Tudalen 1 o 3
Gwahardd yfed ar drênau
Postiwyd:
Maw 11 Medi 2007 12:20 pm
gan Jon Bon Jela
Dw i wedi bod yn meddwl llawer am hyn yn ddiweddar, ond oni fyddai'n gwneud synnwyr i wahardd yfed alcohol ar drênau? Dwi'n siwr bydd ffigyrau trosedd Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig yn gostwng pe bai polisi o'r fath yn weithredol.
Beth yw barn y maes am hyn? Mmm?
Re: Gwahardd yfed ar drênau
Postiwyd:
Maw 11 Medi 2007 1:35 pm
gan Rhys Llwyd
Jon Bon Jela a ddywedodd:Dw i wedi bod yn meddwl llawer am hyn yn ddiweddar, ond oni fyddai'n gwneud synnwyr i wahardd yfed alcohol ar drênau? Dwi'n siwr bydd ffigyrau trosedd Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig yn gostwng pe bai polisi o'r fath yn weithredol.
Beth yw barn y maes am hyn? Mmm?
Byddai cyfyngu yfed i un rhan o'r tren (y cerbyd lle mae'r bar a'r siop yn achos y pendelino's ar voyagers wrth reswm) yn ddechrau da. Fedraim dioddef pobl meddwl ar dren.
Re: Gwahardd yfed ar drênau
Postiwyd:
Maw 11 Medi 2007 1:37 pm
gan Mr Gasyth
Rhys Llwyd a ddywedodd:Jon Bon Jela a ddywedodd:Dw i wedi bod yn meddwl llawer am hyn yn ddiweddar, ond oni fyddai'n gwneud synnwyr i wahardd yfed alcohol ar drênau? Dwi'n siwr bydd ffigyrau trosedd Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig yn gostwng pe bai polisi o'r fath yn weithredol.
Beth yw barn y maes am hyn? Mmm?
Byddai cyfyngu yfed i un rhan o'r tren (y cerbyd lle mae'r bar a'r siop yn achos y pendelino's ar voyagers wrth reswm) yn ddechrau da. Fedraim dioddef pobl meddwl ar dren.
Tydi'r ardal mae rhywyn yn feddw ynddi ddim run fath a'r ardal gall rywyn yfed ynddi'n anffodus - gall meddwod symyd o gwmpas.
Re: Gwahardd yfed ar drênau
Postiwyd:
Maw 11 Medi 2007 2:07 pm
gan ceribethlem
Rhys Llwyd a ddywedodd:Fedraim dioddef pobl meddwl ar dren.
Cytuno'n llwyr, ffecin interlectiwals
Postiwyd:
Maw 11 Medi 2007 2:24 pm
gan Rhys Llwyd
Good point Gasyth! Nesim meddwl am hynny, ok polisi fwy direct - be am eu taflu allan trwy'r ffenast (dychmyga bod yn styc nepell o Gaersws am un y bore, dyna fydde cosb!)
Postiwyd:
Maw 11 Medi 2007 2:27 pm
gan Rhodri Nwdls
4-pack - yr unig ffordd i oroesi siwrne o Aber --> [unrhywle]
Ma'r rhan fwya o bobol rili pissed ar drên yn pissed yn mynd arnyn nhw be bynnag.
Ond baniwch athroniaeth ar drenau yn sicr. Dylid cadw meddyliau i wiwerod ac octopi yn unig (yn cwffio gyda'u gilydd mewn tanc pysgod sfferigol os yn boisb).
Intercitylectuals OUT!
Postiwyd:
Maw 11 Medi 2007 5:07 pm
gan Mihangel Macintosh
Oes na'm digon yn rheolau yn barod yn atal rhyddid yr unigolyn?
STATIST OWT!
Postiwyd:
Mer 12 Medi 2007 9:55 am
gan penn bull
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Oes na'm digon yn rheolau yn barod yn atal rhyddid yr unigolyn?
Cytuno!
Blydi hel - de chi jyst isho creu rheola trwy'r amsar.
Yn amlwg, ma gan pawb gyfrifoldeb i ddangos parch at bobol eraill a ballu.
Peidiwch a bod mor gul plis nobeds
Postiwyd:
Mer 12 Medi 2007 11:08 am
gan Jon Bon Jela
penn bull a ddywedodd:Mihangel Macintosh a ddywedodd:Oes na'm digon yn rheolau yn barod yn atal rhyddid yr unigolyn?
Cytuno!
Blydi hel - de chi jyst isho creu rheola trwy'r amsar.
Yn amlwg, ma gan pawb gyfrifoldeb i ddangos parch at bobol eraill a ballu.
Peidiwch a bod mor gul plis nobeds
Mae'n amlwg nad wyt ti wedi bod ar y trên rhwng Abertawe a Chaerdydd ar nos Sadwrn. Pobl yn gweiddi, chavs yn chwarae eu ringtones di-chwaith yn uchel, eraill yn poeri at y dyn tocynnau ayb.
Postiwyd:
Mer 12 Medi 2007 11:14 am
gan Macsen
Swnio fel pobol Abertawe a Ceardydd fel arfer i fi.