Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Mer 12 Medi 2007 4:29 pm
gan Mihangel Macintosh
Jon Bon Jela a ddywedodd:
penn bull a ddywedodd:
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Oes na'm digon yn rheolau yn barod yn atal rhyddid yr unigolyn?


Cytuno!

Blydi hel - de chi jyst isho creu rheola trwy'r amsar.
Yn amlwg, ma gan pawb gyfrifoldeb i ddangos parch at bobol eraill a ballu.

Peidiwch a bod mor gul plis nobeds


Mae'n amlwg nad wyt ti wedi bod ar y trên rhwng Abertawe a Chaerdydd ar nos Sadwrn. Pobl yn gweiddi, chavs yn chwarae eu ringtones di-chwaith yn uchel, eraill yn poeri at y dyn tocynnau ayb.


Fi oedd y boi oedd yn gweiddi.

PostioPostiwyd: Iau 13 Medi 2007 10:41 am
gan Dielw
Q. Pam bod o'n iawn poeri ar y dyn tocynnau?
A. Achos bod on dic-ed!

PostioPostiwyd: Iau 13 Medi 2007 12:02 pm
gan Llewelyn Richards
Y broblem ydi nad wyt ti'n gallu osgoi pobl feddw ar drens os nad oes rhywle arall i eistedd. Geshi abiws am siarad Cymraeg gan dri meddw ar dren rhwng yr Amwythig a Chaerdydd. Ac, ydi, mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi meddwi cyn mynd arni felly fyddai gwaharddiad ddim yn gweud cymaint o wahaniaeth â hynny.

Dwi'n meddwl byddai presenoldeb yr heddlu ar hotspots cydnabyddedig yn gwneud gwahaniaeth yn ogystal a dirwyon trwm am sarhau staff y tren. Dwi'n gwybod bod rhywfaint o hyn yn digwydd yn barod ond dydio ddim fel pe bai wedi gwneud llawer o wahaniaeth.

PostioPostiwyd: Iau 13 Medi 2007 2:07 pm
gan Jon Bon Jela
Llewelyn Richards a ddywedodd:Y broblem ydi nad wyt ti'n gallu osgoi pobl feddw ar drens os nad oes rhywle arall i eistedd. Geshi abiws am siarad Cymraeg gan dri meddw ar dren rhwng yr Amwythig a Chaerdydd. Ac, ydi, mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi meddwi cyn mynd arni felly fyddai gwaharddiad ddim yn gweud cymaint o wahaniaeth â hynny.

Dwi'n meddwl byddai presenoldeb yr heddlu ar hotspots cydnabyddedig yn gwneud gwahaniaeth yn ogystal a dirwyon trwm am sarhau staff y tren. Dwi'n gwybod bod rhywfaint o hyn yn digwydd yn barod ond dydio ddim fel pe bai wedi gwneud llawer o wahaniaeth.


Pwynt teg iawn, ond oni fyddai peidio gwerthu alcohol yn atal rhai rhag meddwi cyn camu ar y trên gyda'r bwriad o brynu six pack neu botel o wîn yn ystod y daith?

Anghytuno hefyd gyda chael coets ar wahân i bobl meddw...

PostioPostiwyd: Iau 13 Medi 2007 2:38 pm
gan nicdafis
Byddai cael digon o staff wedi'u hyfforddi ar y trên yn helpu - dim angen heddlu wneud hyn. Cyfrifoldeb cadw trefn ar drên yw'r cwmni sy'n wneud elw o redeg y trên. Os wyt ti wedi cael problem gyda meddwon dylet ti gwyno at y cwmni yna a ofyn am dy arian yn ôl, gan eu bod nhw wedi torri'r cytundeb sydd rhyngddoch chi, wedi i ti brynu'r docyn. (Discleimar amlwg: nid cyfreithiwr ydw i.)

Nid alcohol yw'r broblem, ac nid pobl sy'n yfed, ond pobl sy ddim yn gallu yfed heb droi yn anifeiliaid.

