Tudalen 1 o 1

Gwleidyddion sy'n gallu areithio...

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 2:30 pm
gan Ray Diota
Wrth wylio rhen Farack Obama yn tyngu llw p'ddwrnod, feddylies i bo fi erioed wedi mwynhau gwrando ar wleidydd cymaint a dwi'n mwynhau gwrando ar y boi 'ma...

pa wleidyddion eraill sy'n gallu siarad yn wirioneddol dda, gwedwch?

Re: Gwleidyddion sy'n gallu areithio...

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 3:39 pm
gan Cymro13
Yn sicr fydd rhaid dweud Dafydd Wigley

Pa mor bell nol ti moen mynd nol
Tony Blair
Margaret Thatcher
Winston Churchill
Adolf Hitler

Re: Gwleidyddion sy'n gallu areithio...

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 3:58 pm
gan Ray Diota
Cymro13 a ddywedodd:Yn sicr fydd rhaid dweud Dafydd Wigley


:lol: shwt on i'n gwbod fyddet ti'n gweud 'na, gwed?

Tony Blair


ych a fi, na... falle mai bai Michael Sheen 'na yw e, ond wy ffili watsho blair heb feddwl am kenneth williams. 'communicator' fydde ni'n galw blair, nid areithiwr mawr fel dwi'n edrych am fan hyn...

Margaret Thatcher; Adolf Hitler


sai'n gwbod pun o'r rhain sy'n fwya amhriodol...! odd thatcher yn 'areithio'n dda? sai'n cofio i fod yn onest... odd 'i delivery hi yn eitha di-fflach nagoedd?

cer nol mor bell a ti mo'yn chan!

ma george galloway yn siarad lot o gachu, ond wy yn joio gwrando ar y boi...

ma pobl 'di gweud wrtho fi mai un o'r siomedigaethau mwyaf pan adawodd Elystan Morgan y Blaid oedd colli areithiwr o safon...

Re: Gwleidyddion sy'n gallu areithio...

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 5:36 pm
gan Josgin
Emyr Llewelyn - mab T. Llew Jones. Un o sylfaenwyr Adfer a Chymro mwy na bron yr un gwleidydd.

Re: Gwleidyddion sy'n gallu areithio...

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 6:18 pm
gan Lletwad Manaw
Arthur Scargill

Re: Gwleidyddion sy'n gallu areithio...

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 6:29 pm
gan Mali
Ieuan Wyn Jones....neu mi oedd tro diwethaf i mi glywed o'n siarad ! :D

Re: Gwleidyddion sy'n gallu areithio...

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 8:34 pm
gan Seonaidh/Sioni
Yn yr 20fed ganrif, mae Adolf Hitler yn "deilwng" o'r wobr. Dyna engraifft hynod o dda i bawb - jesd am fod neb yn areithydd ardderchog, fynega hynny ddim y dylai neb yn eu dilyn. Cofia - y pwnc sy'n bwysig, dim dull areithio.

Cofiaf fod Gerry Healy'n effeithiol iawn (hen arweinydd y WRP). Crap oedd Tony Blair a Marged Towraig.

Re: Gwleidyddion sy'n gallu areithio...

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 9:02 pm
gan Cawslyd
Ian Paisley. Ond ella mai rants mwy nag areithia' 'di'i forte o...

Re: Gwleidyddion sy'n gallu areithio...

PostioPostiwyd: Sad 24 Ion 2009 1:25 am
gan huwwaters
Enoch Powell?

Re: Gwleidyddion sy'n gallu areithio...

PostioPostiwyd: Sad 24 Ion 2009 1:26 pm
gan Ray Diota
huwwaters a ddywedodd:Enoch Powell?


iasu, ma hwn yn troi'n rial edefyn asgell dde!

ma'r statiw o Nei Befan yn caerdydd yn awgrymu bod e'n lico gweud i weud (naill ai 'ny neu ma fe ar fin ishte lawr i gal cachad)

Delwedd