gan Seonaidh/Sioni » Iau 21 Mai 2009 8:01 pm
Es i a fy mab ar wyliau i Aberplym rai flynyddoedd yn ol ac, wrth gwrs, darfu inni ymweld a Chernyw (Canolfan Eden, Bodfynaich, Llwch). Prynasom ni faner Cernyw yn Llwch. Roedd fy mab yn gwybod, o hynny ymlaen, y gwahaniaeth rhwng Lloegr a Chernyw. Yn swyddogol ydy, mae Cernyw yn rhan o Loegr, yn union fel roedd ill dau Lloegr a Chymru tan ddiweddar yn rhannau o ryw wlad o'r enw "England and Wales" a greuwyd gan Harri Tudur. Gall pethau newid.
Mae na obaith i Gernyw - mae na fwy o obaith nac sydd i Ystrad Clud neu Reged, ond efallai dim cymaint ag sydd i Northumbria neu Swydd Efrog. O ie, camgymeriad heb esgus ydy meddwl am "y Saeson" fel llwyth unigol!
A bheil thu gam aithneachadh?