Tudalen 4 o 5

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 10:50 am
gan eusebio
Y dyddiau yma??

Blydi hell, Chwefror 07, 2006 sgwennodd o'r neges 'na !

:!:

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 4:36 pm
gan Mali
eusebio a ddywedodd:Y dyddiau yma??

Blydi hell, Chwefror 07, 2006 sgwennodd o'r neges 'na !

:!:


Cweit ! Ond chwarae teg i Manon , mae'n beth ddigon hawdd i'w wneud , heb i chi yn gyntaf edrych yn ofalus ar ddyddiad yr edefyn.
Rhyfedd i'r edefyn gael ei atgyfodi ddwy flynedd ar ôl y sylw olaf. :?

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 6:25 pm
gan Manon
eusebio a ddywedodd:Y dyddiau yma??

Blydi hell, Chwefror 07, 2006 sgwennodd o'r neges 'na !

:!:


O wel... Rhys, odda chdi'n siarad sens dwy flynedd yn ol... :winc:

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 23 Mai 2008 2:50 pm
gan Macsen
Y broblem gyda cwyno am bobol chwith y Maes ydi bod eu 'track record' yn eitha da hyd yn hyn - Rhyfel Irac yn syniad drwg, ail ethol George Bush yn syniad drwg, Plaid Cymru am fod mewn pwer cyn hir... tra bod y pobol adain dde, fel RET, Cath Ddu, a Newt Gingrich (be ddigwyddodd idda fo?) wedi bod yn gyson anghywir (yn anffodus). Oce falle mai cyd-ddigwyddiad oedd hyn, ond mae o dal yn arwyddocaol. ;)

*taflu cerrig at gychod gwenyn*

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 23 Mai 2008 4:49 pm
gan Cardi Bach
Macsen a ddywedodd: ... a Newt Gingrich (be ddigwyddodd idda fo?) ...

Paid a phoeni, mae Newt yn dal i fod yma, ond mae bellach yn ymddangos o dan enw arall...fel ambell i aelod arall.

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Sad 04 Hyd 2008 2:28 am
gan Gwenci Ddrwg
Ie ma hawl gan bobl eu barn a dwi'n parchu pobl sydd yn rhoi eu barn hyd yn oed os dwi'n anghytuno ond ma pobl yn dueddol o fynd yn rhy bell weithiau ac yn gallu dieithrio pobl sydd ddim yn sosialwyr ond yn Gymro neu yn Gymraes ac yn falch o hynny

Ia, yn amlwg mae fy marn yn hollol di-werth oherwydd dwi'm yn Cymreig o gwbwl a dwi'm yn byw yng Nghymru, ond mae'n ofnadwy taw plaid sosialaidd ydy'r unig plaid sy'n cefnogi'r iaith/annibyniaeth ac ati. Dwi eisiau teimlo'n dda pan mae PC yn cyflawni rhywbeth, ond dwi jest ddim yn gallu. Dwi di bod ar wefannau pro-gwledydd lleiafrifol yn y gorffennol lle ces i fy nieithrio oherwydd doedd neb eisiau unrhywbeth i neud efo'r dde, hyd yn oed os dwi'n cefnogi eu achos. I gyflawni annibyniaeth, rhaid atynnu pobl o bob adain, felly yn my marn i 'sai plaid cenedlaetholgar "canol" yn llawer mwy effeithiol, ar termau ymarferol. Dwi'n siwr bod o leiaf rhyw pobl sy'n gallu fotio yng Nghymru yn meddwl yr un beth na fi.

EDIT wps mae pob un o fy mhwyntiau wedi'u crybwyll eisoes.

Un enghraifft fel oedd huw yn ei ddweud yw'r agwedd Cenedlaetholgar-Sosialaidd-Fro Gymraegaidd a hyd yn oed yn mynd mor bell ag awgrymu -os nad ydych yn genedlaetholwr nac yn sosialaidd dydych chi ddim yn Gymro go iawn
Adain Dde = Tory = Sais

A ti'n anghofio am rhywbeth, ti'n gallu bod yn genedlaetholwr heb fod ar yr adain-chwith. Mae'r plaid cenedlaetholgar yng Nghebec (yr Action Démocratique du Québec neu ADQ) ar y dde, er enghraifft. Mae pobl yn meddwl bod cenedlaetholwr = lefty. Malu cachu... :D

OK digon o fy rant. Amser i fy nghoffi dyddiol.

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Sad 04 Hyd 2008 8:44 am
gan Blewyn
Yn wir, dwi'n meddwl bysa plaid adain-dde cenedlaetholgar yn lawer iawn mwy effeithiol. Apelio at y boced ag annog uchelgais yn hytrach na trio gwerthu cyfiawnder.

