Gwenci Ddrwg a ddywedodd:Cytuno - ond ddim efo'r ffigwr $9 yr awr.
Ti'n cael llai na hynny fel athro newydd yn rhai prifysgolion fan hyn. Gofyn am fwy na 9$, ocê ond dim ond os oes 'na inflation...yn bersonol dwi heb ennill mwy na $9 yn fy mywyd.
Tawaeth, mi ddylia'r tal fod yn ddigon i dalu am fwyd, dillad, lle i fyw ag egni. Mae'n rhaid for Toronto eitha rhad i'w gymharu a Phrydain..
Be mae hyn yn ddangos ydy fod llywodraethau o bob lliw yn gallu creu gwaith neu ei ddinistrio - mae'n dibynnu ar y sefyllfa sydd ar yr amser, a sut maent yn ei newid. Pethau i'w newid i siwtio sefyllfa ydy polisiau, nid rheolau pendant, parhaol.
Gytuno yn gyffredinol. Wadais i ddim be neith Thatcher, o'n i jest eisiau dangos na fydd y
chwith yn hollol dieuog chwaith.
Dwi'n meddwl mai'r gwahaniaeth pennaf rhygddynt yw mai ar y cyfan, pobl clen sydd ar y chwith - eisiau'r gorau neu tecaf i bawb - a phobl milain, hunanol sydd ar y dde.
Os ti'n berchen cwmni llwyddiannus sydd wedi cipio rhan helaeth y rhaniad marchnad yn Canada ond yn dibynnu ar weithlu sy'n ennill $10 yr awr, gwell i ti weld y llywodraeth yn cadw pobl y ghetto yno yn hytrach na'u gwthio i fewn i freichiau cystadleuwr
Dyna pam mae rhaid i'r lywodraeth rhoi grantiau i gystadleuwr newydd. Dwi'm eisiau i'r gwmniau cyfredol ei neud o. Ac eniwe efo mwy o gystadleuaeth o'r sector preifat, mae 'na cynhyrchion a chyflogau gwell a dan ni'n cael manteision cyfalafiaeth. A rwan dan ni'n dol yn ôl i be ro'n i'n awgrymu...
Gwneud y pwynt oeddwn fod cwmniau yn gweld mantais mawr mewn cadw rhan o'r gweithlu allan o waith, er mwyn cadw cryfder ar eu ochr nhw yn y farchnad llafur. Ti'n iawn wrth gwrs mi ddylia llywodraeth orfodi cystadleuaeth lle gall, gan gynnwys defnyddio grantiau neu drwy dorri cwmniau yn ddarnau llai fel yn achos Standard Oil.
Yn syml, t'ydy $2 yr awr "ddim digon da"
Sut bynnag, yn syml, mae $9 yn digon da. Ers pam mae nhw di talu $2/awr yn y gorllewin? Nid yn Nghanada yn amlwg. Dan ni di bod yn siarad am y sefyllfa yma, yng Nghanada ac ym Mhrydain (o leia', os dwi'm di methu rhywbeth pwysig iawn).
Mae llawer o'r de eithafol (yn enwedig 'libertarians' - mwncwn bob un) yn dadlau yn wastad y gwneith y farchnad edrych ar ein hol. Y gwir yw na wneith - os ydy'r llywodraeth yn methu creu digon o gystadleuaeth, mae cwmniau yn datblygu ffyrdd o ymddwyn fel cartel yn y farchnad llafur, ag yn gweithredu fel un i gadw cyflogau i lawr, a thelerau gwaith yn wael. Busnes llywodraeth yw rheoli hyn, a gwneud yn siwr fod cyflogau 'digon da' a fod y perchennogion barus yn helpu i ddatblygu ein bywydau heb dagu'r economi.
Mae bob llywodraeth yn meddwl yn bennaf am yr etholiad nesaf, ag yn gweithredu i ddelio efo'r sefyllfa sydd ohoni mwy nag allan o ddogma, fel arfer. Mae hyn yn wir o'r dde a chwith.
Dwi'n cytuno wrth gwrs, ond yn ôl be dwi di gweld yn ystod fy mhrofiad pan mae llywodraethau o'r chwith yn llwyddo i neud pethau ar y term hir (ydy hwn yn cywir? long term?) maen nhw'n tipyn llai effeithiol, neu o fwyaf mor effeithiol na'r dde. Ddioddefais i dan Mr. Rae.
[/quote]
Mae'n ddrwg gen i dwi ddim yn gwybod digon i siarad am Mr Rae ond dwi'n gaddo ei wikipedio fo fory (mae gen i barti heno
Pethau cymunedol ydy cyrrhaeddiadau mwyaf Prydain yn fy marn i - y Gwasanaeth Iechyd, y sustem addysg, y gwasanaeth tan, yr heddlu, y rheilffyrdd (a fu). Mae pobl adref yn cwyno amdanynt wrth gwrs ond mae llawer iawn o bobl y byd yn sbio i fyny ar Brydain achos y pethau yma - a creda fi ti'n gweld gwahaniaeth mawr mewn gwledydd sydd heb rhain !
Yn India (lle mae llawr mwy o bobl na gwaith) mae cyflog o $1 y dydd yn gwbl arferol.
Dyna rheswm arall pam mae rhaid i ti greu gwaith newydd yn rhyw ffordd...fel ddywedais i.[/quote]
Mae'na 1,000,000,000 o bobl yn India yn barod. Os wnei di greu gwaith, mi blantan nhw fwy eto, wedyn mi fydd raid i ti ffendio gwaith i 2,000,000,000 o bobl....ayyb ayyb ayyb
be sy'n digwydd pan mae'r byd yn llawn ?
Felly dim ond y rhai na all ffendio gwaith sydd ar y cymorth cyhoeddus ?
A phobl sy'n cefnogi pobl arall neu plant, hyd yn oed os oes gynnon nhw waith. Ond yn amlwg mae rhyw fath o waith hefyd yn helpu, yn ogystal â chymorth cyhoeddus (neu wrth gwrs, yn LE cymorth cyhoeddus)! Eto, dwi'n methu deall pam ti'n deud bod angen i bobl gael gwaith, ond hefyd na fydd gwaith yn digon da.[/quote]
Achos mae dyletswydd ar gymdeithas i wneud yn siwr fod gwaith ar gael i bawb - d'oes dim hawl gan bobl fynnu fod eu hawliau eiddo yn cael eu parchu os nad ydynt yn fodlon gwneud lle yn yr economi i'r rhai sydd heb eiddo (dim ond drwy gwaith y 'tlodion' all y bobl sy'n byw ar eu heiddo wneud hynny....dim pwrpas bod yn gyfoethog mewn gwlad o gyfoethogion, llwyth o bres yn banc ond methu ffendio neb i lnau dy gar neu gwcio dy ginio) - a mae dyletswydd arnynt i wneud yn siwr fod y gwaith yn talu digon (isafswm) i gyflenwi bwyd, dillad, lle i fyw ag egni.