Tudalen 1 o 1

Myfyrwyr/Plaid Sosialaidd-Cangen Bangor?

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 9:28 pm
gan Sosban Fach
Pob ddydd sul yn y Harp stryd Fawr Bangor mae myfyrwyr Sosialaidd yn cyfarfod i drin a thrafod Marcsaeth, wrthdystio ac yn y blaen. Wedi mynychu ambell gyfarfod am gofio Che (oedd yn andors o ddiddorol a deud y gwir er amherthnasol), " is BNP facist", rwsia....etc etc.... (gweld be dwin feddwl!?!? be ma Che a BNP i wneud efo Chymru sosialaidd??) yr ydwin anghyfforddus efo hywrfrydedd y myfyrwyr sosialaidd i son am bynciau perthnasol i Wynedd -yn benodol a'r iaith Gymraeg a pynciayu llosg "dosbarth gweithiol" Cymraeg a'i hannes...
Heb gyfarfod a run Cymro na Chymraes Cymraeg yn y cyfarfodydd, heb (er i mi ymholi) gael un cyfarfod am hannes "dosbarth gweithilol" (son am y chwarel ac ati ella) yr ardal na cyfarfod am effaith cyfalafiaeth ar y iaith gymraeg, na am y cau'r ysgolion bach hyd yn oed (ma na llu o byncia ma nhw wedi anwybyddu de) yr wyf wedi dod i gerdu bod Plaid/Myfyrwyr Sosialaidd yn ecsliwsif i Stiwdants Saesneg, er iddyn nhw bwysleisho ei bod nhw ddim felly o gwbwl... mae nhw un chwerthinllyd o allan o gysylltiad efo be mae pobol tlotaf gywnedd ar ei ol! Sgweneshi rhyw rant am y gymraeg idyn nhw am hyn ond natha nhw'm llwyddo rhoi ateb call i mi... ond bod nhwn meddwl cael cyfarfod am y gymraeg mis mai... bron BLWYDDYN rol iddyn nhw sefydlu eu hynain!! Be da chi'n wneud o hyn? Da chi wedi bod mewn cyfarfod?
Mae ei calona bach yn y lle iawn chwara teg ond duww ma nhw out of touch... baswn in gofyn nhw ddarlen Wythnos yng Nhymru fydd ond sgenaim syniad os ma na gyfiaethad saesneg! Be basa'n "cymreigio" nhw fel petau?

Re: Myfyrwyr/Plaid Sosialaidd-Cangen Bangor?

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 9:36 pm
gan Rhys Llwyd

Re: Myfyrwyr/Plaid Sosialaidd-Cangen Bangor?

PostioPostiwyd: Llun 03 Maw 2008 12:04 pm
gan Creyr y Nos
Jiw jiw. Swnio'n ddiddorol Rhys. Ddim yn fy synnu chwaith. Am wn i dyma hanes sosialwyr Cymraeg ar hyd y blynyddoedd - methiant i gysylltu'r frwydr fyd-eang gyda brwydrau lleol, yn enwedig os ydynt yn ymwneud gyda'r iaith Gymraeg, un ai oherwydd anwybodaeth neu oherwydd camddehongli pryeron am ddyfodol yr iaith a rhyw fath o elitiaeth. Ai jyst clwb i falu awyr yw e, neu oes trefn da nhw? Dim byd fel hyn yn digwydd yn Aber hyd y gwn i.

Swno fel golygfa o Cysgod y Cryman fyd!

Re: Myfyrwyr/Plaid Sosialaidd-Cangen Bangor?

PostioPostiwyd: Maw 04 Maw 2008 6:05 pm
gan Sosban Fach
Well ma na LOT o falu cachu... felly ma lot o fydiadau dyddia ma ond cheara teg ma nhw'n gwneud lot efo deisebau a rhannu ffurfleni -dwi wedi cynnig cyfiaethu iddyn nhw a ma nw reit serchog am yr "achos". Dwnim be i wneud ohona nw i ddeud y gwir :? a diolch am y linc nai yrru o mlaen idda nhw!

Re: Myfyrwyr/Plaid Sosialaidd-Cangen Bangor?

PostioPostiwyd: Iau 06 Maw 2008 1:58 pm
gan Creyr y Nos
Rhys Llwyd a ddywedodd:When was Wales? Gwyn A. Williams


Newydd fod adre ac wedi gwneud raid ar lyfre fy rhieni - hwn yn un ohonyn nhw. Darllennwch stwff TE Nicholas fyd - gwych iawn!

Re: Myfyrwyr/Plaid Sosialaidd-Cangen Bangor?

PostioPostiwyd: Iau 29 Mai 2008 1:37 pm
gan Siontegz
Rhys Llwyd a ddywedodd:When was Wales? Gwyn A. Williams


Yn ei ddarllen o rwan! ac yn ei fwynhau yn fawr- wedi cyrraedd y rhan ar gyfraith Hywel sef cyfraith y werin erbyn cyfnod Edward ii. Mae G.A.Williams yn codi'r pwynt o "squatters" yn nechrau'r 19fed ganrif yn codi tai unos gan adrodd cyfraith Hywel er mwyn brwydro eu hawlfraint yn erbyn y tir-feiddianwyr. Am syniad gwych!!! Roeddwn i'n dychmygu'r sioc ar wynebau'r boblogaeth seisnig wledig sydd wedi cymeryd drosodd llanberis ac ucheldir mynydd llandygai heddiw petai y fath weithred yn cael ei wneud uwchben eu communes.