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Sad 04 Hyd 2008 4:53 pm
gan Gwenci Ddrwg
Wel mae uchelgais yn troi'r byd. Ac syniad uchelgeisiol ydy annibyniaeth. Eniwe, er hoffwn i weld blaid cenedlaetholgar adain-dde, i rhesymau ymarferol dwi'n deall y fuasai plaid canolig yn lawer well. Apelio i bawb = creu pŵer.

gwerthu cyfiawnder

Gwerthu cyfiawnder yn ôl pwy? Y chwith, sy'n hoffi defnyddio geiriau mawr fel hyn sy'n edrych yn dda ar bapur.
Cyfiawnder yn ôl y chwith = pan mae pobl sydd heb aros yn ysgol neu sydd ddim yn gweithio'n cymryd arian sy'n perthyn i bobl sy wedi llwyddo. Wrth gwrs, heb y diffiniad, mae'n edrych yn lawer gwell. :rolio:

'track record' yn eitha da hyd yn hyn - Rhyfel Irac yn syniad drwg, ail ethol George Bush yn syniad drwg,

Ym...jest i chwarae eiriolwr y diafol, ti'n siarad fel dy bwyntiau di cael eu profi. Rhyfel = syniad drwg a Bush = syniad drwg yn ôl y chwith felly wrth gwrs bydden nhw'n "cywir"...yn eu barn nhw!

Re: Difrod pobl 'chwith' maes-e

PostioPostiwyd: Sul 05 Hyd 2008 5:59 am
gan Blewyn
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:Wel mae uchelgais yn troi'r byd. Ac syniad uchelgeisiol ydy annibyniaeth. Eniwe, er hoffwn i weld blaid cenedlaetholgar adain-dde, i rhesymau ymarferol dwi'n deall y fuasai plaid canolig yn lawer well. Apelio i bawb = creu pŵer.

gwerthu cyfiawnder

Cyfiawnder yn ôl y chwith = pan mae pobl sydd heb aros yn ysgol neu sydd ddim yn gweithio'n cymryd arian sy'n perthyn i bobl sy wedi llwyddo.

1. Dio'm yn deg cwyno am y di-waith os nad os gwaith ar gael (a na, t'ydy codi tatws am 50p yr awr ddim yn cyfri - mae'n rhaid i'r gwaith dalu digon i gyflenwi safon o fywyd derbynniol, sef bwyd, dillad,egni, ag un noson allan yr wythnos.)
2. Tria beidio talu arian i gadw'r di-waith na gynnig gwaith iddynt, a mi gei di weld be ddigwyddith. Be fysa ti'n wneud yn y fath sefyllfa, jest llewygu'n dawel ag ufudd ?
'track record' yn eitha da hyd yn hyn - Rhyfel Irac yn syniad drwg, ail ethol George Bush yn syniad drwg,

Ym...jest i chwarae eiriolwr y diafol, ti'n siarad fel dy bwyntiau di cael eu profi. Rhyfel = syniad drwg a Bush = syniad drwg yn ôl y chwith felly wrth gwrs bydden nhw'n "cywir"...yn eu barn nhw!

R'on i wedi meddwl postio am hyn hefyd - be yn union oedd y dewis amgen i'r rhyfel yn Irac ? Oes yna rhywun yma sy'n gwir ddeall y rhesymau go iawn pam ddigwyddodd y rhyfel ? Beth petae heb ddigwydd - lle fysa ni yn y dwyrain canol erbyn hyn, ag yn economaidd adref ?

Mae'r chwith fel petaent heb gysidro'r uchod o gwbl, fel petaent yn credu y bysa bywyd wedi cario 'mlaen fel y bo yn y gorllewin heb y rhyfel...

Re:

PostioPostiwyd: Sul 05 Hyd 2008 6:01 pm
gan SerenSiwenna
Macsen a ddywedodd:Oi na, huw, yr arch-malu cachwr a'r arch-rantiwr o fri, yn cael rant yn cwyno am bobl eraill yn cael rant.

Tynna dy ben allan o dy din, met. Mae modd newid dy farn heb ddechrau edefyn hunanbwysig am y peth.


:lol: :lol: , hee hee, 'arch-malu cachwr a'r arch-rantiwr o fri', dwi'm yn rhan o'r ddadl yma ond wnes i chwerthin gymaint o weld y ffordd o ti di eirio hwn roedd rhaid i fi butio mewn i dy londgyfarch.... 8)