gan Sioni Size » Llun 13 Gor 2009 2:57 pm
Un gwych cyffredinol sgen i ydi Ireland: a History gan Robert Kee. Mae'n rhoi dipyn o bwys ar y cyfnod hwnnw ac yn sbanio'r canrifoedd a mae'n ddarllen arbennig, lot haws i'w ddarllen na llyfrau Tim Pat Coogan (Michael Collins, The IRA, 1916 and the Easter Rising) er enghraifft. Mae'n rhoi pwys mawr ar fod yn 'niwtral' fel sa ti'n ddisgwyl ella gan Sais, a'i ymgais i gyfiawnhau gweithredoedd Lloegr yn Iwerddon adeg y newyn yn ochri ar ddoniolwch ("peidiwch a chondemnio Prydain/Lloegr o fod yn wrth-Wyddelig - mi fydda nhw wedi gwneud hyn i unrhyw wlad"). Ond ma'n sleifar o lyfr fel arall.
Ac ynmddiheuriadau, mi o'n i di bwriadu ateb dy neges Gweplyfr am hyn ond nes i ddim. Dyna ddysgu ti fynd ar y maes gynta.