Tudalen 1 o 1

Hunan-ladd yn Pen-y-Bont

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 1:47 pm
gan Madrwyddygryf
Wedi bod yn dilyn be sydd wedi bod yn digwydd lawr yn Mhen-y-bont yr Ogwr gyda diddordeb a gryn thristwch. (Darllenwch erthygl diddorol ond disgrifiad nawddoglyd a snobyddlyd o Pen-Y-Bont). Er nad yw bobl ifanc yn cyflawni hunanladdiad yn rhywbeth newydd wrth gwrs, mae phenomenon ma o grwp o bobl ifanc yn lladd eu hunain mewn un ardall yn od iawn i ddeud y lleiaf.

Mi glywais gan ffrind i mi neithiwr bod rhan fwyaf ohonynt wedi mynychu Ysgol Llanhari ac bod nhw yn dod o cefndir eitha di-freintiedig. Er dwi’m deallt ma o syniad ma fod wefannau sydd gallu fod ar fai. Digwyddodd rhywbeth fel hyn yn yr Alban cwpl o flynyddoedd yn ol, pan roedd cyfres o hunan-lladdiad o ddynion canol-oed (30au a 40au) mewn tref fychan.

Ond dwi’m gweld sut gall y fath beth cael ei sbarduno?

Re: Hunan-ladd yn Pen-y-Bont

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 2:18 pm
gan Positif80
Mae ddigon o chat rooms eithaf dodgy ar y we, wrth gwrs. Pobl unig, efalla, sydd yn edrych am gyfeillgarwch ond sydd wedi mynd i'r lle anghywir i'w ffeindio. Digwyddiadau anffodus iawn, a dweud y lleiaf.

Re: Hunan-ladd yn Pen-y-Bont

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 2:51 pm
gan ceribethlem
Roedd rhywbeth am hwn ar newyddion y Post Cyntaf bore 'ma. Mae'n debyg fod ystadegau brawychus iawn ynglyn a hunanladdiad yng Nghymru, ddim yn cofio'n iawn ond oedd rhywbeth fel mwy o ddynion yifnac yn marw drwy hunanladdiad nac oedd yn marw drwy damweiniau car.

Re: Hunan-ladd yn Pen-y-Bont

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 4:11 pm
gan Mr Gasyth
ceribethlem a ddywedodd:Roedd rhywbeth am hwn ar newyddion y Post Cyntaf bore 'ma. Mae'n debyg fod ystadegau brawychus iawn ynglyn a hunanladdiad yng Nghymru, ddim yn cofio'n iawn ond oedd rhywbeth fel mwy o ddynion yifnac yn marw drwy hunanladdiad nac oedd yn marw drwy damweiniau car.


ie, mae'n debyg mai hunan-laddiad ydi'r prif achos marwolaeth ymysg plant yn eu harddegau yng nghymru

Re: Hunan-ladd yn Pen-y-Bont

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 7:11 pm
gan Positif80
Mae'n siwr fod diweithdra ac ati yn arwain at broblemau meddyliol mewn rhai achosion.

Re: Hunan-ladd yn Pen-y-Bont

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 7:21 pm
gan Ray Diota
Positif80 a ddywedodd:Mae'n siwr fod diweithdra ac ati yn arwain at broblemau meddyliol mewn rhai achosion.


diolch doctor :rolio:

Re: Hunan-ladd yn Pen-y-Bont

PostioPostiwyd: Iau 07 Chw 2008 4:03 am
gan Gwenci Ddrwg
Rhyw fath o gwlt efallai? Yn amlwg nad oes unrhywun yn y gymuned sy'n siwr o'r rheswm yn ôl y ddigwyddiad ond mae hynny'n bosib. Mae crap od yn cymryd lle ar lein ambell waith. Anffodus go iawn.

mwy o ddynion yifnac yn marw drwy hunanladdiad nac oedd yn marw drwy damweiniau car.

!!Waw. Fel arfer yr achos ydy hynny yng ngwledydd trydydd byd ac ati. :ofn: