Tudalen 4 o 4

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

PostioPostiwyd: Sad 30 Mai 2009 9:04 pm
gan celt86
:ofn:

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

PostioPostiwyd: Sad 30 Mai 2009 10:00 pm
gan Kez
celt86 a ddywedodd:Dwim yn atebol i NEB!! Chi gyd yn malu c***u am agwedd ffiaidd achos dwim yn rhannu eich agwedd lyfi dyi cymdiethas yr iaith sothach!

Mae Cernyw wedi ei seisnigio yn ddifrifol ir pwynt lle mae diwylliant Cernyweg ar fin marw allan. Mae'r diwylliant yno wedi troi yn un 'false' i twristiaid.

Dyna fel dwin gweld o. Os da chi ddim yn hoffi fo wel twll ych t*n chi!!!!

(Dwim postio ar yr edefyn yma ragor, dwi di neud ym mhwynt!)



Yr unig bwynt ti wedi'i neud yw dangos bo ti'n goc oen o'r radd flaena a sdim pwynt splito y gair cachu neu tin lan gida ser, gwath ma'r pethach ti'n gweud heb regi yn wath. Ma rhaid bod uffach o sglodyn ar dy ysgwdd di biti rywbath - ife coc bach yw e ne ti'n salw.

Ffycin hell - mae Susan Boyle newydd golli Britains Got Talent ac fi'n reit distraught biti hwnna a dyma fi'n dod miwn i'r edefyn 'ma a darllin dy shit di. Ma angan ffycin gras weithia :ing:

Wi'n mynd mas am beint grrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrrr!!!!!!!!!!

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 3:22 pm
gan Cardi Bach
Mebyon Kernow wedi ennill tair sedd ar gyngor Cernyw echdoe; y Rhyddfrydwyr bondigrybwyll wedi colli rheolaeth, ac ymddengys fel y bydd MK yn chwarae rhan bwysig wrth ffurifio coalisiwn.

Cyffrous!

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 8:00 pm
gan Josgin
Etholiad amserol a chanlyniad priodol o safbwynt yr edefyn yma .

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

PostioPostiwyd: Mer 05 Awst 2009 2:45 pm
gan micpenderyn
Meddwl ail agor y postiad yma. Yr oedd gennyf diddordeb yn Senedh Kernow cyfnod yn ol.

Yn fy marn i, nid yn unig yw pwysigrwydd ar hunaniaeth, crefydd a ddiwylliant ond hefyd yr hyn a rhoddodd nerth at y Cymry i arwain at datganoliad fel y mai heddiw. Er i ni cydnabod ein hun yn gymry ar y fforwm yma, mae llawer yn f'ardal i (agos at Merthyr Tydfil) yn dwybenniog at eu unigrwydd. Maent ar ddwyrnod y gem yn Gymry yn eu uchelder ond, erbyn diwedd tymor y chwarae maent yn gwylio'r newyddion heb cwyno ein bod yn cael ein ystyried fel Saesneg (pan maent yn ein galw yn "England and Wales" trwy'r amser).

Na, mae'n rhaid dweud, o rhan y South Wales Valleys, mai cryfder datganoliad ar materion lleol a werthodd y Senedd. Ac er i'r cost ariannol mae hi wedi dod a llwyddiannau sy'n unigryw i'r lle. Nid yw'r saeson yn derbyn cymorth ariannol at radd nac felly at eu perscriptions. Mae ein system iechyd wedi dangos yn ddiweddar i angen penderfyniad cymraeg ar lleoliad ein ysbytau a'n ymroddiant yn ysgolion.

Yn y modd yma, teimlaf mae hyn yw'r pwysigrwydd sefydlu Senedh Kernow. Yn y sefyllfa economaidd gwael yma, mae'n rhaid i ni sefydlu dewisiadau economaidd eang ar gyfer pob carfan a phob cornel Prydain. Ac wedi i Gernyw derbyn Senedd ei hun, fe fydd pwyslais ar wellhau y sefyllfa i hwythau gyda'i economi sydd ar y foment wedi glynnu yn agos at twristiaeth.

Re: Senedh Kernow: Senedd i Gernyw

PostioPostiwyd: Llun 07 Medi 2009 11:02 pm
gan Gwenci Ddrwg
Ddim yn mynd i ddigwydd. Senedd i Gernyw? Cernyw ydy'r 'wlad' y bydd lleiafrifoedd arall yn ystyried pan bydden nhw eisiau teimlo'n well am statws a dyfodol iaith a diwylliant eu hun. IE "Hey bois dan ni'n ffyced ond o leiaf dan ni ddim fel nhw..." Wrth gwrs swn i'n ofnadwy o hapus sai gynnon nhw senedd, ond rhaid fod yn besimistaidd ar y fater ma.