Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 2:35 pm
gan Chwadan
Huw Psych a ddywedodd:Efallai nad dim pleidiau sydd ei angen, ond sustem pleidiau bach sydd ei angen, gyda clym-bleidiau yn cael eu ffurfio. Sut mae gwledydd eraill yn llwyddo i wneud hyn?

Drwy beidio bod a system first-past-the-post sy'n chwyddo mwyafrifoedd.

PostioPostiwyd: Sad 22 Ebr 2006 2:45 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Sain arbennigwr ar y pwnc, ond ma hwn yn sw'no i fi fel un cam ar y ffordd i sustem Anarchiadd.
Wele hwn - http://en.wikipedia.org/wiki/Anarchism

Fel wetws Dave Drych, natur dynol yw ymuno gyda pobol sydd yn dala'r rhun rhinweddau a barnau a chi'. O hwna ma bleidiau gwleidyddiol wedi datblygu, a bydde ni yn y byd gorllewin byth fel cymdeithas yn droi nol o hwn, yn fy mharn bach i.

PostioPostiwyd: Sul 23 Ebr 2006 2:06 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
hmmmm, ella (i rai) fod hwn di swnio'n gwestiwn gwirion ond ma clwad barn eraill di neud fi feddwl lot mwy am y peth. Dwi'n cytuno ei bod hi'n anhebygol iawn neith ddim byd fel gwaharddiad ar bleidiau gwleidyddol byth ddigwydd yma (ddim yn fy oes i p'r un bynnag) ond dwi o'r farn fasai'n llawer gwell i'r wlad os na fasai na bleidiau.

PostioPostiwyd: Sul 23 Ebr 2006 2:45 pm
gan Hedd Gwynfor
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:dwi o'r farn fasai'n llawer gwell i'r wlad os na fasai na bleidiau.


Tra'n bod ni'n cael ein rheoli gan Loegr, dyw hi ddim yn gwneud lot o wahaniaeth.

Does dim ots pwy yw'r Aelodau Seneddol sy'n cael eu hethol yng Nghyrmu, byddai'n gwneud dim gwahaniaeth pe byddai'r 40 yn annibynol, fyddwn ni dal yn cael ein rheoli o Lundain, gan unigolion wedi eu hethol gan bobl Lloegr.

Sicrhau annibyniaeth yw'r cam cyntaf, ac WEDYN gallwn ni boeni am system ethol, pleidiau ayb.

Rhywyn am ddechre chwyldro? :winc:

PostioPostiwyd: Maw 25 Ebr 2006 11:51 am
gan Mici
Yn yr oes fodern o wleidyddiaeth a materion lleol yn poeni'r poblogaeth mwy a mwy a gan ein bod yn byw mewn amser lle bo delwedd yn hollbwysig, mae ymgeisywr annibynnol yn siwr o gynyddu.

Daeth Veritas(Cofio rheini :rolio: ) allan o UKIP a ddaeth UKIP allan o'r Ceidwadwyr. Hefyd mi aeth Martin Bell i fewn efo mwyafrif enfawr a rhyw ddoctor o sir Gaerloyw a oedd yn ymgyrchu dros un achos sef arbed yr ysbyty lleol.

Be di'r siawns fydd yna ymgeisydd o rhyw sioe deledu yn cipio set y tro nesaf :syniad:

PostioPostiwyd: Maw 25 Ebr 2006 12:05 pm
gan Rhys
Dwi ddim yn gwylio Pop Idol na Bawffactor na dim byd felly, ond mae pobl yn Toronto sydd wedi cael llond bol o'u cynrhychiolwyr etholideig i gyd yn ddynion gwyn canol oed, tra mae ploblogaeth y ddinas yn un ifanc ac aml-hil wedi dyfeisio City Idol

Mae'r enw'n annfodus, ond o edrych yn ddyfnach mae'n synaid da i geisio cael pobl gwahanol i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth lleol.

Ar un llaw, mae dal angen pobl roi areithiau, ond byddai rhaid iddyt ddweud beth maen't wir yn ei gredu, heb orfod poeni am y party line.

Fyddai rhywbeth fel hyn y gweithio ar lefel Cynulliad / Awdurdod Lleol yn eich ardal chi, neu jyst gimmick ydi o, sydd ddim rili'n mynd at wraidd sustem diflas anorfod gwleidyddiaeth?

PostioPostiwyd: Maw 25 Ebr 2006 12:51 pm
gan Garnet Bowen
Rhys a ddywedodd:Dwi ddim yn gwylio Pop Idol na Bawffactor na dim byd felly, ond mae pobl yn Toronto sydd wedi cael llond bol o'u cynrhychiolwyr etholideig i gyd yn ddynion gwyn canol oed, tra mae ploblogaeth y ddinas yn un ifanc ac aml-hil wedi dyfeisio City Idol


Mi nath ITV rhywbeth tebyg llynedd, ond ar lefel Brydeinig. Y syniad oedd y byddai enillydd y rhaglen yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol dwytha, ar ran "Y Bobol". A pwy enillodd? Dyn busnes canol oed, oedd ishio rhoi stop ar fewnfudo i Brydain, ac a oedd ishio dod a'r gosb eithaf yn ol.

Oes 'na wers i ni yn fama, dwch?

PostioPostiwyd: Maw 25 Ebr 2006 2:01 pm
gan Owain Llwyd
Garnet Bowen a ddywedodd:Oes 'na wers i ni yn fama, dwch?


Ella rhywbeth am dueddiadau gwleidyddol rhai o'r bobl sy'n dewis gwylio Kelvin MacKenzie ar ITV am 11.00 y nos?

PostioPostiwyd: Maw 25 Ebr 2006 6:41 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Rhys a ddywedodd:Mae'r enw'n annfodus, ond o edrych yn ddyfnach mae'n synaid da i geisio cael pobl gwahanol i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth lleol.

Ar un llaw, mae dal angen pobl roi areithiau, ond byddai rhaid iddyt ddweud beth maen't wir yn ei gredu, heb orfod poeni am y party line.
ma hyn yn bygio fi de, pan ma rhywun yn dod allan yn deud bo nhw'n credu wbath a bo nhw'n cael eu diarddel/cosbi am fod yn groes i ddaliada plaid/mudiad.

o'n i'n meddwl fod yr holl fusnes gwleidyddiaeth ma ynghyn a chael barn a sefyll dros betha. di pleidia (o be dwi'n weld) mond yn sdopio hynny?!