Tudalen 1 o 2

Dim pleidiau - dim problem

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 12:14 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Ers i fi droi'n 18 a penderfynu nad oes na lawer o wahaniaeth i wneud rhwng un plaid wleidyddol na'r llall (dadl arall ydy honno) dwi di bod yn meddwl ac wedi hen benderfynu fasa gwlad heb bleidau yn llawer gwell am amryw o resymau. Fel, fasa pobl yn pledleisio am y petha ma nhw isho yn eu hardaloedd nhw go iawn, ac yn cael llais dros eu hardaloedd nhw'u hunain yn lle bod pleidiau yn penderfynu yn rwla lle mae cychwyn a diwedd popeth. . .

trafodwch. . . . .

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 12:18 pm
gan Ramirez
felly pwy fasa'n llywodraethu?

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 12:25 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
wel, sa ti'n cael fel arlywydd a wedyn sa pobl jysd yn cael at ei gilydd ac yn siarad am y petha sy'n poeni pobl yn eu hardaloedd nhw ac yn sortio problema'r wlad fel ny, o dan arweiniad yr fatha cadeirydd/arlywydd/ysgrifennydd math o foi. wnim :?

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 12:29 pm
gan Ramirez
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:wel, sa ti'n cael fel arlywydd a wedyn sa pobl jysd yn cael at ei gilydd ac yn siarad am y petha sy'n poeni pobl yn eu hardaloedd nhw ac yn sortio problema'r wlad fel ny, o dan arweiniad yr fatha cadeirydd/arlywydd/ysgrifennydd math o foi. wnim :?


A sut fasa'r arlywydd yn cael ei ethol? A be os ydi pobol ddim yn hapus efo'r arlywydd? Ydyn nhw'n cael ethol arlywydd arall, efo syniadau gwahanol? Sut mae'n nhw'n dewis pwy di'r arlywydd nesaf? Os ydi pobl yn cael dewis pwy fydd yr arlywydd, onid ydi hynny r'un a cael pleidiau yn y lle cynta?!

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 12:32 pm
gan Chwadan
Ramirez a ddywedodd:
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:wel, sa ti'n cael fel arlywydd a wedyn sa pobl jysd yn cael at ei gilydd ac yn siarad am y petha sy'n poeni pobl yn eu hardaloedd nhw ac yn sortio problema'r wlad fel ny, o dan arweiniad yr fatha cadeirydd/arlywydd/ysgrifennydd math o foi. wnim :?


A sut fasa'r arlywydd yn cael ei ethol? A be os ydi pobol ddim yn hapus efo'r arlywydd? Ydyn nhw'n cael ethol arlywydd arall, efo syniadau gwahanol? Sut mae'n nhw'n dewis pwy di'r arlywydd nesaf? Os ydi pobl yn cael dewis pwy fydd yr arlywydd, onid ydi hynny r'un a cael pleidiau yn y lle cynta?!

Ia, ma'n ddigon hawdd gofyn cwestiyna fel'na dydi :winc: Ond ma gan DGIG bwynt - ma lleisia lleol yn cael eu colli pan ma'n rhaid i bawn ddilyn y chwip.

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 12:37 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Ramirez a ddywedodd:A sut fasa'r arlywydd yn cael ei ethol? A be os ydi pobol ddim yn hapus efo'r arlywydd? Ydyn nhw'n cael ethol arlywydd arall, efo syniadau gwahanol? Sut mae'n nhw'n dewis pwy di'r arlywydd nesaf? Os ydi pobl yn cael dewis pwy fydd yr arlywydd, onid ydi hynny r'un a cael pleidiau yn y lle cynta?!
wel, y bobl sy'n ethol yr arweinydd eu hunain, ac ella sa nhw'n gallu ethol y prif arweinydd ac fel is-arweinydd?! brainstorming ar y funud. . . [angen gwenoglun brainstormio!]

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 12:39 pm
gan Ramirez
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:wel, y bobl sy'n ethol yr arweinydd eu hunain, ac ella sa nhw'n gallu ethol y prif arweinydd ac fel is-arweinydd?! brainstorming ar y funud. . . [angen gwenoglun brainstormio!]


Ond er mwyn ethol arweinydd, mi fasa'n raid i ti gael gwrthwynebwyr - h.y., mwy nag un 'candidate'. neu fasa ti ddim yn gallu ei ethol. A mi fysa mwy na un 'candidate' efo eu cefnogwyr eu hunain... a dyna ti, sylfaen plaid wleidyddol!

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 12:47 pm
gan 7ennyn
Does yna ddim byd i atal ymgeiswyr annibynnol rhag sefyll mewn etholiadau, ond mae gan y pleidiau mawrion fwy o adnoddau ar gyfer ymgyrchu. Onibai bod pleidiau gwleidyddol yn cael eu gwahardd gan y gyfraith, bydd pleidiau yn sicr o esblygu yn naturiol o dan unrhyw drefn ddemocrataidd - i'r pant y rhed y dwr.

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 12:58 pm
gan dave drych
Wrach fyse genti'm pleidiau official fel PC, LLafur ac ati. Ond mae'n 'human naure' i fobl dod at eu gilydd os ydynt yn cytuno, neu dal dig efo rywun oherwydd gwahanieth barn, felly fydd aliances, grwpiau, ac yn y pen draw pleidiau yn ffurfio. Mae'n amhosib rhwystro'r peth.

Sa bod ti'n byw odan dictatorship 'de.

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 1:13 pm
gan Huw Psych
Adar o'r un lliw ehedant i'r un lle! :winc: Mi fydda pobl efo'r 'run daliadau yn dod at eu gilydd, ond gan na fyddai pleidiau swyddogol, fe fyddai'r cyhoedd yn pledleisio dros yr unigolyn sydd am neud ora drosty nhw. Dyddia yma y mae'r pleidia wedi mynd i sefyll dros bethau tebyg, felly i bob pwrpas mae Llafur=Ceidwadwyr, byddai sustem o'r fath yn golygu fod yr unigolyn yn bwysicach na'r blaid felly byddai'n haws gwahanu pawb.

Efallai nad dim pleidiau sydd ei angen, ond sustem pleidiau bach sydd ei angen, gyda clym-bleidiau yn cael eu ffurfio. Sut mae gwledydd eraill yn llwyddo i wneud hyn?