gan micpenderyn » Mer 05 Awst 2009 2:45 pm
Meddwl ail agor y postiad yma. Yr oedd gennyf diddordeb yn Senedh Kernow cyfnod yn ol.
Yn fy marn i, nid yn unig yw pwysigrwydd ar hunaniaeth, crefydd a ddiwylliant ond hefyd yr hyn a rhoddodd nerth at y Cymry i arwain at datganoliad fel y mai heddiw. Er i ni cydnabod ein hun yn gymry ar y fforwm yma, mae llawer yn f'ardal i (agos at Merthyr Tydfil) yn dwybenniog at eu unigrwydd. Maent ar ddwyrnod y gem yn Gymry yn eu uchelder ond, erbyn diwedd tymor y chwarae maent yn gwylio'r newyddion heb cwyno ein bod yn cael ein ystyried fel Saesneg (pan maent yn ein galw yn "England and Wales" trwy'r amser).
Na, mae'n rhaid dweud, o rhan y South Wales Valleys, mai cryfder datganoliad ar materion lleol a werthodd y Senedd. Ac er i'r cost ariannol mae hi wedi dod a llwyddiannau sy'n unigryw i'r lle. Nid yw'r saeson yn derbyn cymorth ariannol at radd nac felly at eu perscriptions. Mae ein system iechyd wedi dangos yn ddiweddar i angen penderfyniad cymraeg ar lleoliad ein ysbytau a'n ymroddiant yn ysgolion.
Yn y modd yma, teimlaf mae hyn yw'r pwysigrwydd sefydlu Senedh Kernow. Yn y sefyllfa economaidd gwael yma, mae'n rhaid i ni sefydlu dewisiadau economaidd eang ar gyfer pob carfan a phob cornel Prydain. Ac wedi i Gernyw derbyn Senedd ei hun, fe fydd pwyslais ar wellhau y sefyllfa i hwythau gyda'i economi sydd ar y foment wedi glynnu yn agos at twristiaeth.