Bywyd Preifat i wleidyddion

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bywyd Preifat i wleidyddion

Postiogan Dr Gwion Larsen » Gwe 28 Ebr 2006 6:38 pm

Ydych chi yn credu y dylai aelodau seneddol/cynulliad gael hawl i fywyd preifat? Un ochr i'r ddadl ydi nad ydy eu bywyd preifat yn effeithio ar y gwasanaeth wleidyddol mae nhw yn ei roi i chi, ond ar y llaw arall rydych yn ethol rhywyn i'ch cynrychioli fel person ar wahanol ddeddfau ac felly siawns dylech gael gwybod sut berson ydyw?
Trafodwch
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 28 Ebr 2006 6:55 pm

Ar y cyfan, dwi'n credu bod gan bawb yr hawl i fywyd preifat ar yr amod nad yw'n niweidio neb arall nac yn torri'r gyfraith. Ar y llaw arall, dwi'n ddigon hen ffasiwn i gredu nad oes modd cadw llawer o ffydd mewn dyn neu ddynes mewn bywyd cyhoeddus nad yw'n ffyddlon i'w wraig neu'i gŵr.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan ceribethlem » Gwe 28 Ebr 2006 8:49 pm

Fi'n cymryd bod y stori am John Prescott wedi ysgogi'r edefyn yma. Y broblem gyda gweud mae eu bywyd nhw yw eu bywyd preifat yw fod John Prescott wedi gwneud mor a mynydd mas o bob affair gan aelodau'r llywodraeth toriaid ar y pryd. Felly mae e'n haeddu popeth mae'n ei gael.
Boris Johnson ar y llaw arall, mae e'n joio shelffo, heb farnu shelffwyr.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cymro13 » Maw 09 Mai 2006 10:43 am

Yn bendant mae gan Wleidyddion hawl i fywyd preifat cyn belled nad yw'n effeithio ar eu gwaith

Run peth ag unrhyw Celebs
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Mr Gasyth » Maw 09 Mai 2006 11:54 am

Cymro13 a ddywedodd:Yn bendant mae gan Wleidyddion hawl i fywyd preifat cyn belled nad yw'n effeithio ar eu gwaith

Run peth ag unrhyw Celebs


Ie, ond fel dudodd Dili Minllyn mewn edefyn arall, pam ddylwn i drystio dyn sydd ddim hyd yn oed yn gallu bod yn driw i'w wraig?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan huwcyn1982 » Maw 09 Mai 2006 11:58 am

mae nhw'n gweithio i'r cyhoedd mewn fforwm cyhoeddus. mae sicr angen scriwtineiddio'u hymddygiad nhw. os mae nhw am wneud pethau "ff
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Maw 09 Mai 2006 12:07 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Cymro13 a ddywedodd:Yn bendant mae gan Wleidyddion hawl i fywyd preifat cyn belled nad yw'n effeithio ar eu gwaith

Run peth ag unrhyw Celebs


Ie, ond fel dudodd Dili Minllyn mewn edefyn arall, pam ddylwn i drystio dyn sydd ddim hyd yn oed yn gallu bod yn driw i'w wraig?


Ateb braidd yn hunangyfiawn dwi'n meddwl, Dili a Gasyth. Weithiau mae 'na bwysau ofnadwy ar briodas a pherthynas sy'n arwain pobl i fynd at rywun arall. Efallai nad yw'r berthynas rhwng gwr a gwraig yn bodoli fel perthynas gariadus mewn gwirionedd, dim ond er mwyn rhoi rhyw lun ar barchusrwydd a bodlonrwydd ffals yn y cyfryngau. Pwy ydan ni i farnu?
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Chwadan » Maw 09 Mai 2006 12:12 pm

Dwi'n meddwl ei bod hi'n anodd i ni benderfynu os ydi gwleidydd yn cam-ddefnyddio'i freintiau heb gal gwybod am ei fistimanars. Dwi'n meddwl bod gan wleidyddion hawl i fywyd preifat ond yn achos John Prescott, er enghraifft, dwi'n meddwl fod ei breifatrwydd o'n llai pwysig na chael gwybod os ydi o wedi bod yn gwastraffu arian cyhoeddus.

Ond ma'n uffernol o anodd tynnu llinell rhwng bywyd cyhoeddus a bywyd preifat heb wybod y stori i gyd :? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Maw 09 Mai 2006 12:29 pm

Chwadan a ddywedodd:Ond ma'n uffernol o anodd tynnu llinell rhwng bywyd cyhoeddus a bywyd preifat heb wybod y stori i gyd :? :rolio:


Mae hynny'n wir, ac wrth ystyried gwario arian cyhoeddus ar fuddiannau personol, yna mae gan y cyhoedd hawl i wybod (ac i farnu).

Roeddwn yn siarad
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Mr Gasyth » Maw 09 Mai 2006 1:08 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
Cymro13 a ddywedodd:Yn bendant mae gan Wleidyddion hawl i fywyd preifat cyn belled nad yw'n effeithio ar eu gwaith

Run peth ag unrhyw Celebs


Ie, ond fel dudodd Dili Minllyn mewn edefyn arall, pam ddylwn i drystio dyn sydd ddim hyd yn oed yn gallu bod yn driw i'w wraig?


Ateb braidd yn hunangyfiawn dwi'n meddwl, Dili a Gasyth. Weithiau mae 'na bwysau ofnadwy ar briodas a pherthynas sy'n arwain pobl i fynd at rywun arall. Efallai nad yw'r berthynas rhwng gwr a gwraig yn bodoli fel perthynas gariadus mewn gwirionedd, dim ond er mwyn rhoi rhyw lun ar barchusrwydd a bodlonrwydd ffals yn y cyfryngau. Pwy ydan ni i farnu?


Os oes gan gwleidydd a'i wriag/wr gytundeb nad priodas ecsliwsif mohoni mae hynny'n after gwahanol a mater preifat ydy sut mae pobl yn trefnu eu perthynas.

Ond yn achos Prescott a sawl un arall, mae'r gweithgareddau all-briodasol wedi cymeryd lle yn ddiarwybod i'r wraig. Mae hyn felly golygu fod y gwleidydd yn ymddwyn tuag at ei wraig mewn ffordd sy'n anffyddlon, tywyllodrus, celwyddog a chreulon. Faset ti'n pleidleisio dros person o'r fath?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron