Tudalen 1 o 1

Dydd St Patricks

PostioPostiwyd: Gwe 06 Maw 2009 12:50 am
gan Dai dom da
:seiclops: Dwi mewn mood bach cynical heddi, ac wrth gerdded drwy Matalan diwrnod or blan a gweld arddangosfa yn dathlu dydd St Patricks nath e jest clico. Pam fod y dydd yn cael shwt gwmynt o ffws? Dim byd yn erbyn y gwyddelod ddo. Ond i fi, dwi'n teimlo'n itha bemused bod hwn yn cael ei hysbysebu mewn siopau, tafarndai, undebau etc dros y DU a gweddill y byd. Ffer enuff bod e'n esgus am piss up! Ychydig yn drist bod pobol yng Nghymru yn gweld y dydd yn rhywbeth fwy sbesial na Dydd Gwyl Dewi. Run peth gyda St George's o bosib.

(sori, ond beth yw'r term cymraeg am Patricks? )

Pfft, falle mai jest fi syn whilo am esgus i gal rant ar rhywbeth. :crechwen:

(un nodyn arall, ddim yn siwr os mai hwn yw'r seiat iawn am y pwnc ma, gwd thing)

Re: Dydd St Patricks

PostioPostiwyd: Gwe 06 Maw 2009 9:01 am
gan ceribethlem
Dai dom da a ddywedodd::seiclops: Dwi mewn mood bach cynical heddi, ac wrth gerdded drwy Matalan diwrnod or blan a gweld arddangosfa yn dathlu dydd St Patricks nath e jest clico. Pam fod y dydd yn cael shwt gwmynt o ffws? Dim byd yn erbyn y gwyddelod ddo. Ond i fi, dwi'n teimlo'n itha bemused bod hwn yn cael ei hysbysebu mewn siopau, tafarndai, undebau etc dros y DU a gweddill y byd. Ffer enuff bod e'n esgus am piss up! Ychydig yn drist bod pobol yng Nghymru yn gweld y dydd yn rhywbeth fwy sbesial na Dydd Gwyl Dewi. Run peth gyda St George's o bosib.

(sori, ond beth yw'r term cymraeg am Patricks? )

Pfft, falle mai jest fi syn whilo am esgus i gal rant ar rhywbeth. :crechwen:

(un nodyn arall, ddim yn siwr os mai hwn yw'r seiat iawn am y pwnc ma, gwd thing)


Sant Padrig yw e'n Gymraeg am wn i

Hysbyseb mawr i Guinness yw'r holl beth yn fy marn i.

Re: Dydd St Patricks

PostioPostiwyd: Gwe 06 Maw 2009 9:24 am
gan Orcloth
Dydd Sul dwaetha (Dydd Gwyl Dewi) mi es i Tesco ym Mangor, a doedd na ddim byd i'w weld yn dathlu'n diwrnod arbennig ni - fyswn i'n disgwyl gweld o leia fflagia bach (neu mawr) a cenin pedr neu ddwy i addurno'r lle, ond dim byd, o'n i mor siomedig! (Ond be da chi'n ddisgwyl gan Tesco, de?).
Dwn i'm be di'r ffys fawr sgin pawb am Ddiwrnod Sant Padrig, chwaith. Mae fy ngwr i'n hanner-gwyddeleg, a fydd o bydd yn dathlu'r diwrnod! Mae gen i ofn dy fod ti'n iawn Ceri, mai diwrnod i werthu mwy o Guinness ydi'r esgus dathlu yn y wlad yma!

Re: Dydd St Patricks

PostioPostiwyd: Gwe 06 Maw 2009 10:14 am
gan sian
Orcloth a ddywedodd:Dydd Sul dwaetha (Dydd Gwyl Dewi) mi es i Tesco ym Mangor, a doedd na ddim byd i'w weld yn dathlu'n diwrnod arbennig ni - fyswn i'n disgwyl gweld o leia fflagia bach (neu mawr) a cenin pedr neu ddwy i addurno'r lle, ond dim byd, o'n i mor siomedig! (Ond be da chi'n ddisgwyl gan Tesco, de?).


Ti'n siwr? Ro'n i 'na nos Sadwrn a swn i'n taeru bod un o'r billboards 'na tu fas yn dweud rhywbeth fel Tesco'n Dathlu Dydd Gŵyl Dewi a bod covers ar y fath o gatiau bach ar y ffordd mewn i'r siop, (neu falle mod i'n drysu rhwng Tesco Bangor a Morrisons Caernarfon fan hyn) ond, yn sicr, roedd 'na stondin Gwyl Ddewi 'na - yn gwerthu cyri Sws/Tân y Ddraig a rhyw gawsiau a cauliflower cheese Really Welsh aballu.

Re: Dydd St Patricks

PostioPostiwyd: Gwe 06 Maw 2009 10:30 am
gan Orcloth
Argol mawr, naddo wir, welais i ddim byd fel 'na yno dydd Sul, mae'n rhaid nad oeddan nhw'm yn amlwg iawn! Mae'n rhaid mai ym Morrison's welaist ti nhw felly...

Re: Dydd St Patricks

PostioPostiwyd: Gwe 06 Maw 2009 1:19 pm
gan Josgin
Mae diwrnod St Patrick yn cael ei gysylltu ac yfed mewn ffordd na fuasem yn (gobeithio ) ystyried dathlu Mawrth 1af. Yr oedd Dewi yn lwyr-ymwrthodwr, ac mae Mawrth 1af wedi ei glymu a thraddodiadau crefyddol a diwylliedig sy'n anodd eu cynnal mewn tafarn . Tydwi ddim yn cofio unrhyw stwr o gwbl nes tua 15 mlynedd yn ol, pryd y gwnaeth 'tafarndai' Gwyddelig fynd yn boblogaidd. Cofier mai Cymro oedd Patrick, yn ol ambell i hanes. Mae'r Albanwyr yn gwneud mwy o ddathlu o noson 'Burns' nac o ddydd eu nawddsant hwythau (Andrew ? ) .

Re: Dydd St Patricks

PostioPostiwyd: Sad 07 Maw 2009 3:33 am
gan Mali
Dwi'n meddwl ein bod ni'n rhy ddistaw fel Cymry . Mae'n rhaid i ni atgoffa pawb pryd y bydd hi'n Ddydd Gwyl Dewi Sant, ond rhywsut neu gilydd, mae pawb yn gwybod pan fydd hi'n Ddiwrnod Sant Padrig. :?