Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Pechod ydy rhywbeth sy'n niweidio ar rywun. Felly, swn i'n credu, fel arfer, fod cael rhyw efo phlant bach yn bechod ofnadwy. Hefyd, fel arfer, pechod ydy rhyfel. Ond cwpwl o bobl, wedi rhoi eu caniatad yn wirfoddol, yn cael rhyw - na, dim pechod mohono, boed o'r un rhyw neu yn amlryw. Fel canlyniad, mae'n bechod i rywun alw'r fath gydio yn bechod. Mrs. Robinson, ydych chi'n barod am gwrdd eich Duw?
Hmmm... mae hwn yn swnio fel crefydd wedi'i phersenoli braidd. Yn ol y Beibl mae Mrs Robinson yn dechnegol gywir i ddweud bod gwrywgydiaeth yn bechod. Ac yn ol y Beibl, petai hi'n cwrdd a Duw fe fyddai'n cytuno gyda hi - mae o yna mewn du a gwyn.
Fel y dywedais i dw i ddim yn Gristion ond os yw pobol am honni pole-position yn y sancatidd league ar draul eraill fe fyddwn i'n hoffi gweld ryw fath o brawf ysgrythurol dros ei honiadau.