Tudalen 1 o 1

Pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 7:45 am
gan sian
Dyma holiadur i'ch helpu i benderfynu pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.
Roedd y canlyniad yn dipyn o ryddhad i mi!

Re: Pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 8:18 am
gan Orcloth
Roedd hynna'n ddiddorol iawn, diolch am ei bostio, Sian - toedd fy nghanlyniad i ddim be o'n i'n ddisgwyl! O wel, o leia dwi'n gwybod pwy sy'n mynd i gael fy mhleidlais i rwan!

Re: Pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 9:04 am
gan Hogyn o Rachub
Plaid ges i, ond gan ddweud hynny doedd gen i fawr o ots am y rhan helaethaf o'r pethau a oedd yn codi :?

Re: Pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 11:48 am
gan Duw
37/56 oedd y hit gore gydag unrhyw blaid. Byger em all. Dwi'n mynd i ddechre plaid fy hun. Mambi-pambi limp-wristed rhyddfrydol PC bolycs.

Dyma f'agenda:

Atal yr holl rwtsh ar anffafriaeth positif - rheini sy am sywdd yn mynd amdani gyda'r person gore'n ei chael, yn annibynnol o ryw, perswad personol, lliw croen ac anabledd

Y gosb eithaf (gilotîn) ar gyfer gwleidyddwyr llwgr

Pawb i dderbyn y rheol '3 streic' - termau hir mewn carchar yn dilyn hyn

Goddefgarwch sero i drosedd ieuenctid - cosb gorfforol

Sut ydy hynny i ddechrau?

Re: Pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 12:12 pm
gan Orcloth
Sdim rhaid deud dim mwy, ti'n llygad dy le, Duw! :D

Re: Pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 5:20 pm
gan Cawslyd
Mi ydwi fod i bleidleisio dros Jury Team neu Libertas. Hmm.

Re: Pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 5:23 pm
gan Seonaidh/Sioni
Duw a ddywedodd:37/56 oedd y hit gore gydag unrhyw blaid. Byger em all. Dwi'n mynd i ddechre plaid fy hun. Mambi-pambi limp-wristed rhyddfrydol PC bolycs.

Dyma f'agenda:

Atal yr holl rwtsh ar anffafriaeth positif - rheini sy am sywdd yn mynd amdani gyda'r person gore'n ei chael, yn annibynnol o ryw, perswad personol, lliw croen ac anabledd

Y gosb eithaf (gilotîn) ar gyfer gwleidyddwyr llwgr

Pawb i dderbyn y rheol '3 streic' - termau hir mewn carchar yn dilyn hyn

Goddefgarwch sero i drosedd ieuenctid - cosb gorfforol

Sut ydy hynny i ddechrau?

Wel, a deud y gwir, Dduw, mae'n swnio tipyn fel polisiau'r BNP.

Re: Pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 5:28 pm
gan garynysmon
Plaid Cymru gesh i, synnu braidd. Wastad wedi meddwl mod i lot i'r dde o bolisiau'r Blaid ar ambell fater, er mod i'n aelod ohonyn nhw.

Re: Pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 5:45 pm
gan osian
Nesh i fistec tro cynta, a clicio ar Plaid ac felly na'th plaid ddim ymddangos. i plaid ydwi agosa, er i mi golli mynadd efo'r holiadur a chlicio heb ddarllan yn iawn weithia.

Re: Pa blaid i bleidleisio drosti yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 6:30 pm
gan Duw
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:37/56 oedd y hit gore gydag unrhyw blaid. Byger em all. Dwi'n mynd i ddechre plaid fy hun. Mambi-pambi limp-wristed rhyddfrydol PC bolycs.

Dyma f'agenda:

Atal yr holl rwtsh ar anffafriaeth positif - rheini sy am sywdd yn mynd amdani gyda'r person gore'n ei chael, yn annibynnol o ryw, perswad personol, lliw croen ac anabledd

Y gosb eithaf (gilotîn) ar gyfer gwleidyddwyr llwgr

Pawb i dderbyn y rheol '3 streic' - termau hir mewn carchar yn dilyn hyn

Goddefgarwch sero i drosedd ieuenctid - cosb gorfforol

Sut ydy hynny i ddechrau?

Wel, a deud y gwir, Dduw, mae'n swnio tipyn fel polisiau'r BNP.


Falle, ond bydde'r holl ddiawled yn cwmpo o dan f'ail pwynt - off with their heads!
Beth am sefydlu rheolaeth filwrol o dan Cadfridog 'duw'?
Pob llanc dan 19 i wneud eu gwasanaeth cenedlaethol i'r fyddin newydd! Caiff addoli cyhoeddus ei wahardd a chaiff diwrnod ysgol ei ddechre gyda phlant yn datgan eu cefnogaeth i'r unbennaeth newydd.
Bois bach, dwi ar roll nawr. Maniffesto llawn i'w gyhoeddi'n fuan.