn y mudiad chwith cenedlaethol sy'n mynd ar fy nerfau i - yn benaf y ffordd mae llawer o Blaid Cymru yn 'gyfforddus' er 1997.

Wedi dweud hynny dwi ddim am adael y symudiad oherwydd dwi ddim yn y symudiad oherwydd y cwmni da dwi yna allan o argyhoeddiad.


Cwait rait.

'Sdi be, Rhys? Ti'n siarad lot o sens yn ddiweddar 'ma! :)