Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Roeddwn yn siarad
Mr Gasyth a ddywedodd:Mae hyn felly golygu fod y gwleidydd yn ymddwyn tuag at ei wraig mewn ffordd sy'n anffyddlon, tywyllodrus, celwyddog a chreulon. Faset ti'n pleidleisio dros person o'r fath?
Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'n sicr dy fod ti - a hynny'n hollol ddiarwybod. Onid pechod Prescott felly oedd cael ei ddal?
Mr Gasyth a ddywedodd:Mae'r mater o fywydau personol gwleidyddion Cymreig yn un diddorol. Pes mae yna sgandals lu sy'n wybodaeth gyffredin yn aml iawn ymysg pobl sydd a'r cyswllt lleiaf gyda'r broses wleidyddol. Ond pam felly nad yw hanesion y rhain yn britho'r wasg?
Cath Ddu a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:Mae'r mater o fywydau personol gwleidyddion Cymreig yn un diddorol. Pes mae yna sgandals lu sy'n wybodaeth gyffredin yn aml iawn ymysg pobl sydd a'r cyswllt lleiaf gyda'r broses wleidyddol. Ond pam felly nad yw hanesion y rhain yn britho'r wasg?
Gan nad yw'r wasg yn gweld gwleidyddion yn ddifyr gan amlaf. Go brin y byddai'r Sun yn gwerthu rhyw lawer gyda phenawd am "Obscure Welsh AM has affair with obscure lobbyist in Cardiff". Mae byd gwleidyddol Cymru mor fychan nes fod datgelu y math hwn o ymddygiad yn hynod anhebygol o fewn y wasg Gymreig. Pawb yn nabod ei gilydd, neb am bechu'n ormodol ayb
ON - dwi wedi gwneud y pennawd i fyny!
Cath Ddu a ddywedodd:Yn olaf, tydi hyn ddim hyd yn oed yn wir bellach. Mae bywyd personnol gweinidog Materion Cartref Ffrainc (dwi di anghofio ei enw) yn britho'r papurau newydd; mae mwy nac un cyn fistres i Chirac wedi siarad yn gyhoeddus yn ddiweddar ac mae hyd yn oed bywyd personnol y mochyn Le Pen wedi cael sylw.
Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai