Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Postiogan Cardi Bach » Mer 27 Mai 2009 11:57 am

celt86 a ddywedodd:
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:
Tisho helpu neu tisho sathru, sathru diwylliant ac iaith? Be sy mor o i le efo'r Gernyweg nes iti ymosod arni?


1) Dwi heb di sathru ar ddiwylliant a iaith yng Nghernyw. Mae'r Saeson a Globaleiddio wedi neud hyny.

2) Does yna NEB yn medru siarad Cernyweg!!!!! Dim ond brawddegau yma ac acw a cyfri fyny i ddeg! Mi roedd y person olaf i siariad yr iaith yn iawn wedi marw nol yn 1777!!! A does yna neb wedi ei siarad yn gyflawn ers hyny. Ta waeth i'r bobl 'Cernwyeg' dysgu'r Gymraeg.


Rhaid gweud mod i ddim wedi dod ar draws agwedd mor ffiaidd at genedl leiafrifol ers dipyn.
Pwy wyt ti i farnu pa genedl sy'n cael bodoli ai peidio?
Fel mae'n digwydd mae yna nifer o bobl yn siarad Cernyweg - fi'n gwbod achos mod i wedi bod yn eu plith, yn eu cyfarch mewn cynhadledd, ac yn gyfaill i'r Athro Dick Gendall o Brifysgol Exeter sydd wedi ysgrifennu y geiriadur Cernyweg/Saesneg.
Mae gan Gernyw ddiwyyliant cryf, sydd yn ffynni; mae ganddi hanes balch; a phobl cynnes a hynaws. Os wyt ti'n fy ame yna pam na wnei di fynychu rhai o gyfarfodydd y Gyngrhes Geltaidd - fe geu di agoriad llygad.

Hir oes i Gernyw, a hir oes i holl genhedloedd bach y byd sy'n cael eu gormesu yn uniongyrchol gan lywodraethau, ac yn an-uniongyrchol gan agweddau ymerodraethol pobl fel sydd wedi cael eu mynegu ar yr edefyn yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 27 Mai 2009 12:09 pm

Ew, geiriau call o'r diwedd!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Postiogan celt86 » Mer 27 Mai 2009 1:45 pm

:!:
Golygwyd diwethaf gan celt86 ar Sad 30 Mai 2009 10:55 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Postiogan Duw » Iau 28 Mai 2009 10:40 am

@ Pawb sy'n gwylltio

Senedd i Gernyw - beth yw canran pobl Cernyw sydd ei ishe? Wrth gwrs bod bob Cymro glân ishe gweld annibyniaeth iddynt a'r iaith yn ffynni, ond bois bach, mae ishe gwynebu realiti. Tan bod nhw eu hunain yn galw am y peth (mewn niferoedd uchel), malu cachu'n unig yw'r edefyn 'ma. So chill. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Postiogan Orcloth » Iau 28 Mai 2009 11:24 am

Clywch! Clywch! Swn i'm di medru'i ddeud o ddim gwell fy hun, D! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Postiogan Cardi Bach » Iau 28 Mai 2009 11:29 am

Celt 86 a ddywedodd:Mebyon Kernow:

Yn Cernyw:

1979 European election - 10,205 - 5.9%
1983 General election - 1,151 - 1.2%
1989 European election - 4,224 - 1.9%
1994 European election - 3,315 - 1.5%
1997 General election - 1,906 - 0.8%
2001 General election - 3,199 - 1.3%
2005 General election - 3,552 - 1.7%


1) Dwi DDIM yn erbyn Cernyw.

2) Dwi DDIM yn erbyn hunaniaeth Cernyweg.

3) Os mae bobl Cernyw efo mor gymaint o balchder yn ei hunaniaeth a diwylliant, felly pam mae dim ond llai na 2% o'r bleidlais y mae Mebyon Kernow ('Plaid' yng Nghernyw) yn medru ennill?????


Os wyt ti DDIM yn erbyn Cernyw, na chwaith yn erbyn hunaniaeth Gernyweg yna ma gyda ti ffordd ryfedd iawn o ddangos cefnogaeth.

Mae rhaffu canrhannau pleidlais mewn etholiad yn cam gyflwyno gwirioneddau ac amgylchiadau llawer ehangach na beth sydd wedi digwydd mewn blwch balot ar unrhyw ddiwrnod penodol o unrhyw flwyddyn. Rwyt ti dy hunan wedi cyflwyno ambell i reswm yn yr edefyn yma paham fod y galw am hunanlywodraeth i Gernyw yn wan ac yn isel – mewnfudo; gwendid yr iaith ac ymwybyddiaeth o ddiwylliant gan niferoedd; diffyg gwaith ac allfudo; tlodi enbyd a gwaith tymhorol sydd yn golygu i nifer o Gernywyr fod anghenion tymor byr yr unigolyn neu’r teulu yn dod goruwch unrhyw amcanion am ddatblygu cenedligrwydd, yn union yr un sefyllfa a oedd yn bodoli yng Nghymru, ac sydd yn dal i fodoli mewn rhannau o Gymru heddiw. Ond, dyw hynny ddim yn gwneud y galw am Senedd/Gynulliad i Gernyw yn llai cywir chwaith, yn nagyw?