Yn yr un modd, nid plant sy'n fy ngwylltio i bob tro dw i'n teithio ar drên, ond y blydi rhieni sy ddim yn gallu eu rheoli, a staff y trên sy ddim yn wneud eu gwaith.

(Mae'r gair Saesneg <i>conductor</i>, sy wedi mynd ma's o ffasiwn bellach, yn ddiddorol yn y cydestun hyn.)

PostioPostiwyd: Iau 13 Medi 2007 3:08 pm
gan Jon Bon Jela
nicdafis a ddywedodd:Byddai cael digon o staff wedi'u hyfforddi ar y trên yn helpu - dim angen heddlu wneud hyn. Cyfrifoldeb cadw trefn ar drên yw'r cwmni sy'n wneud elw o redeg y trên. Os wyt ti wedi cael problem gyda meddwon dylet ti gwyno at y cwmni yna a ofyn am dy arian yn ôl, gan eu bod nhw wedi torri'r cytundeb sydd rhyngddoch chi, wedi i ti brynu'r docyn. (Discleimar amlwg: nid cyfreithiwr ydw i.)

Nid alcohol yw'r broblem, ac nid pobl sy'n yfed, ond pobl sy ddim yn gallu yfed heb droi yn anifeiliaid.

Yn yr un modd, nid plant sy'n fy ngwylltio i bob tro dw i'n teithio ar drên, ond y blydi rhieni sy ddim yn gallu eu rheoli, a staff y trên sy ddim yn wneud eu gwaith.

(Mae'r gair Saesneg <i>conductor</i>, sy wedi mynd ma's o ffasiwn bellach, yn ddiddorol yn y cydestun hyn.)


Ond fydden i'n dadlau nad 'rheoli pissheads' ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol ar drênau yw cyfrifoldeb staff y trên. Dwi'n amau eu bônt wedi derbyn hyfforddiant digonol i ddelio â meddwyn sy'n high ar gyffuriau ac yn cario cyllell. A fydd cael heddwas o'r heddlu trafnidiaeth ar drênau cythryblus yn syniad gwell, efallai?

PostioPostiwyd: Iau 13 Medi 2007 3:55 pm
gan Llewelyn Richards
Gwahardd yfed neu werthu alcohol ar drenau ar ol 10 y nos efallai? Nid gwaith staff y trenau ydi delio efo iobs meddw nag ymddygiad gwrthgymdeithasol chwaith.

PostioPostiwyd: Iau 13 Medi 2007 4:07 pm
gan Norman
Anamal byddai'n yfad ar dren, ond pan ydwi, dwin dod a cania efo fi, dim talu y petha gwirion ma nhw'n jarjo. Oes 'cerbyd distaw' ar y siwrna Abertawe > Caerdydd 'ma ?

PostioPostiwyd: Iau 13 Medi 2007 4:22 pm
gan Jon Bon Jela
Oes, ond does braidd neb yn parchu'r rheolau.

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2008 7:37 am
gan Gwenci Ddrwg
wahardd yfed neu werthu alcohol ar drenau ar ol 10 y nos efallai?


Os dydy criw y dren osgoi yfed, does dim problem. Hyd yn oed tasai 'na rheol yn erbyn yfed ar drenau, pwy sy'n gallu gorfodi rhywbeth fel hynny? Dach chi rili eisiau i bob trên ddal deg plisman wedi 10 o'r gloc (IE dach chi rili eisiau talu mwy o drethu)? Ceisiwch ddim i ddeud bod criw y drên yn digon i orfodi'r rheol, mae gynnon nhw waith i wneud a basai hynny'n beryglus os dwi'n nabod meddwon.

Wrth gwrs dwi ddim yn gwybod be sy'n digwydd yng Nghymru yn union, ond dwi'n defnyddio mewngofnodi economeg. Gallech chi greu'r rheol ar bapur, ond buasai hi'n amhosib neu costus i gefnogi'n dda.

Yn eironig iawn meddwyn dwi rwan (!), dwi newydd yfed felly dwi'n gobeithio eich bod chi'n gallu fy nall i!