Tudalen 1 o 1

Y Mewnlifiad Cymraeg - cynllun Emrys ap Iwan 1895

PostioPostiwyd: Llun 22 Mai 2006 5:27 pm
gan Llwyd y Mynydd
Y Mewnlifiad o chwith - a ddylid rhoi ar waith gynllun Emrys ap Iwan (1895)?

Yn ôl Emrys ap Iwan (yn ei orgraff arbrofiadaol): “Yn wir, fel y mae Cymry Llanddwyn wedi ail-feddiannu Llansanffraid-ym-Mechain a throi yr hen gappel Seisnig yn gappel Cymreig, felly y dyle Cymry pob mann, trwy gynnorthwyo'u gilydd i brynnu tai a thirodd, ne trwy ryw foddion eryll, geisio ail-feddiannu yr holl oror hyd at yr Hafren a Weaver, fel ag i wneyd Cymru Fydd yn gyfartal eu maint â Chymru Fu,” (mae ei erthygl, a gyhoeddwyd yn y Geninen yn y flwyddyn 1895, i’w gweld yma:

http://www.theuniversityofjoandeserrall ... _1001k.htm

Ydy hyn yn syniad sydd yn ymarferol ganrif wedyn? Sut dylai fod cynllun i feddiannu tiroedd y Sais? A ddylid cychwyn â Swydd Amwythig (poblogaeth 283,173 blwyddyn 2001; cymharer Gwynedd 116,843), ac wedyn ymledu i’r gogledd i Swydd Gaer, ac i’r De i Swÿdd Henffordd a swÿdd Gaerloyw?

PostioPostiwyd: Llun 22 Mai 2006 7:05 pm
gan Dili Minllyn
Mynnodd e hefyd y dylid Cymreigio enwau trefi Lloegr yr mor ddigywilydd ag y Seisnigwyd enwau rhai o drefi Cymru. Felly, Yr Uncorn fyddai Runcorn. Gwych. 8)

PostioPostiwyd: Llun 22 Mai 2006 11:34 pm
gan ffwrchamotobeics
Wel am ionc

PostioPostiwyd: Maw 23 Mai 2006 10:49 am
gan SerenSiwenna
Dili Minllyn a ddywedodd:Mynnodd e hefyd y dylid Cymreigio enwau trefi Lloegr yr mor ddigywilydd ag y Seisnigwyd enwau rhai o drefi Cymru. Felly, Yr Uncorn fyddai Runcorn. Gwych. 8)


:lol:

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 9:16 am
gan Iago2
Oes rhywun yn gwybod os oes bywgraffiad ar gael o Emrys ap Iwan? Sdim dowt - 'roedd e'n dipyn o foi yn ei ddydd ...boi ag asgwrn cefen 8)

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 9:41 am
gan sian
Iago2 a ddywedodd:Oes rhywun yn gwybod os oes bywgraffiad ar gael o Emrys ap Iwan? Sdim dowt - 'roedd e'n dipyn o foi yn ei ddydd ...boi ag asgwrn cefen 8)


Oes - gan Thomas Gwynn Jones - mae gyda ni yr Argraffiad Newydd - Gol. John L Williams,
Cyhoeddwyr: Hughes a'i Fab
ISBN 0 7154 0494 6
1978

Rwy'n credu bod hwn mas o brint - ond byddai'n werth cadw golwg mewn siopau ail law.

Un pwynt, mae'r cofiant yn dweud mai Ffrances oedd nain Emrys ap Iwan ond mae'n debyg mai camgymeriad oedd hynny. Wna i holi'n iawn am hynny eto.

Ac mae hwn ar gael: Emrys Ap Iwan - Tair Darlith Goffa Cymdeithas Emrys Ap Iwan, Abergele
Tair darlith yn trafod gwahanol agweddau ar fywyd, gwaith a syniadaeth a dylanwad Emrys ap Iwan.
Awdur: Dafydd Glyn Jones, Menai Williams, Gwilym Arthur Jones
ISBN: 0904449882
Ionawr 1991

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 10:33 am
gan sian
Wedi ffeindio fe - yn ôl cofiant T Gwynn Jones, roedd hen nain Emrys ap Iwan yn Ffrances ond mae Bedwyr Lewis Jones yn Taliesin, Nadolig 1987 yn tynnu sylw at nifer o ffeithiau "simsan a sigledig" yn y Cofiant - yn cynnwys dyddiad geni Emrys ap Iwan, y man lle cafodd ei eni a hanes ei hen nain.

(Hefin Wyn a Blewyttirhwng mewn cwmni da, felly!)

PostioPostiwyd: Iau 30 Tach 2006 1:35 am
gan Huw T
Mewn ffordd, mae hi bron yn fwy posibl gweld y cynllun yn gweithio heddi na chanrif yn ol. (ok, nid heddi yn union, ond yn yr oes sydd ohoni) - hynny yw, does dim prinder bwyd yng Nghymru heddiw fel yr oedd ganrif yn ol, felly byddai'n bosibl (neu oleiaf yn fwy posibl) cynnal teuluoedd o ddeg o blant. Petai pob teulu yn y fro Gymraeg yn cael deg o blant, a'i holl blant nhw yn cael deg o blant, yna pwy wyr beth all ddigwydd. Os gymrwn ni fod 20,000 o gyplau yng Ngwynedd o oedran lle y gallen nhw gael deg o blant

20,000 x 10 = 200,000

yna o fewn 30 mlynnedd (gan gymryd fod 1 babi yn cyrraedd y flwyddyn)

200,000 x 10 = 2,000,000

Felly dyna fyddin (peswch) o 2 filiwn yn barod i fynd a choloneiddio Sir Gaer!
Braf yw breuddwydio!! :lol:
Ma siarad fel hyn wastad yn yn hatgoffa i o hanesion Arnor a Gondor yn y Silmarillion ym myd Middle Earth :rolio:

PostioPostiwyd: Iau 30 Tach 2006 9:40 am
gan Mr Gasyth
Ogia bach - be am ail-feddiannu Cymru gynta cyn meddwl am edrych dros y ffin. Cerdded cyn cropian ta be!

PostioPostiwyd: Iau 30 Tach 2006 10:32 am
gan Dafydd Iwanynyglaw
Beth oedd y "dulliau eraill", tybed?

Huw T a ddywedodd:Ma siarad fel hyn wastad yn yn hatgoffa i o hanesion Arnor a Gondor yn y Silmarillion ym myd Middle Earth :rolio:


Mae siarad fel hyn yn f'atgoffa o bethau fel Seionistiaeth Herzl o'r un cyfnod - syniadau rhamantus sydd, yn y pendraw, angen trais a diffyg parch at eraill (bolycs fatha "A land without a people fro a people without a land" ac ati) i'w wireddu.

Mae o hefyd yn swnio fel "Mr Hilter he says Taunton is historically part of Minehead."

Dichon mai fersiwn Gymreig yw o syniadaeth cenedlaetholgar honedig-ryddfrydol a oedd, yn ei ffordd ei hun, yn fath o imperialiaeth bach lleol. Fersiwn ryddiaethol yw o "Cymru Uber All-" sori, "Cymru Fydd" John Morris Jones,

Y fath o syniadaeth sy'n meddwl fod y neshyn-stet yn ateb gwell nag ymerodraethau i'r problem gwrthdaro rhwng llwythi, heb lawn sylweddoli fod neshyn-stets efo'r un problemau o ddelio efo lleiafrifoedd a gwahaniaeth.