Tudalen 1 o 1

Bodiau traed cenedlaetholdeb Seisnig

PostioPostiwyd: Sul 10 Meh 2007 8:49 am
gan sian
Glywodd rhywun y sgwrs ddifyr rhwng Rhys Llwyd a John Roberts ar Bwrw Golwg bore 'ma?
Os deallais i'n iawn, mae golygydd (?) yr Evangelical Times wedi dweud mewn erthygl bod cenedlaetholdeb Cymreig diweddar yn gynnyrch seciwlariaeth ôl-fodernaidd.
Rhys wedi ysgrifennu ato yn esbonio bod llawer o genedlaetholwyr Cymreig yn Gristnogion Calfinaidd.
Yr eironi, meddai Rhys, oedd bod erthygl y dyn yn drewi o genedlaetholdeb (Brydeinig) heb iddo sylweddoli hynny.
Ac wedyn dyma'r em:
Rhys yn dyfynnu R Tudur Jones yn dweud bod cenedlaetholdeb y Saeson (?) fel bodiau traed. Maen nhw gan bawb ond does neb yn sylwi arnyn nhw nes bod rhywun yn eu sathru.

Hynny yw, am wn i, mae Saeson (a llawer o Gymry) yn cyfrif mai cenedlaetholdeb Brydeinig yw'r norm ac na ddylid gwyro oddi wrth hynny.

Da de?

PostioPostiwyd: Sul 10 Meh 2007 10:29 am
gan 7ennyn
:crechwen: Checkmate!

PostioPostiwyd: Sul 10 Meh 2007 11:05 am
gan Mr Gasyth
Dwi wedi clywed cymhariaeth tebyg, yn son am genedl a chenedlaetholdeb fel asgwrn. Bydd Saeson/Prydeinwyr yn aml methu deall pam fod Cymry/Albanwyr/Gwyddelod mor obsessed efo'u cenedligrwydd, ac yn achos y Cymry Cymraeg, gyda'r iaith.

Wel mae fel asgwrn. Tra'u bod yn iach a chyfan tydach chi ddim yn sylwi eu bod nhw yno, ond pan mae nhw wedi torri fedrwch chi feddwl am ddiawl o ddim byd arall nes maen nhw wedi gwella.

PostioPostiwyd: Iau 14 Meh 2007 9:50 am
gan Dafydd Iwanynyglaw
Dwi heb glywed y rhaglen, ond mae Rhys yn gywir i bwyntio at "Brydeindod" fel math arall genedlaetholdeb, math y mae llawer o Gristnogion yn ei dderbyn heb ofyn cwestiynnau rhy ddwfn.

Mae golygydd yr ET yn rong mewn un peth amlwg iawn - nid peth seciwlar ol-fodern yw cenedlaetholdeb yn gyffreedinol - mae'n amlwg nad yw'n gwybod ei hanes nac yn wir ystyr "ol-fodern".

Wrth gwrs, fel y gwyr pawb (wel, pawb sy'n cytun efo fi, eniwe 8) ) ffenomenon hanner-seciwlar fodern yw cenedlaetholdeb yn gyffredinol, ar yr un pryd yn cael eu gyflyrru gan ffydd ond hefyd yn defnyddio cattegoriau ffydd i'w dibenion ei hun, weithio yn mynd efo graen y Testament Newydd, ac weithiau'n creu deicotamiau dwys.