Tudalen 1 o 3

Maes-e Cymru

PostioPostiwyd: Mer 05 Ebr 2006 3:59 pm
gan huwwaters
Reit, anodd iawn diffini ble i roi y neges ma, ond hoffwn wybod pam fod cymaint o gwmnioedd a chyrff cyhoeddys mor awyddus i roi 'Cymru' ar diwedd ei henw. Enghraifft yw "Childline Cymru".

Ydyn nhw'n trio ymddangos fel corff/cwmni Cymraeg?

PostioPostiwyd: Mer 05 Ebr 2006 6:43 pm
gan Dili Minllyn
Mae'n arbennig o boblogaidd ymhlith elusennau, ac maen'n debyg mai dyma'r ffordd ffasiynol i ddatgan Cymreictod yn y sector.

PostioPostiwyd: Mer 05 Ebr 2006 7:27 pm
gan tafod_bach
dydiom rywbeth i wneud efo cyllid/grantiau etc? jest meddwl...

PostioPostiwyd: Mer 05 Ebr 2006 9:36 pm
gan Dili Minllyn
tafod_bach a ddywedodd:dydiom rywbeth i wneud efo cyllid/grantiau etc? jest meddwl...

Yn sicr, mae yna syniad 'fod e'n creu argraff dda wrth fynd at gyrff fel y Cynulliad.

PostioPostiwyd: Mer 05 Ebr 2006 10:30 pm
gan Ray Diota
Dili Minllyn a ddywedodd:
tafod_bach a ddywedodd:dydiom rywbeth i wneud efo cyllid/grantiau etc? jest meddwl...

Yn sicr, mae yna syniad 'fod e'n creu argraff dda wrth fynd at gyrff fel y Cynulliad.


na, chi'n siarad bolocks. sori, wy newydd ddod o'r pub

gwir yw ma fe'n get out o gyfieithu enw'r mudiad... ma 'brand' mor bwysig i bobl dyddie ma, y peth dwetha ma nhw moyn neud yw cyfieithu 'childline' ne be bynnag...

so ma nhw'n stico 'cymru' ar ol yr enw a ma nhw'n cal cadw'r brand on ymddangos yn gymreig - result.

ma raid i fi weud bo fe'n piso fi off bo nhw di galw 'mastermind' yn 'mastermind cymru' ar s4c...

PostioPostiwyd: Mer 05 Ebr 2006 10:36 pm
gan gronw
falle bod y busnes grantiau yn wir am ambell un diweddar, ond am y rhan fwyaf ohonyn nhw, na. ymdrech i ddatganoli ydy rhoi sefydlu adran 'cymru' mudiad, ac mae'n beth da iawn. mae lot o fudiadau wedi gneud hyn ers blynyddoedd lawer e.e. CND Cymru, sy'n gwneud eu cylchlythyr (dwyieithog) eu hunain i bobl Cymru.

mae rhoi 'cymru' ar ddiwedd enw'r elusen yn ei gwahaniaethu oddi wrth yr elusen yn lloegr. ai'r gair cymru ydy'r broblem, neu'r ffaith bod elusennau'n datganoli o gwbl? fyddai'n well gennoch chi gael yr un stwff (uniaith saesneg)

PostioPostiwyd: Mer 05 Ebr 2006 10:41 pm
gan gronw
Ray Diota a ddywedodd:ma 'brand' mor bwysig i bobl dyddie ma, y peth dwetha ma nhw moyn neud yw cyfieithu 'childline' ne be bynnag...

ooo, reit. pam 'englishname cymru' yn hytrach na 'enw cymraeg', na beth odd y cwestiwn. hm, ie, un anodd.

pobl fel crimestoppers sy'n od. mae ganddyn nhw 'taclo'r tacle' fel enw cymraeg sy'n adnabyddus ers blynyddoedd (diolch i'r hysbysebion cŵl na oedd n arfer bod ar teledu), ond yn ddiweddar mae na fwy o s

PostioPostiwyd: Mer 05 Ebr 2006 11:37 pm
gan Hen Rech Flin
Y drwg efo rhoi enw unigryw Cymraeg fel Llinellblant ar elusen yw'r posibilrwydd bod pobl ddim yn cysylltu'r enw Cymraeg gyda'r enw uchel ei barch - wedi ennill ei blwy - Saesneg.

Rwyt yn gweld Esther Rantzen yn ei dagrau ar y teli, adroddiadau yn y wasg trannoeth, yn pledio achos plantos mewn cyfyngder ac yr wyt yn teimlo i'r byw'r angen i ddanfon puntan i'r achos, yn arbennig os ydy'r gwasanaeth ar gael yn lleol. Y cwestiwn yw a fyddi di yn cysylltu dagrau ac ap

PostioPostiwyd: Mer 05 Ebr 2006 11:40 pm
gan Ray Diota
Hen Rech Flin a ddywedodd:Y drwg efo rhoi enw unigryw Cymraeg fel Llinellblant ar elusen yw'r posibilrwydd bod pobl ddim yn cysylltu'r enw Cymraeg gyda'r enw uchel ei barch - wedi ennill ei blwy - Saesneg.

Rwyt yn gweld Esther Rantzen yn ei dagrau ar y teli, adroddiadau yn y wasg trannoeth, yn pledio achos plantos mewn cyfyngder ac yr wyt yn teimlo i'r byw'r angen i ddanfon puntan i'r achos, yn arbennig os ydy'r gwasanaeth ar gael yn lleol. Y cwestiwn yw a fyddi di yn cysylltu dagrau ac ap

PostioPostiwyd: Iau 06 Ebr 2006 1:19 am
gan Hen Rech Flin
Ray Diota a ddywedodd:
ffacinel, old fart, ma na echo mewn fan hyn!


Dim o gwbl, yr hen ddiotwr, mae angen ail ddatgan ambell i sylw er mwyn i'r rhai sydd yn fyr o'n braint ei ddeall :winc:

Ray Diota a ddywedodd:ma raid i fi weud bo fe'n piso fi off bo nhw di galw 'mastermind' yn 'mastermind cymru' ar s4c...


Pe bai S4C yn creu rhaglen o'r enw Y Brif Feddyliwr, oni fydda sylwadau yn dod i'r Maes yn cwyno mae copi o Mastermind yw'r rhaglen? Onid well gonestrwydd Mastermind Cymru?

Dim cystal