Celt 86 a ddywedodd:Mebyon Kernow:
Yn Cernyw:
1979 European election - 10,205 - 5.9%
1983 General election - 1,151 - 1.2%
1989 European election - 4,224 - 1.9%
1994 European election - 3,315 - 1.5%
1997 General election - 1,906 - 0.8%
2001 General election - 3,199 - 1.3%
2005 General election - 3,552 - 1.7%
1) Dwi DDIM yn erbyn Cernyw.
2) Dwi DDIM yn erbyn hunaniaeth Cernyweg.
3) Os mae bobl Cernyw efo mor gymaint o balchder yn ei hunaniaeth a diwylliant, felly pam mae dim ond llai na 2% o'r bleidlais y mae Mebyon Kernow ('Plaid' yng Nghernyw) yn medru ennill?????
Os wyt ti DDIM yn erbyn Cernyw, na chwaith yn erbyn hunaniaeth Gernyweg yna ma gyda ti ffordd ryfedd iawn o ddangos cefnogaeth.
Mae rhaffu canrhannau pleidlais mewn etholiad yn cam gyflwyno gwirioneddau ac amgylchiadau llawer ehangach na beth sydd wedi digwydd mewn blwch balot ar unrhyw ddiwrnod penodol o unrhyw flwyddyn. Rwyt ti dy hunan wedi cyflwyno ambell i reswm yn yr edefyn yma paham fod y galw am hunanlywodraeth i Gernyw yn wan ac yn isel – mewnfudo; gwendid yr iaith ac ymwybyddiaeth o ddiwylliant gan niferoedd; diffyg gwaith ac allfudo; tlodi enbyd a gwaith tymhorol sydd yn golygu i nifer o Gernywyr fod anghenion tymor byr yr unigolyn neu’r teulu yn dod goruwch unrhyw amcanion am ddatblygu cenedligrwydd, yn union yr un sefyllfa a oedd yn bodoli yng Nghymru, ac sydd yn dal i fodoli mewn rhannau o Gymru heddiw. Ond, dyw hynny ddim yn gwneud y galw am Senedd/Gynulliad i Gernyw yn llai cywir chwaith, yn nagyw?
Dyw gwleidyddiaeth ddim yn rhywbeth syml sydd yn dibynnu ar reddf, neu anian yn unig, ond yn gymysgwch o amgylchiadau, digwyddiadau, cefndir, dealltwriaeth, dylanwad a llu o bethau eraill. Mae’n anodd i ni yn y dosbarth canol, sydd yn derbyn cyflogau cyson, neu yn byw mewn aelwyd gyfforddus, a mam a dad wedi prynu car i ni pan yn 17, ac yn gallu troi at y teulu dosbarth canol am gymorth os nad yw pethau yn hawdd, mae’n anodd iawn i ni wirioneddol ddeall ac amgyffred amgylchiadau pobl sydd ddim a’r breintiau yma; achos breintiau ydyn nhw – braint yw gallu deffro yn y bore heb orfod poeni sut ydw i am gael arian i brynu llaeth i’r bychan, heb boeni a yw’r plentyn yn yr ysgol am gael ei fwlio eto achos ei fod yn gwisgo dillad sydd efo tyllau neu nad sy’n ffasiynol, ac yn gorfod cael brecwast am ddim; braint yw gallu mynd i’r gwaith heb boeni a oeddwn i am dderbyn pecyn arian ar ddiwedd y dydd am fy llafur, braint yw medru derbyn arian yn syth i’r banc ar ddiwedd bob mis am ‘waith’ sy’n golygu eistedd tu ol i gyfrifiadur a ffonio ambell i berson; braint yw medru stacio’r silffoedd a’r rhewgell a bwydydd ffres organig a chynllunio prydiau bwyd am yr wythnos sydd i ddod; braint yw medru cynllunio gwyliau 6 mis o flaen llaw, boed yn wyliau mewn carafan, neu dros y dwr; mae’n anodd i ni ddeall sut mae gorfod byw heb fedru cynllunio i’r dyfodol, achos ar ol y £30 cash rwy am dderbyn am lafurio yn glanhau pysgod heddiw, efallai na fydd yna £30 arall am fisoedd, a bydd yn rhaid seinio i’r dol sydd am gymryd oleia 3 wythnos cyn i’r siec cynta ddod drwyddo, a beth uffarn ydw i i fod i wneud yn y dair wythnos yma? Mewn cymunedau o’r fath sydd heb y breintiau yma mae’n rhaid i ni ddeall fod y frwydyr am hunan lywodraeth yn gallu ymddangos yn freuddwyd gwrach, ac fod llawer yn fwy ar eu meddyliau nhw na sefyllfa gyfansoddiadol y llywodraeth sydd yn byw yn fras. Mae rhai o’r Cymry gorau yn byw yn rhai o’n cymunedau tlotaf, ond Cymry ydyn nhw yr un modd. Meiddia di ddweud wrth rywun ym Merthyr, Port Talbot, Blaenau Ffestiniog, Sgubor Goch, Townhill eu bod nhw’n Saeson a gei di frechdan dwrn. Yn union yr un sefyllfa sy’n bodoli yn rhannau helaeth o Gernyw. Mae dweud mai West Englanders ydyn nhw yn llawer haws na gorfod meddwl am yr holl amgylchiadau cymhleth sydd wedi arwain at eu sefyllfa drist bresenol. Cernywyr ydyn nhw, er gwaethaf pob dim.
Mae aelodaeth Meibion Cernyw ar gynydd ac mae eu cynrychiolaeth yn y Cyngor Sir wedi cynyddu.
Roedd yna adeg pan nad oedd gan Gymru yr un aelod etholedig o rengoedd Plaid Cymru. Beth byddai ein hanes ni yma heddiw pe byddai pawb wedi cymryd yr un agwedd a nodir ym mhwynt 3 uchod? Byddai Cymru, fel Cernyw druan, yn cael ei adnbaod fel y West of England.
Duw a ddywedodd:@ Pawb sy'n gwylltio
Senedd i Gernyw - beth yw canran pobl Cernyw sydd ei ishe? Wrth gwrs bod bob Cymro glân ishe gweld annibyniaeth iddynt a'r iaith yn ffynni, ond bois bach, mae ishe gwynebu realiti. Tan bod nhw eu hunain yn galw am y peth (mewn niferoedd uchel), malu cachu'n unig yw'r edefyn 'ma. So chill.
Parthed y neges yma, os sylwi di ar ddechrau’r edefyn cyfeirio at ymgyrch yng Nghernyw am Gynulliad i Gernyw y mae’r neges, ac mae angen pob cefnogaeth arnyn nhw, yn ENWEDIG ganddo ni yma yng Nghymru, sydd wedi gorfod mynd trwy sefyllfa debyg iawn yn ddiweddar iawn ein hunen – does neb arall yn y byd sydd mewn gwell sefyllfa iw cynorthwyo na ni yma yng Nghymru. Y peth lleia allwn ni ei wneud yw llofnodi’r ddeiseb ar y wefan.
Paid a phoeni, gyda llaw, fi fel ffrij