Dyw gwleidyddiaeth ddim yn rhywbeth syml sydd yn dibynnu ar reddf, neu anian yn unig, ond yn gymysgwch o amgylchiadau, digwyddiadau, cefndir, dealltwriaeth, dylanwad a llu o bethau eraill. Mae’n anodd i ni yn y dosbarth canol, sydd yn derbyn cyflogau cyson, neu yn byw mewn aelwyd gyfforddus, a mam a dad wedi prynu car i ni pan yn 17, ac yn gallu troi at y teulu dosbarth canol am gymorth os nad yw pethau yn hawdd, mae’n anodd iawn i ni wirioneddol ddeall ac amgyffred amgylchiadau pobl sydd ddim a’r breintiau yma; achos breintiau ydyn nhw – braint yw gallu deffro yn y bore heb orfod poeni sut ydw i am gael arian i brynu llaeth i’r bychan, heb boeni a yw’r plentyn yn yr ysgol am gael ei fwlio eto achos ei fod yn gwisgo dillad sydd efo tyllau neu nad sy’n ffasiynol, ac yn gorfod cael brecwast am ddim; braint yw gallu mynd i’r gwaith heb boeni a oeddwn i am dderbyn pecyn arian ar ddiwedd y dydd am fy llafur, braint yw medru derbyn arian yn syth i’r banc ar ddiwedd bob mis am ‘waith’ sy’n golygu eistedd tu ol i gyfrifiadur a ffonio ambell i berson; braint yw medru stacio’r silffoedd a’r rhewgell a bwydydd ffres organig a chynllunio prydiau bwyd am yr wythnos sydd i ddod; braint yw medru cynllunio gwyliau 6 mis o flaen llaw, boed yn wyliau mewn carafan, neu dros y dwr; mae’n anodd i ni ddeall sut mae gorfod byw heb fedru cynllunio i’r dyfodol, achos ar ol y £30 cash rwy am dderbyn am lafurio yn glanhau pysgod heddiw, efallai na fydd yna £30 arall am fisoedd, a bydd yn rhaid seinio i’r dol sydd am gymryd oleia 3 wythnos cyn i’r siec cynta ddod drwyddo, a beth uffarn ydw i i fod i wneud yn y dair wythnos yma? Mewn cymunedau o’r fath sydd heb y breintiau yma mae’n rhaid i ni ddeall fod y frwydyr am hunan lywodraeth yn gallu ymddangos yn freuddwyd gwrach, ac fod llawer yn fwy ar eu meddyliau nhw na sefyllfa gyfansoddiadol y llywodraeth sydd yn byw yn fras. Mae rhai o’r Cymry gorau yn byw yn rhai o’n cymunedau tlotaf, ond Cymry ydyn nhw yr un modd. Meiddia di ddweud wrth rywun ym Merthyr, Port Talbot, Blaenau Ffestiniog, Sgubor Goch, Townhill eu bod nhw’n Saeson a gei di frechdan dwrn. Yn union yr un sefyllfa sy’n bodoli yn rhannau helaeth o Gernyw. Mae dweud mai West Englanders ydyn nhw yn llawer haws na gorfod meddwl am yr holl amgylchiadau cymhleth sydd wedi arwain at eu sefyllfa drist bresenol. Cernywyr ydyn nhw, er gwaethaf pob dim.

Mae aelodaeth Meibion Cernyw ar gynydd ac mae eu cynrychiolaeth yn y Cyngor Sir wedi cynyddu.

Roedd yna adeg pan nad oedd gan Gymru yr un aelod etholedig o rengoedd Plaid Cymru. Beth byddai ein hanes ni yma heddiw pe byddai pawb wedi cymryd yr un agwedd a nodir ym mhwynt 3 uchod? Byddai Cymru, fel Cernyw druan, yn cael ei adnbaod fel y West of England.

Duw a ddywedodd:@ Pawb sy'n gwylltio

Senedd i Gernyw - beth yw canran pobl Cernyw sydd ei ishe? Wrth gwrs bod bob Cymro glân ishe gweld annibyniaeth iddynt a'r iaith yn ffynni, ond bois bach, mae ishe gwynebu realiti. Tan bod nhw eu hunain yn galw am y peth (mewn niferoedd uchel), malu cachu'n unig yw'r edefyn 'ma. So chill.


