Tudalen 1 o 1

Hawliau cyfartal, cyfrifoldebau cyfartal

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 1:24 pm
gan huwwaters
Sôn ydwi, ddim mewn ffordd nawddoglyd na trahaus, ond am hawliau merched.

Yr ydwyf yn cytuno 100% y dyle dyn a gwraig sy'n gwneud yr un gwaith cael yr union yr un tal, ac er bod hyn ddim yn digwydd o hyd, dyle pawb gweithio tuag at ei gyflawni.

Pam nad ydym yn gweld gwragedd yn gweithio mewn modurdai, fel mecanwyr, yn gweithio yn trwsio ffyrdd, gyda tarmac a rhaw, yn gweithio fel trydanwyr a phlymwyr?

I gaelo cyfrannedd hafal, dyle hanner o'r gweithlu ym mhob maes bod yn wragedd.

Re: Hawliau cyfartal, cyfrifoldebau cyfartal

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 1:54 pm
gan SerenSiwenna
huwwaters a ddywedodd:Sôn ydwi, ddim mewn ffordd nawddoglyd na trahaus, ond am hawliau merched.

Yr ydwyf yn cytuno 100% y dyle dyn a gwraig sy'n gwneud yr un gwaith cael yr union yr un tal, ac er bod hyn ddim yn digwydd o hyd, dyle pawb gweithio tuag at ei gyflawni.

Pam nad ydym yn gweld gwragedd yn gweithio mewn modurdai, fel mecanwyr, yn gweithio yn trwsio ffyrdd, gyda tarmac a rhaw, yn gweithio fel trydanwyr a phlymwyr?

I gaelo cyfrannedd hafal, dyle hanner o'r gweithlu ym mhob maes bod yn wragedd.


Yn ddelfrydol ie, ond dyw e ddim cweit mor syml, fel dwi'n siwr bo ti'n gwybod, a jest rhoid yr "hawl" mae socialisation yn chwarae rhan heyf. Byswn i wedi bod wrth fy modd yn dysgu sut i fod yn mecaneg. Yn yr ysgol mi natha nhw greu tgau mecaneg moduron...ac o ni yn ystyried mynd amdanni, ond dyma'r cynghorydd gyrfaoedd fy mwlio allan ohonni gan ddeud o mae'r sawl sydd am wneud hynny wedi bod wrthi ers stalwm yn tncro hefo beics modur aga ti, wyt ti? naddo, wel, o ni amau, na, well i ti wneud rhywbeth fwy fel coginio neu rhywbeth ynde :crechwen: er, dwi wrth fy modd yn coginio cofia, ond dal, :crechwen: :crechwen:

Ac, hyd ynoed os mynnwn y gyrfaeodd yma, cawn ni ddim croeso....meddylie di be fysa fy mowyd i fel petaswn wedi trio cael swydd yn trwsio ffordd....chi'n meddwl fysa fy nghyd weithwyr yn fy nerbyn i heb fod yn ffiaidd ag sbio ar fy nhits pob cyfle? Mae un o fy ffrindiau i yn gwneud gwaith reit manual ond hefo sgil ac yn diwedd wnaeth hi adael un cwmni oherwydd y ffordd gath hi ei thrin. Dwi'n gwybod fyswn ni gyd yn gallu llosgi ein bras a sefyll fynnu drost merched ymhob man, ond, dwi'n credu fod gwaith caib a rhaw yn digon anodd heb cael y pwysau ychwanegol....sori i fod yn blanced gwlub llu :winc:

Re: Hawliau cyfartal, cyfrifoldebau cyfartal

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 9:29 pm
gan Kez
Ac, hyd ynoed os mynnwn y gyrfaeodd yma, cawn ni ddim croeso....meddylie di be fysa fy mowyd i fel petaswn wedi trio cael swydd yn trwsio ffordd....chi'n meddwl fysa fy nghyd weithwyr yn fy nerbyn i heb fod yn ffiaidd ag sbio ar fy nhits pob cyfle?



Dibynnu shwt siap sydd ar dy dits di sbo. :D

Re: Hawliau cyfartal, cyfrifoldebau cyfartal

PostioPostiwyd: Maw 04 Medi 2007 2:00 pm
gan Jakous
huwwaters a ddywedodd:Pam nad ydym yn gweld gwragedd yn gweithio mewn modurdai, fel mecanwyr, yn gweithio yn trwsio ffyrdd, gyda tarmac a rhaw, yn gweithio fel trydanwyr a phlymwyr.

Ti'n cymyd y piss ta be?

Yn un ma dynion yn gyrfach, ac yn ail sa merchaid ddim isho torri eu gwinedd.