Tudalen 2 o 2

Re: Y Pinko Iris Robinson AS wrthi eto

PostioPostiwyd: Maw 22 Gor 2008 9:34 pm
gan Macsen
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Pechod ydy rhywbeth sy'n niweidio ar rywun. Felly, swn i'n credu, fel arfer, fod cael rhyw efo phlant bach yn bechod ofnadwy. Hefyd, fel arfer, pechod ydy rhyfel. Ond cwpwl o bobl, wedi rhoi eu caniatad yn wirfoddol, yn cael rhyw - na, dim pechod mohono, boed o'r un rhyw neu yn amlryw. Fel canlyniad, mae'n bechod i rywun alw'r fath gydio yn bechod. Mrs. Robinson, ydych chi'n barod am gwrdd eich Duw?

Hmmm... mae hwn yn swnio fel crefydd wedi'i phersenoli braidd. Yn ol y Beibl mae Mrs Robinson yn dechnegol gywir i ddweud bod gwrywgydiaeth yn bechod. Ac yn ol y Beibl, petai hi'n cwrdd a Duw fe fyddai'n cytuno gyda hi - mae o yna mewn du a gwyn.

Fel y dywedais i dw i ddim yn Gristion ond os yw pobol am honni pole-position yn y sancatidd league ar draul eraill fe fyddwn i'n hoffi gweld ryw fath o brawf ysgrythurol dros ei honiadau.

Re: Y Nazi Iris Robinson AS wrthi eto

PostioPostiwyd: Maw 22 Gor 2008 10:42 pm
gan Chickenfoot
"Don't hate the player, hate the game", meddai'r Iesu! :crechwen:

Re: Y Nazi Iris Robinson AS wrthi eto

PostioPostiwyd: Mer 23 Gor 2008 11:02 am
gan Jon Bon Jela
Chickenfoot a ddywedodd:"Don't hate the player, hate the game", meddai'r Iesu! :crechwen:


But surely games need players? Cop-out.

Re: Y Nazi Iris Robinson AS wrthi eto

PostioPostiwyd: Iau 24 Gor 2008 11:26 pm
gan Chickenfoot
Yn wir, senor Bon Jela. Jest ceisio dweud oeddwn i y basa'n syniad i'r rhai sydd yn gwrthwynebu i ferched a phobl hoyw cael unrhyw beth i wneud a Christnogaeth i edrych heibio'r amlwg a gweld nhw fel pobl jest fel nhw.

Fedrwch chi ddim newid rywun fel na'n gyfan gwbl, ond mi fedrwch chi ddisgwyl oddefgarwch. Efalla sa'n syniad i'r Eglwys dorri'n sects gwhanol beth bynnag. Wedi'r cwbl, dim ond oherwydd boner brenin am ferch ifanc 500 mlynedd yn ol mae'r Eglwys Anglicanaidd yn bodoli eniwe, felly beth fydden nhw'n colli wrth dorri'n grwpiau llai?

Re: Y Nazi Iris Robinson AS wrthi eto

PostioPostiwyd: Gwe 10 Hyd 2008 6:20 pm
gan Gwenci Ddrwg
Wedi'r cwbl, dim ond oherwydd boner brenin am ferch ifanc 500 mlynedd yn ol mae'r Eglwys Anglicanaidd yn bodoli eniwe, felly beth fydden nhw'n colli wrth dorri'n grwpiau llai?

Wel mae'r achos i gyd yn tipyn mwy cymhleth na ti'n deud. Mae hynny fel meddwl y ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf jest oherwydd cafodd Franz Ferdinand ei loffruddio un dydd braf ar hap, a dim byd arall.

Yn ol y Beibl mae Mrs Robinson yn dechnegol gywir i ddweud bod gwrywgydiaeth yn bechod. Ac yn ol y Beibl, petai hi'n cwrdd a Duw fe fyddai'n cytuno gyda hi - mae o yna mewn du a gwyn.

Efellai, ond dim ond un pechod ydy o rhwng llawer. Mewn du a gwyn hefyd ydy'r ffaith bod gan pawb pechodau heb eithriad- fel casau dy gymydog (ia dwi'n siarad รข ti Robinson)- felly rhagrith anghredadwy ydy o pan mae hi (neu pobl arall o'r un fath) yn cwyno am bechodau rhai pobl arall ac hawlio na ddylen nhw gymryd rhan mewn Cristnogaeth. :rolio: O safbwynt Cristion, mae atgasedd o rhan rhai eglwysi di creu gormod o anffyddiwr.

Yn wir, senor Bon Jela. Jest ceisio dweud oeddwn i y basa'n syniad i'r rhai sydd yn gwrthwynebu i ferched a phobl hoyw cael unrhyw beth i wneud a Christnogaeth i edrych heibio'r amlwg a gweld nhw fel pobl jest fel nhw.

Yn union.