Parthed y neges yma, os sylwi di ar ddechrau’r edefyn cyfeirio at ymgyrch yng Nghernyw am Gynulliad i Gernyw y mae’r neges, ac mae angen pob cefnogaeth arnyn nhw, yn ENWEDIG ganddo ni yma yng Nghymru, sydd wedi gorfod mynd trwy sefyllfa debyg iawn yn ddiweddar iawn ein hunen – does neb arall yn y byd sydd mewn gwell sefyllfa iw cynorthwyo na ni yma yng Nghymru. Y peth lleia allwn ni ei wneud yw llofnodi’r ddeiseb ar y wefan.

Paid a phoeni, gyda llaw, fi fel ffrij :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 28 Mai 2009 12:23 pm

O ran cefnogaeth, dyma erthygl gan y BBCefallai a fydd o ddiddordeb, yn benodol y frawddeg olaf:

A recent petition calling for a referendum for a Cornish assembly was signed by 50,000 people from the county.

Cynhaliwyd arolwg barn tua phryd hynny gan MORI hefyd yn awgrymu bod 55% o boblogaeth Cernyw o blaid cynulliad i Gernyw - yn anffodus alla' i ddim dod o hyd i'r arolwg hwnnw ar hyn o bryd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Postiogan Cardi Bach » Iau 28 Mai 2009 12:52 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:O ran cefnogaeth, dyma erthygl gan y BBCefallai a fydd o ddiddordeb, yn benodol y frawddeg olaf:

A recent petition calling for a referendum for a Cornish assembly was signed by 50,000 people from the county.

Cynhaliwyd arolwg barn tua phryd hynny gan MORI hefyd yn awgrymu bod 55% o boblogaeth Cernyw o blaid cynulliad i Gernyw - yn anffodus alla' i ddim dod o hyd i'r arolwg hwnnw ar hyn o bryd.


Co ti cyfeiriad swyddogol ato ar funudau swyddogol Cyngor Sir Cernyw fan hyn.

a dyma ddetholiad o'r munudau yma o gyfarfod Cyngor Sir Cernyw:

Mr Biscoe presented a petition to the Chairman signed by 10 Members, which referred to a petition containing 50,000 signatures, which called upon the Council to recognise the strong support for a Cornish Assembly as shown by the 50,000 declarations collected in support of a Cornish Assembly during 2000-2001 and re-affirm its commitment to a referendum on the issue of a Cornish Assembly in, and for, Cornwall.

the Government be advised that the poll showed strong support that the following questions be addressed in a future referendum, i.e. 72% for a South West Regional Assembly; 70% a Cornish Assembly

the Council's response should also indicate an equally large proportion supporting a referendum for a Cornish Assembly


Hefyd yn Nadolig 2004 fe ddatganodd Lisa Simpson Rhyddid I gernyw ar un o benodau Y Simpsons, mae'n RHAID fod yna gefnogaeth eang felly :P
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Postiogan Ffrinj » Iau 28 Mai 2009 5:52 pm

Efallai bod Cernyw wedi ei Seisnigeiddio llawer ond dyna mwy o reswm iddyn nhw gael senedd eu hunain ac i geisio dad-wneud hynna, siwr?
Ond yn wir allai'm credu'r agwedd 'ffiaidd' fel dwedodd Cardi Bach, tuag at Gernyw a'i diwylliant sydd yma! Mi fues i yno Haf dwytha a chefais i fy siomi ar adegau gyda mor Seisnig oedd hi ond dwi dal yn ei gweld hi fel rhan ar wahân i Loegr, a chredaf fod ganddi lawer o obaith.
Pob lwc iddyn nhw, dwi'n deud. Jest gobeithio bod digon o bobl yn cytuno!
Twitter
Adfywio Iaith Cumbria (Angen Cymry Cymraeg!)
Ffrinj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Mer 18 Gor 2007 12:45 pm
Lleoliad: Drenewydd/Bangor

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

Postiogan Geraint » Iau 28 Mai 2009 6:59 pm

Fel rhywun a enwid yng Ngerhyw, ac sydd yn aml yn gorfod dweud wrth cyd-gymry fod huna yn gwneud fi'n Gernyweg, nid Sais, hir oes i Gernyw, a phob ymdrech am gynullaid/senedd/adfwyio'r iaith.

Mae yna 'indentity' cryf cernyweg dal yn bodoli, er fod y iaith wedi hen fynd. Gormod o 'emmets' wedi symud yno!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron