gan nicdafis » Iau 13 Medi 2007 2:38 pm
Byddai cael digon o staff wedi'u hyfforddi ar y trên yn helpu - dim angen heddlu wneud hyn. Cyfrifoldeb cadw trefn ar drên yw'r cwmni sy'n wneud elw o redeg y trên. Os wyt ti wedi cael problem gyda meddwon dylet ti gwyno at y cwmni yna a ofyn am dy arian yn ôl, gan eu bod nhw wedi torri'r cytundeb sydd rhyngddoch chi, wedi i ti brynu'r docyn. (Discleimar amlwg: nid cyfreithiwr ydw i.)
Nid alcohol yw'r broblem, ac nid pobl sy'n yfed, ond pobl sy ddim yn gallu yfed heb droi yn anifeiliaid.
Yn yr un modd, nid plant sy'n fy ngwylltio i bob tro dw i'n teithio ar drên, ond y blydi rhieni sy ddim yn gallu eu rheoli, a staff y trên sy ddim yn wneud eu gwaith.
(Mae'r gair Saesneg <i>conductor</i>, sy wedi mynd ma's o ffasiwn bellach, yn ddiddorol yn y cydestun hyn.)