huwwaters a ddywedodd:Sôn ydwi, ddim mewn ffordd nawddoglyd na trahaus, ond am hawliau merched.
Yr ydwyf yn cytuno 100% y dyle dyn a gwraig sy'n gwneud yr un gwaith cael yr union yr un tal, ac er bod hyn ddim yn digwydd o hyd, dyle pawb gweithio tuag at ei gyflawni.
Pam nad ydym yn gweld gwragedd yn gweithio mewn modurdai, fel mecanwyr, yn gweithio yn trwsio ffyrdd, gyda tarmac a rhaw, yn gweithio fel trydanwyr a phlymwyr?
I gaelo cyfrannedd hafal, dyle hanner o'r gweithlu ym mhob maes bod yn wragedd.
Yn ddelfrydol ie, ond dyw e ddim cweit mor syml, fel dwi'n siwr bo ti'n gwybod, a jest rhoid yr "hawl" mae socialisation yn chwarae rhan heyf. Byswn i wedi bod wrth fy modd yn dysgu sut i fod yn mecaneg. Yn yr ysgol mi natha nhw greu tgau mecaneg moduron...ac o ni yn ystyried mynd amdanni, ond dyma'r cynghorydd gyrfaoedd fy mwlio allan ohonni gan ddeud o mae'r sawl sydd am wneud hynny wedi bod wrthi ers stalwm yn tncro hefo beics modur aga ti, wyt ti? naddo, wel, o ni amau, na, well i ti wneud rhywbeth fwy fel coginio neu rhywbeth ynde
er, dwi wrth fy modd yn coginio cofia, ond dal,
Ac, hyd ynoed os mynnwn y gyrfaeodd yma, cawn ni ddim croeso....meddylie di be fysa fy mowyd i fel petaswn wedi trio cael swydd yn trwsio ffordd....chi'n meddwl fysa fy nghyd weithwyr yn fy nerbyn i heb fod yn ffiaidd ag sbio ar fy nhits pob cyfle? Mae un o fy ffrindiau i yn gwneud gwaith reit manual ond hefo sgil ac yn diwedd wnaeth hi adael un cwmni oherwydd y ffordd gath hi ei thrin. Dwi'n gwybod fyswn ni gyd yn gallu llosgi ein bras a sefyll fynnu drost merched ymhob man, ond, dwi'n credu fod gwaith caib a rhaw yn digon anodd heb cael y pwysau ychwanegol....sori i fod yn blanced gwlub llu